Alan Dix

Yr Her

Roedd y daith gerdded hon yn un o’r pethau hynny sy’n “teimlo’n iawn”. Cymro ydw i, wedi fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd: ond fûm i ddim yn byw yno ers 35 mlynedd, a dwi’n byw nawr yn Tiree, un o ynysoedd yr Alban, yn llydan agored i wynt Gogledd Iwerydd.

Un diwrnod yn Ebrill 2012 bûm yng Nghaerdydd yn gweithio, ac ar fy ffordd yn ôl i’r gogledd roeddwn yn gwrando ar I Radio Wales. Roedd yna adroddiad am Lwybr Arfordir Cymru, a oedd i’w agor ym mis Mai’r flwyddyn honno. Esboniodd yr adroddiad y golygai llwybr yr arfordir, ynghyd â Llwybr Clawdd Offa, y gallech gerdded o amgylch Cymru gyfan.

A gwyddwn, yn y man, y byddai’n rhaid imi wneud hynny.

Hoffwn ddweud y cafwyd blwyddyn o gynllunio ac ymbaratoi corfforol wedi hynny: ond mae bywyd yn brysur, felly ar y 18fed o Ebrill 2013 dyma fi’n cychwyn allan, â syniad ynghylch ble’r arhoswn ar Glawdd Offa, ond fawr ddim rhagor. Doeddwn i ddim wedi cerdded ymhell ers fy nyddiau ysgol, tua phump neu chwe milltir, ar y mwyaf, a hynny dim ond tuag unwaith y flwyddyn. Felly darfu imi ddysgu wrth gerdded.

Nid cerdded yn unig oedd fy mwriad, ond ymwneud â chymunedau lleol ac astudio Technoleg Gwybodaeth “ar yr ymylon” ar gyfer cerddwyr a phobl leol. Yr oeddwn (ac yr wyf) yn hel ar gyfer tair elusen, hefyd: MHA (cartrefi ar gyfer yr henoed), Tenovus (gofal ac ymchwil cancr) a The Wallich (cefnogaeth ar gyfer y digartref), pob un â chysylltiad Cymraeg, ond yn cynrychioli budd ehangach. O, ie, rhag imi anghofio: fe’m cynigiais fy hun i ymchwilwyr eraill yn “labordy byw”, gan wisgo amryw synwyryddion corff, a darnau eraill o dechnoleg!

Rhannau Gorau

Ple mae dechrau? â bod yn fanwl, mae cerdded ar draws Pont Hafren (yr un 1966) yn osgoi pen Cas-gwent llwybr yr arfordir, ond byddwn yn ei argymell i unrhyw un: roedd yr ymdeimlad o dangnefedd wrth edrych allan dros aber Hafren yn annisgwyl ac yn syfrdanol. Ymlaen hyd Glawdd Offa, mae’r eglwysi sydd â chyfleusterau gwneud paned mor hyfryd pan ydych ar ran heb na chaffis na siopau (llawer o’r rhain!).

Yna mae Saith Rhyfeddod Ymylon Cymru. Yn y de, Pont Gludo Casnewydd; yn y dwyrain, Dyfrbont Pontcysyllte a Dinas Brân ger Llangollen; yn y gogledd, y Duke of Lancaster a Chapel Trillo; ym Môn, Ffynnon Wenfaen; ac yn y gorllewin, Bwlch Dysynni.

Yr olygfa orau…wel, beth alla’i ei ddeud? Mae’n anodd curo Three Cliffs Bay yng Ngŵyr, ond mae cynifer o leoedd o gwmpas gogledd-orllewin Môn, Llŷn, a sir Benfro…pobman, mewn gwirionedd! Traethau gorau: y Greigddu, ger Porthmadog; y traeth diderfyn, bron, rhwng Tywyn ac Aberdyfi; a Freshwater West, oherwydd ei wylltineb.

Y llwybr gorau, o bell ffordd, yw Llwybr Arfordir Ceredigion: ysblennydd, ond gyda digon o arwyddion, ac wedi’i dirweddu’n ddiweddar, hyd yn oed yn y rhannau “heriol”.

Y syndod mwyaf: arwyddion rhyfeddol aber Dyfrdwy, herwfarddoniaeth ar hyd llwybr yr A55 ger Penmaenmawr, a – o’r fath lawenydd – Gwlad y Tylwyth Teg rhwng Llandudoch a Phen-caer, a’r arddangosfa anhygoel a grëwyd gan Lyfrgell ac Archifau Roderic Bowen yn y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.

Ond uwchlaw’r oll - pobl. Ni allaf eu henwi oll, cyfeillion hen a newydd. Mae yna gyd-gerddwyr ddoe a heddiw. Rhai, fel Wil, y darfu imi’u cyfarfod yn hollol rithiol: eraill, fel Rosie, wyneb-yn-wyneb (er, pa mor anodd fyddai ein colli ein gilydd ar lwybr arfordirol?!). Ac Arry, mi fyddi di’n arwr imi am byth! Mae yn rai y darfu imi’u cyfarfod neu ddod i’w hadnabod ar y ffordd: Paul a’m croesawodd i’w gartref ac at ei deulu; Les O swydd Gaerhirfryn, sy’n rhugl ei Gymraeg; BOCS yng Nghaernarfon; Gwesty’r Llew yn Harlech, y clwb yn y maes carafanau yn Nhrefynwy. Hefyd pobl y prifysgolion yng Nghymru, yn yr Ysgol Gelf a Dylunio yn y Met, Caerdydd; Glyndŵr; Abertawe; Bangor, a’r Drindod Dewi Sant. Ac ar draws y ffin yn dot.rural yn Aberdeen, ac yn Birmingham a Nottingham. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd: aelodau’r teulu, cyfeillion, cefnogwyr pell ac agos, a’r holl rai a gerddasant rannau â mi. Diolch i chi oll.

Ac yna’r pwyllgor croeso pan gyrhaeddais gartref yn Tiree, yn cymeradwyo ac yn chwifio baneri wrth imi gamu oddi ar y fferi.

Mannau Gwaethaf

Er y bu’r daith, ar y cyfan, yn rhyfeddol, bu rhai adegau go wael, fel colli fy Garmin GPS ar y diwrnod cyntaf (y darfu imi’i ganfod yn ddiweddarach, ond dim ond wedi imi archebu un newydd!); colli’r ffordd yn wastad ym Môn a gogledd-orllewin Cymru (beth oedd hwnnw am “arwyddion ffordd”?), ac ymwthio trwy fieri a dail poethion hyd at fy ngheseiliau yng ngogledd Gŵyr.

A’r trefnu! Defnyddiais gerbyd gwersylla’n “gerbyd cartref”, gan y bu arnaf angen cysylltu â chyfrifiaduron o bryd i’w gilydd, ac roedd ynddo lyfrgell fechan am Gymru a cherdded. Ond golygai hynny y bu’n rhaid imi fynd yn ôl ac ymlaen ato, ynteu pob diwrnod, ynteu pob ychydig ddiwrnodau wrth ddefnyddio llety gwely a brecwast, gydag amserlenni bws newydd ym mhob un ardal newydd….nefi!

Yn gorfforol, roeddwn i wedi disgwyl poenau a brifo, yn enwedig yn y dechrau, ond bu’n ffodus nad oedd arnaf angen ond rhoi plastr ar ddwy swigen, yr holl ffordd. Wedi tair wythnos, roeddwn fel gafr mynydd: maen gwirionedd, roeddwn i wedi dod yn un o’r bobl wirioneddol ddiflas hynny, nad yw dringo elltydd yn arafu dim arnynt. Yna, ar lannau’r gogledd, cefais y drafferth gorfforol gyntaf pan chwyddodd fy ffêr chwith fel balŵn: ond darfu imi newid f’esgidiau am sandalau, a chan ymdebygu mwyfwy i un o broffwydi’r Hen Destament (fe’m camgymrwyd, unwaith, am dderwydd), ymlaen â mi.

Ond yna…wedi tua mis a hanner, daeth blinder tymor hir, diffyg cwsg, a blinder meddwl arnaf. Dyma’r “wal”, chwedl rhedwyr, ac mewn ras redeg mae’n parhau tua deng munud: ond ar daith bell, mae’n parhau sawl wythnos. Yn ddi-hwyl, yn lluddedig, yn pendroni pam roeddwn i’n gwneud y fath beth twp, teimlais fy mod i’n gwastraffu f’amser. Heb unrhyw adnoddau meddyliol na chorfforol wrth gefn, yr unig sbardun a’m gyrrai ymlaen oedd yr wybodaeth fy mod i wedi penderfynu gwneud y peth hwn.

Ond hyd yn oed yn y cyfnod tywyll hwn, bu ambell i gyw haul, a rhywsut deuthum drwy’r drin - diolch i chi, bobl Harlech, Y Drindod Dewi Sant, a Dyffryn Dysynni, ac i Lwybr Arfordir adfywiol Ceredigion.

Y man gwaethaf oll, ond y mwyaf gogoneddus, wrth gwrs, fu cyrraedd yn ôl i Gaerdydd, a gwybod fod y daith wedi dod i ben.

Beth nesaf?

Er imi ddarfod â cherdded yng Nghaerdydd ar yr 28ain o Orffennaf (yn ôl i dref fy ngeni ar ddiwrnod fy ngeni), mae’r gwaith yn mynd rhagddo. Dwi eto’n dal i fyny â bylchau ysgrifennu yn y blog (tua 2,000 – 3,000 o eiriau ar gyfer pob diwrnod), didoli 19,000 o luniau, a churadu’r wybodaeth a gasglwyd at ddefnydd ymchwilwyr iechyd a ffitrwydd. Dwi’n ysgrifennu llyfr ac yn traddodi sgyrsiau am y profiad…bu’r cyntaf yn Bangalore!

Gan imi gam-amcanu’n fawr cymaint o amser y mae’i angen ar gyfer cerdded y glannau, cefais lai o amser nag y dymunais ar gyfer cyfarfod â phobl, felly bydd rhaid imi ddychwelyd ambell i waith ym 2014, er mwyn gweld pobl eto, neu bobl a gollais…ond gan yrru. Y tro hwn! Os ydych chi’n byw yn un o’r cymunedau ar Lwybr yr Arfordir neu’r gororau, ac yr hoffech chi siarad am faterion o bwys yn eich bro chi, cysylltwch â mi, os gwelwch yn dda.

Ac yna y mae pobl yn gofyn, “Beth nesaf?”. Dwi’m yn sicr: rhywbeth gwahanol, debyg, ond bydd rhywbeth. Pan gyntaf y dechreuais gerdded, roedd yn rhyfedd gennyf fod pobl yn fy nghyfarch fel y math o ddyn sy’n gwneud pethau, ond nid un felly mohonof. Pobl eraill yw’r math o bobl sy’n gwneud pethau, nid myfi. Y gwir yw nad oes yna’r math o ddyn sy’n gwneud pethau: ’does ond pobl sy’n gwneud pethau…a gallwch chithau fod yn un o’r rheiny.

Darllenwch ragor am y daith, a phethau perthynol iddi, yn: "Alan Walks Wales" a Facebook.

Arddangosfa ar-lein y Drindod Dewi Sant.