Rosie Unsworth

Rosie Unsworth

Dwi’n dod o deulu o anturiaethwyr. Gadawodd y rhan fwyaf o’m cyndeidiau’r Eidal neu Awstria i fentro’u lwc ym Mrasil. Mae’n debyg bod rhywbeth yn y gwaed oherwydd dwi’n un am antur hefyd.

Roedd yr her o fod y person cyntaf o Frasil i gerdded ar hyd arfordir cyfan gwlad yn apelio i mi, felly, ym mis Ebrill 2013, dyma fi’n dechrau cerdded o Gaer i Gas-gwent. Er mai her bersonol oedd hon, penderfynais godi arian ar gyfer WaterAid, elusen sy’n darparu dŵr diogel, systemau carthffosiaeth gwell ac addysg am hylendid i rai o gymunedau tlota’r byd.

Ro’n i’n gwybod y bydden i’n cael trafferthion ar hyd y ffordd ond roeddwn i’n dweud wrth fy hun drosodd a throsodd, “Galla i roi’r ffidil yn y to ’fory”. Roedd hynny’n fy nghadw i fynd yn ystod nosweithiau oer yn y babell ac wrth gario’r gwarbac trwm i fyny’r bryniau a hithau’n tywallt y glaw.

Fe wnes i fwynhau pob modfedd o Lwybr Arfordir Cymru, ond roedd y darn rhwng Freshwater West ac Angle yn wefreiddiol - fe gwympais a glanio ar silff rhwng y llwybr a’r dibyn. Roedd yn lle’n ddigon o ryfeddod a’r unig sŵn oedd yn tarfu ar y llonyddwch oedd cri adar y môr a’r tonnau’n taro’u rhythm ar waelod y clogwyni. Gydag arogl hyfryd yr eithin melyn yn llenwi fy ffroenau a’r awel ffres yn anwesu fy wyneb a’n gwallt, roeddwn i’n ymwybodol pa mor lwcus oeddwn i i fod yno.

Allwn i ddim o fod wedi cerdded y llwybr cyfan heb gefnogaeth fy nheulu, fy ffrindiau a’r holl bobl arbennig y gwnes i eu cwrdd ar y daith.

Dwi ddim yn siŵr beth fydd fy antur nesaf - teithio ar hyd afon Amazon mewn canŵ neu ddringo Kilimanjaro efallai. Ond rwy’n sicr o un peth - bydd gan arfordir Cymru le arbennig yn fy nghalon am byth.