Jane Hafren

Hynt a Helynt Jane ar Lwybr yr Arfordir

Yr Her:  Dechrau cerdded Llwybr Arfordir Cymru yn y flwyddyn y cafodd ei agor, a’i gerdded i gyd a Chlawdd Offa, ar benwythnosau’n bennaf, a mwynhau pob munud.

Sir Benfro a Gŵyr Gogoneddus a Dyweddïad:

Mae o leiaf 90% o Lwybr Arfordir Cymru yn anhygoel o brydferth. 

Roedd fy rhannau gorau i yn Sir Benfro yn cynnwys y traeth pitw bach ym Mhwllgwaelod. Cyrhaeddais ar ddiwedd diwrnod poeth iawn yr haf diwethaf a disgwyl tra bod Stu, fy narpar (a thîm wrth gefn gwych o un) yn gorffen nofio, yna gwylio haul diwedd y prynhawn yn suddo tua’r môr.undefined

 

Roedd Bae Sant Ffraid yn hyfryd – Niwgwl, Tyddewi, Porth Mawr ac awr ginio yn edrych dros Fae Caerfai. Roedd gwersylla rhwng yr Aber Bach ac Aberllydan ar faes bychan yn rhagorol. Cawsom ein gwobrwyo â’r machlud gorau ar y daith gyfan.  Mae Penrhyn Gŵyr yn fendigedig.

Yn Abermaw cawsom aduniad teuluol, pryd yr ymunodd teuluoedd fy mrawd a’m brawd-yng-nghyfraith â minnau a Stu am ddau ddiwrnod o gerdded. Trodd un noson yn barti dyweddïo annisgwyl i ni. Atgofion melys.

Cawsom ein cyfareddu gan brydferthwch Ynys Môn a hefyd Pen Llŷn rhwng Morfa Nefyn a Threfor dros glogwyni uchel, heibio traethau gwag bendigedig.

 

Diwydiant, Tarmac a Phenllanw

Nid yw Casnewydd, Port Talbot a Dwyrain Caerdydd yn rhannau hardd iawn o’r Llwybr. Mae’r Rhyl yn erchyll.

 

undefined

 

Roedd yna ran o lan ogleddol Aberdaugleddau nad oeddwn yn ei hoffi o gwbl. Nid y diwydiant, y llongau, neu’r piblinellau olew, ond cerdded wrth eu hochr yn hwyr un prynhawn ar hyd coridor rhwng y gweithfeydd olew a fferm wynt. Lle unig, anial a brawychus.

Yna roedd fy mhrofiad trwch blewyn gyda phenllanw a thywyllwch ar hyd traeth 4 milltir Porth Neigwl…

Y cerdded gwaethaf ar y Llwybr yw’r ‘prom’ 70 milltir ar hyd Arfordir Gogledd Cymru gyda dim ond aber hyfryd Conwy a’r Gogarth mawreddog yn torri arno. Mae’n anffodus mai ffordd a rheilffordd sydd bob ochr i’r traethau tywod llydan hyn. Mae’r tarmac yn ei gwneud yn anodd i’r traed, ond mae’r milltiroedd yn diflannu’n sydyn.

 

Galar a Chysur

Rwyf yn codi arian i elusen ganser fach, Odyssey, er cof am fy annwyl chwaer, Ali. Maent yn helpu pobl sydd â diagnosis terfynol i fwy bywydau hirach, hapusach a llawnach. Roedd Ali wedi cwblhau reid feics 225 milltir drwy Gymru gyda grŵp o Odyssey ym mis Medi 2013, wythnos bositif iawn yn ystod ei misoedd olaf.

Daeth isafbwynt fy amser ar y llwybr wedi ei hangladd hi. Roedd hi wedi cael diagnosis o ganser terfynol yn ystod Pasg 2013 a bu farw 10 mis yn ddiweddarach, yn 49 oed ym mis Chwefror 2014.

Es i syth yn ôl i lwybr Sir Benfro ar fy mhen fy hun. Roeddwn eisiau bod ar fy mhen fy hun. Roedd hi’n help i gerdded yn ystod y dyddiau byrion. Roedd y llwybr yn fy nghynnal a’m tawelu, wrth i mi ffeindio fy ffordd dros bentiroedd a chlogwyni, wrth ymyl traethau braf a thrwy goetir llwydlas. Roedd yn help, ond roedd nosweithiau hir y gaeaf yn llethol. Cefais ddigon ar ôl tri diwrnod.

 

Codi arian

Mae’r gwaith y mae Odyssey’n ei wneud gyda chleifion canser a’u teuluoedd mor werth chweil. Fy nharged codi arian i yw £5000.00 ac rwyf 76% yn hyd yma. Darllenwch fwy yma:  www.justgiving.com/Jane-Hafren1/  Roedd Ali wedi cwblhau reid feics 225 milltir drwy Gymru ym mis Medi 2013, wythnos gadarnhaol iawn yn ei misoedd olaf.

undefined

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Jane Hafren gan:

E-bost: jane@thewalkoflifecoach.com

Safle we: www.thewalkoflifecoach.com

Dilynwch fi yma: www.facebook.com/jane.hafren neu ar: www.facebook.com/JaneHafrenTheWalkOfLifeCoach

 

Ôl-nodyn: Dwi’n priodi mewn wythnos â dyn nad oeddwn wedi’i gyfarfod pan ddechreuais fy nhaith gerdded. Rwy’n ysgrifennu llyfr am fy nhaith ar Lwybr yr Arfordir/Clawdd Offa.