John Haley and Johanne Léveillé

John Haley a Johanne Léveillé

Eich Ysbrydoliaeth

Yn Ottawa, Canada, rydyn ni byw, felly tydi Llwybr Arfordir Cymru yn sicr ddim yn lleol i ni. Ond ym mis Mehefin 2011 fe gerddon ni Lwybr Arfordir Sir Benfro o Amroth i Landudoch. Roedden ni eisiau mwy, a gyda Llwybr Arfordir Cymru’n cael ei greu’n swyddogol, fe benderfynon ni gario ymlaen i’w gerdded i gyd.

 

Dyddiad cychwyn:  Ym mis Mehefin gwlyb iawn 2012 fe slwtsion ni’n ffordd ar hyd Bae Ceredigion i Borthmadog. Yn ystod dau drip gwahanol yn 2013, un yn oerfel llym mis Ebrill a’r llall yn nhywydd llawer brafiach mis Medi, fe gerddon ni o amgylch Penrhyn Llŷn ac Ynys Môn, ac ymlaen i Gonwy. Ym mis Mehefin 2014 buom yn troedio gormod o lwybrau wyneb-caled o Gonwy ar hyd pen gogleddol Llwybr Arfordir Cymru i Gaer, ac wedyn o’i ben deheuol yng Nghas-gwent i Abertawe.

Dyddiad gorffen: Yna, ym mis Mehefin 2015, fe gerddom o Abertawe i Amroth, gan gyrraedd yno ar Fehefin 25 i gwblhau Llwybr Arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd.

Roedden ni’n aros gan mwyaf mewn llefydd Gwely a Brecwast ar hyd y Llwybr. Roedden ni’n cerdded am sawl diwrnod o bob lle Gwely a Brecwast, gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus rhwng y llety a diwedd y daith bob dydd. Weithiau roedden ni’n cario sachau ar ein cefnau pan fyddem yn symud o un llety i’r nesaf. Ar ein teithiau, roedd yr arwyddion ar hyd y Llwybr yn dda iawn yn gyffredinol, ond byddai rhai arwyddion i ddangos y ffordd at y Llwybr mewn mannau allweddol (e.e. safleoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, a chanolfannau gwybodaeth) yn help.

undefined

Uchafbwyntiau

Roedd llawer mwy o uchelfannau nag y gallwn eu rhestru yma. Mae Arfordir Sir Benfro yn adnabyddus am ei odidowgrwydd, a hynny’n gwbl haeddiannol, ond mae i bob rhan o’r Llwybr ei apêl a’i harddwch ei hun. Gwnaeth natur anghysbell rhannau o Benrhyn Llŷn, a chyfaredd Ynys Môn, argraff arbennig arnom. Un uchafbwynt gydol ein teithiau oedd parodrwydd y bobl y cwrddon ni â nhw ar y Llwybr ac oddi arno i helpu, a’u hagwedd gyfeillgar. I John, sydd â’r hyn y byddai llawer o bobl yn ei alw’n ofn uchder, un uchelfan i’w gofio oedd croesi’r bont droed uchel ar Bont Gludo Casnewydd.

 

Iselbwyntiau

Iselfannau corfforol oedd llawer o’r rhain lle mae’r Llwybr yn disgyn i lefel y môr – doedden nhw ddim yn isel yn feddyliol. Ond roedd cerdded rhannau o Benrhyn Llŷn, pan oedd anwyd trwm ar y ddau ohonom a’r gwyntoedd yn brathu’n oer, yn sicr yn her, felly hefyd y teithiau ar garlam gwyllt ar fws deulawr rhwng Caernarfon a Chriccieth. Roedd cerdded ar y llwybr beicio rhwng y Fflint a Chaer yn ddiflas ac i’w weld yn ddibwrpas – i ni, nid oedd yn ymddangos yn rhan o’r arfordir.

 

Ennyd o oleuni

Wrth gerdded y Llwybr, sylweddolem fwy a mwy pa mor rhyfeddol oedd y gamp o sefydlu’r Llwybr hwn ar hyd holl arfordir Cymru. Syniad syml yn y bôn, a ffrwyth llafur blynyddoedd lawer nifer o bobl, a ninnau, gerddwyr y Llwybr, yn cael manteisio arno. 

Ar achlysur fy mhen-blwydd yn 65 oed, wrth inni deithio ar y trên o faes awyr Birmingham i Borthmadog, yn union i’r Gogledd o Dywyn, gwelsom y bont droed newydd yn Aber Dysynni, oedd yn arbed llawer o’r gwaith cerdded a wnaethom y flwyddyn flaenorol. 

Roedd yn amlwg fod y Llwybr yn dal i gael ei gynnal a’i wella gan bobl ymroddedig na welwn fyth mohonynt, ond yr ydym yn diolch o galon iddynt.