Rob Carruthers

 

 

 

Yr Her 

Mae fy stori’n cychwyn gyda gwyliau yng ngogledd Cymru yn 2013 gyda'm gwraig a ffrindiau.   Roedden ni wedi sylwi undefinedar arwyddion newydd Llwybr Arfordir Cymru ac, ar ôl cyrraedd yn ôl i Sir Gaerloyw, dyma ddechrau caglu gwybodaeth amdano.   

Fis Ionawr 2015, byddwn yn 65 mlwydd oed a pha ffordd well o ddathlu fy ymddeoliad na’i gerdded.  Cerdded o’r gogledd i’r de oedd y dewis ac roeddwn i wedi penderfynu cerdded ar fy mhen fy a chario'r cyfan y byddwn i ei angen ar fy nghefn.   

Doeddwn i ddim wedi gwersylla ers 40 mlynedd!   Y bwriad oedd cerdded y llwybr cyfan ar un tro ond, ganol Mai 2014, dri mis cyn yr oeddwn wedi bwriadau cychwyn, dyma ni’n penderfynu symud tŷ a chytunodd Margaret, fy ngwraig, y dylwn i ddechrau cerdded a dod yn ôl i helpu gyda’r symud!. 

Bum wythnos ar ôl dechrau cerdded a chyrraedd Llanrhystud, ychydig i’r de o Aberystwyth, daeth yr alwad i ddychwelyd gartref.   Roeddwn i’n ôl yn Llanrhystud fis Mai 2015 ac yn cyrraedd Cas-gwent bum wythnos yn ddiweddarach.

Yr Uchelfannau

Roedd yr holl daith yn rhyfeddol, profiad bythgofiadwy am sawl rheswm.   Y syniad fy mod i wedi llwyddo, byw yn syml am ddeg wythnos gyda'r cyfan o’m heiddo ar fy nghefn, y bobl roeddwn i wedi’u cyfarfod ar y daith, y caredigrwydd a’r anogaeth oeddwn i wedi’i gael, harddwch gogoneddus y daith – yn enwedig y blodau a’r adar ac, wrth gwrs, roedd sŵn y môr yn fy nghlustiau am gyfnod mor hir yn fiwsig pur.   

Gyda chymysgedd o gynnwrf ac o ofn y dechreuais i gerdded ar ôl gadael y trên yng Nghaer.  Ddim ond 400 metr ar ôl gadael y man cychwyn swyddogol ar Afon Ddyfrdwy, dyma fi’n cyfarfod Ieuan o  Fachynlleth a oedd hefyd yn dechrau’r daith, ond mewn darnau bychan yn dibynnu ar faint o amser a gâi o'r gwaith.   

Ar ôl cyfnewid manylion a sylw ffwrdd â hi ‘wela i chdi ym Machynlleth’ aeth y ddau ohonom ein ffordd ein hunain.  Ychydig wydden ni y bydden ni, bedair wythnos yn ddiweddarach, yn cael modd i fyw dros beint yn y Black Lion ym Machynlleth wrth rannu profiadau.   

Y man gwaethaf

Roedd yn rhaid i mi dreulio noson yn yr ysbyty ym Mangor yr wythnos gyntaf.   Cefais wasgfa mewn bwyty yng Nghemaes, Môn, a rhuthrodd ambiwlans fi a’m pecyn i Ysbyty Gwynedd.   Roedd y nyrsys a’r doctoriaid yn hynod ofalgar ac, ar ôl llawer iawn o brofion, y casgliad oedd nad oeddwn i'n bwyta digon i'm cynnal o gofio faint o filltiroedd oeddwn i'n eu cerdded.   Diwrnod o orffwys ar ôl hynny, bws yn ôl i Gemaes i ddiolch i staff y caffi a dal ati i gerdded. 

Y darn gorau

Fy hoff ran o’r daith oedd yr un o Gaernarfon i Borthmadog, golygfeydd godidog, baeau hardd a diffyg pobl yn cyfrannu at ddyddiau hyfryd o gerdded.   Cyfaredd yr holl daith yw’r dychmygu pa gyfaredd hardd sydd y tu hwnt i’r penrhyn nesaf, pa ddanteithion fydd ar gael yn y dafarn y noson honno.  

Roedd hefyd yn rhyfeddol cerdded drwy’r purfeydd olew a’r storfeydd nwy o amgylch Aberdaugleddau a thrwy ddociau Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, mae rhywun wedi gwneud gwaith gwych yn llywio’r llwybr drwy'r ardaloedd diwydiannol hyn.   

Mae rhywbeth arbennig yn cael ei gofnodi yn fy nyddiadur bob diwrnod o'r wythnos, byddai'n cymryd llyfr i ddisgrifo'r cyfan roeddwn i wedi'i weld ac wedi'i fwynhau.   Mae croeso i bobl gysylltu â mi ar robert.carruthers@care4free.net i gael rhagor o wybodaeth.  

 Angel Gwarcheidiol

Wrth gloi, mae’n rhaid i mi sôn am gyfeillgarwch rhyfeddol Alison o faes gwersylla Castle Farm yn Angle.  1 Mehefin 2015 oedd hi ac roedd rhagolygon y tywydd yn bygwth corwyntoedd a dilyw.  Roeddwn i wedi cerdded o Benfro i Angle y diwrnod hwnnw ac erbyn i mi gyrraedd y maes gwersylla yn gynnar yn y prynhawn roedd yn gwynt yn chwyrlio a'r glaw yn pistyllio.  

Roddwn i’n ceisio codi fy mhabell pan ymddangosodd Alison a dweud y cawn i gysgu mewn carafán oedd piau hi – roedd hi ofn y byddai'n amhosibl gwersylla'r noson honno.  Roedd y glaw yn curo ar do'r garafan a'r gwynt yn ei hysgwyd drwy'r nos, a minnau'n mwynhau noson o foethusrwydd.  Alison oedd fy angel gwarcheidiol y noson honno.

      undefined       undefined