Gareth Axenderrie

Eich ysbrydoliaeth

Prynhawn Dydd Sul gwlyb oedd hi a minnau’n gweithio yng Nghanolfan Groeso Caerffili pan gefais fflach o ysbrydoliaeth wrth i focs yn llawn taflenni Llwybr Arfordir Cymru gael ei ollwng ar fy nesg. A dyna gychwyn yr antur.

Rwyf wedi gwirioni ar yr awyr agored ers cyn cof, ac roedd y ffaith nad oeddwn wedi gweld digon o Gymru yn boen arnaf. Cychwynnais ar fy nhaith i gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Clawdd Offa Ddydd Llun 8fed Mehefin 2015, a hynny o Fae Caerdydd. Roedd fy hoffter o fynyddoedd yn golygu y byddai trydedd elfen yn perthyn i’m sialens: dringo Cadair Idris, Yr Wyddfa a Phen y Fan.

undefinedYn ogystal â’m dymuniad i archwilio Cymru ar droed, roedd rhywbeth arall yn f’ysgogi. Ers i Ganolfan Ganser ardderchog Felindre yng Nghaerdydd roi triniaeth i’m taid a’m nain, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i ddweud diolch.

Dyddiad Decharau: 8fed Mehefin 2015

Dyddiad Gorffen: 29ain Awst 2015

Uchafbwyntiau:  Mae’n hynod o anodd enwi unrhyw ardal fel rhyw uchafbwynt gwell na’r gweddill. Mae gan Sir Benfro gysylltiad cryf â’m hanes teuluol, a phleser o’r mwyaf oedd darganfod pob modfedd o’r Llwybr Cenedlaethol hwn ar droed.

undefined

 

 

Roedd Capel Sant Gofan a Phont Werdd Cymru ar arfordir y de yn drysorau nad oeddwn wedi’u gweld erioed o’r blaen! Hefyd, bu cerdded trwy Ddoc Penfro ar Aber Afon Cleddau yn brofiad emosiynol, oherwydd yn y fan honno y cafodd fy nhaid ei anfon yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Tra’r oedd arfordir garw Sir Benfro yn gyfarwydd, roedd arfordir ysblennydd a hardd Ynys Môn yn gwbl newydd imi. Yn ystod f’amser ar yr ynys, ysgrifennais y canlynol:

“Môn yw meistres ystrywiau a mam twyll. Wrth ichi gerdded arfordir yr ynys, mae hi fel hudoles. Mae’n eich denu gyda’i baeau, ei thraethau, ei chilfachau a’i chlogwyni godidog, cyn cau’r drws yn glep yn eich wyneb gyda diwydiannau fel porthladd Caergybi neu Orsaf Bŵer Yr Wylfa. Yna, unwaith eto, bydd yn dangos mwy o’i harddwch hudolus ichi.

A chithau bron iawn â dod i’r casgliad nad oes ganddi ddim byd mwy i’w gynnig, mae’n eich arwain rownd y gornel nesaf at olygfa ogoneddus arall, gan wneud ichi sylweddoli gwirionedd: mae’r harddwch rydych wedi breuddwydio amdano’n bodoli go iawn yma yng Nghymru.”

undefined  undefined

Roedd Llwybr Clawdd Offa yr un mor ysbrydoledig a hardd, gyda Dinas Brân, Traphont Ddŵr Pontcysyllte a’r Gelli Gandryll yn drysorau heb eu hail! Fe fuaswn yn dweud celwydd pe bawn yn honni bod y daith wedi bod yn un rwydd, ond doedd yna ddim iselbwyntiau o gwbl. Roedd treulio pob diwrnod yn troedio tir nefolaidd Cymru yn bleser pur!

Ennyd o oleuni

undefinedCyrhaeddodd fy nhaith ei huchafbwynt gyda fy nghamau olaf i Fae Caerdydd Ddydd Sadwrn 29ain Awst, ar ôl cerdded 1,164 milltir. Yn anffodus, fis yn unig ar ôl imi groesi’r llinell derfyn, collais fy nhaid Garfield, ac yntau’n 91 oed. Mae fy nhaith wedi bod yn ffordd o godi bron i £7,000 i Ganolfan Ganser Felindre hyd yn hyn. I mi, bydd bob amser yn ffordd o ddathlu cyfeillgarwch gyda’m ffrind gorau a’m hoff Gymro.

Mae pob blog sy’n gysylltiedig â’r 83 diwrnod a dreuliais yn cerdded o amgylch Cymru wedi’u casglu ynghyd yma: http://garethswelshwalk.wordpress.com