Taith Charlie

undefinedCharlie Blackwell ac Al Monkman: Cerdded Llwybr Arfordir Cymru er budd St Luke’s Hospice, Sheffield rhwng 24 Ebrill a 30 Mai 2013

Caer i Gas-gwent, 37 diwrnod

Cychwyn yn gymedrol i fyny aber Afon Dyfrdwy – i’r Rhyl ac ymlaen i Fangor. Angen dringo gelltydd ddwywaith: i fyny Rhiwledyn a Phenygogarth. Llu o adar môr, gwylogod, brain coesgoch a huganod ar Benygogarth, ac yna i lawr i Gonwy a’r castell, i Fangor a thros Bont y Borth ac o amgylch Ynys Môn. Pleser pur! Arwyddion gwych, a digonedd o draethau bendigedig. Rhywfaint o waith dringo. Cofiwch chwilio am forloi, llamidyddion, dolffiniaid a siarcod – mi welson ni lawer. Chwe diwrnod o dywydd bendigedig.

Yn ôl dros y bont ac i lawr i Gaernarfon a’r castell, ac yna i Ben Llŷn. Ar ôl milltiroedd o gerdded ar y gwastad mi gyrhaeddon ni Trefor, lle bu’n rhaid inni ddringo i fyny dwy allt ar y ffordd i Nefyn. Gorfod troedio i fyny ac i lawr nifer o elltydd ar y ffordd i Aberdaron, lle gwelson ni fwy o forloi yn y bae.

Ymlaen i Bwllheli a Chriccieth a thros y bont i Benrhyndeudraeth. Roedd y blodau gwyllt wedi dechrau ymddangos. I lawr i Abermo, lle cawson ni’r gawod o law drom gyntaf, felly i ffwrdd â ni dros y bont ac ymlaen i Aberdyfi. Roedd ’na ddigonedd o elltydd ar y llwybr i Fachynlleth ac yn ôl at yr arfordir i Ynyslas, ac yna deuddydd hir ar Lwybr Ceredigion a’r allt fwyaf serth o’r daith, cyn cyrraedd Aberystwyth a throedio i’r de i Sir Benfro.

Ar hyd arfordir garw Sir Benfro roedd ’na bentrefi hardd a digonedd o fywyd gwyllt – adar, mulfrain gwyrdd, piod môr, gwiberod, llwynogod, a gallt 30,000 troedfedd a mwy, cyn cyrraedd Sir Gaerfyrddin. Cymysgedd o dir ffermio, gweundir, lonydd ac afonydd o amgylch Porth Tywyn i Lanelli, a thaith fendigedig trwy barc ac ymlaen i Fro Gŵyr.

Mi gawson ni ein tywys yn gyntaf trwy goedydd yn llawn clychau’r gog a nionod gwyllt, cyn mynd ymlaen i Drwyn Whiteford. Gwynt cryf iawn ar y traeth. Llawer o ddringo a gostwng ar y ffordd o amgylch Gŵyr. Ymlaen â ni i Fae Oxwich, ac yna’r twyni ac ar hyd yr arfordir hardd i’r Mwmbwls. Taith rwydd o amgylch Bae Abertawe, ac yna i Bort Talbot a’r strydoedd cefn. Gwyriad mawr i’r Pîl, ac yna’n ôl i’r arfordir ar hyd y twyni ac i Aberogwr, gan ddilyn yr arfordir hardd i Lanilltud Fawr, cyn cael ein gwobrwyo gydag ymweliad gan yr Arglwydd Faer ym Mhenarth. O’r fan yma, dros y bont i Gaerdydd lle mae arwyddion y Llwybr i’w gweld yn y concrid dan draed, cyn cyrraedd Casnewydd.

undefinedUn diwrnod ar ôl – cychwyn am 6 y bore. Tywydd braf, gwneud cynnydd da. Cas-gwent yn y pellter – mynd i fyny gallt, ac yna i lawr bryn, a gorffen am 3 y prynhawn.

Dim poenau, dim chwysigod, heb golli pwysau – lliw haul da, wedi cyfarfod â phobl hael ar y ffordd ac aros mewn llefydd gwych. Ddim yn daith i fynd i’r afael â hi heb ddigon o hyfforddiant. Syniad da gwisgo esgidiau cerdded.

Cewch fwy o wybodaeth am godi arian ar gyfer Taith Charlie ar www.justgiving.com/charlies-welsh-walk