Steve Plant

undefinedSteve Plant

Beth ysbrydolodd fi i gymryd yr her?

Y BBC oedd yn bennaf gyfrifol am blannu’r syniad yn fy meddwl. Roeddwn i’n edrych ar y newyddion pan ddechreuodd y gohebydd sôn am Lwybr Arfordir Cymru oedd ar fin agor. Deall mai hwn fyddai’r llwybr parhaus cyntaf ar hyd yr arfordir cyfan oedd wedi cydio yn fy nychymyg mewn gwirionedd. Efallai y dylwn egluro fy mod yn byw yn Swydd Bedford, sydd â llawer iawn o deithiau cerdded gwych ei hunan, ond allwn i ddim bod ddim pellach o’r môr. Roedd hwn yn gyfle na allwn i ei golli. Rwy wedi cerdded a rhedeg llawer dros elusennau ers blynyddoedd, gan gynnwys sawl un o'r Great North Run. Roedd hwn yn gyfle da arall i godi arian. Yr Ymddiriedolaeth MS oedd yr elusen gafodd ei dewis a, diolch i haelioni llawr iawn o ffrindiau ac ocsiwn wych ar ddiwedd y daith, fe lwyddais i godi dros £2500.

Oedd yna adegau isel?

Dim ond ychydig, a dweud y gwir! Fe ddechreuais i gerdded fis Mehefin 2012 gan ddisgwyl dechrau cerdded ganol haf hirfelyn tesog. Yn anffodus, nid felly roedd hi. Roedd yn pistyllio bwrw glaw ac yn gorwynt o’r gorllewin yn ystod y tri diwrnod cyntaf. Ychydig iawn welais i o drefi a phentrefi glannau Dyfrdwy. Arnaf i roedd y bai am yr unig adeg isel arall. Roedd hi'n ddydd Mercher arna i'n cyrraedd meysydd tanio Castell Martin. Petawn i wedi cynllunio ychydig yn well fe fyddwn i wedi sylweddoli fod y lle'n cau [Cyngor golygyddol: Cofiwch ffonio feysydd tanio Castell Martin ar 01646 662280 neu 662367 i ganfod pryd y mae ar agor i’r cyhoedd]. Oherwydd hynny, roedd yn rhaid i mi ddioddef taith hir o amgylch y meysydd tanio ar darmac. Ond, pan gyrhaeddais i Bosherton, o’r diwedd, roeddwn i’n gallu mwynhau peint a brechdan yn y pentref bychan, hardd, oedd o leiaf yn ychydig o gysur.

A gafodd fy nisgwyliadau eu gwireddu?

Do, a llawer iawn mwy. O ystyried mai newydd agor oedd y llwybr, roeddwn i’n synnu gystal oedd yr arwyddion. Oedd, roedd yna rai cyffyrdd heb arwydd i’r dde neu i’r chwith, ond doedd dim angen mapiau ar y rhan fwyaf o’r daith, felly da iawn am hynny. Roeddwn i hefyd yn cyfarfod rhai pobl wirioneddol wych oedd yn gyfeillgar, yn ddiddorol ac yn gymwynasgar. Roedd y rhan fwyaf o’r gwely a brecwast oeddwn i’n aros ynddyn nhw yn agos at neu ar lwybr yr arfordir ac allai’r rhai oedd yn eu cadw ddim bod yn fwy hael eu cymwynas. Roedd safon y llety hefyd yn dda iawn, roedd rhai yn helpu i sychu fy nillad gwlyb ac roedd amryw hyd yn oed yn cyfrannu at fy elusen, yr Ymddiriedolaeth MS.

Beth oedd fy uchelbwyntiau?

Roedd pob rhan o’r daith yn wahanol. Roedd yna rywbeth newydd ar bob rhan – y gwreiddiau hanesyddol, y golygfeydd neu’r rhannau mwy twristaidd. Wrth i mi gerdded o’r de i’r gogledd, rwy’n meddwl mai dyma oedd fy uchelfannau. Roedd sir Fôn yn brofiad gwych, y daith o Ynys Seiriol, arfordir creigiog y gogledd, rownd i Borth Swtan ac ymlaen i Gaergybi a golygfeydd gwych i lawr i Ynys Lawd. Roeddwn i hefyd wrth fy modd ar y traeth yn Rhosneigr, paradwys yn wir i syrffwyr. Ar lwybr Arfordir Penfro, roedd Trwyn Cemaes yn rhyfeddol. Y diwrnod oeddwn i’n cerdded y darn hwnnw, roedd hi’n bwrw glaw mân ond yn wyntog iawn. Wrth gerdded gogledd y trwyn a gweld y llwybr o’m blaen, dyna'r unig dro ar y daith i mi ystyried rhoi'r gorau i gerdded nes y byddai'r gwynt wedi gostwng. Yn y diwedd, fe benderfynais i gerdded ymlaen - a dyma'r diwrnod mwyaf cyffrous o gerdded i mi erioed ei gael. Roedd dal ati ar y rhan hon yn rhyfeddol. Roedd Trwyn Dinas a’r arfordir o amgylch gorsaf bad achub Tyddewi, yn enwedig, yn ysblennydd ond roedd cerdded ar hyd yr aber yn Aberdaugleddau ac i Benfro hefyd yr un mor ddiddorol. Mae yna gyfoeth o hanes yn yr ardal ac roeddwn i wrth fy modd yn darllen amdano. Mae’n rhaid i mi hefyd grybwyll Bro Gwyr. Roedd yna olygfeydd godidog ar ochr y gogledd o Afon Llwchwr ac, wrth gyrraedd traeth Whiteford rydych chi’n sylweddoli y gallwch gerdded yr holl ffordd i Rosili ar draethau euraidd (os yw’r môr ar drai). Fy neuddydd yn ne Bro Gwyr oedd fy ffefrynnau o’r cyfan o 61 diwrnod o gerdded. Mae’r tri bae, Three Cliffs, Oxwich a Bae Abertawe gyda’i gilydd yn rhan arbennig iawn o daith gerdded yr arfordir. Yn olaf, fe ddylwn i grybwyll Bae Caerdydd a’r newid anhygoel sydd wedi digwydd yno ers i mi ei weld flynyddoedd maith yn ôl. O’r Morglawdd i gynifer o fannau o ddiddordeb a phensaernïaeth ryfeddol, roedd y daith ar hyd y morglawdd ac o amgylch y wal fôr yn bleser pur.

I grynhoi!

Roeddwn i wrth fy modd bob un o’r 61 o ddyddiau’r daith. Ar ddiwedd pob rhan, roeddwn i’n ysu am gael ail ddechrau arni unwaith eto ar y rhan nesaf. Cyn dechrau’r daith, roeddwn i wedi penderfynu fy mod eisiau ysgrifennu am fy mhrofiadau i ar y llwybr ac roedd y teitl ‘A wander around the Wales Coast Path’ i'w weld yn hynod o addas. Rwy’n gobeithio cyhoeddi’r llyfr yn y gwanwyn 2014. Fe fydda i’n falch o allu ail fyw cynifer o brofiadau rhyfeddol a rhoi popeth i lawr ar bapur. Mae’r blog oeddwn i’n ei gadw yn dal yn fyw ac i’w weld ar www.stevescharityevents.co.uk. Gallwch hefyd weld fy lluniau ar Flickr a chael blas ar uchabwyntiau pob un o’r 61 diwrnod o gerdded.