Steve Webb

CamauCam Cymru

5 Mai 2012, dyddiad agor Llwybr Arfordir Cymru’n swyddogol a’r dydd hefyd pan heuwyd hedyn bychan rywle yng nghefn fy nghof, hedyn a eginodd yn ystod y pymtheg mis dilynol a newid o fod yn ddim ond ychydig o ffansi i fod yn ymrwymiad egwan ond pendant i gerdded nid yn unig y llwybr ond Glawdd Offa hefyd. Byddai’n daith gerdded o gwmpas Cymru o tua mil o filltiroedd, taith a fyddai’n dangos Cymru i mi o safbwynt hollol newydd, yn edrych ar y tu mewn o'r tu allan, taith na fyddai gan y rhan fwyaf na’r amser na’r awydd i roi cynnig arni, taith y gwyddwn i, po fwyaf roeddwn i'n ceisio ei hanwybyddu, y byddai’n rhaid i mi roi cynnig arni. Roedd ymddeol o Lywodraeth Cymru ddiwedd Awst 2013 yn golygu nad oedd esgus dros dîn-droi mwyach. Roedd yn adeg mynd amdani. Petai’n ddim arall, byddai’n gyfle i mi gael dau fis o fwynhad pur ynghanol harddwch, nodweddion a hynodrwydd Cymru cyn symud ymlaen i ddilyn trywydd neu ddau arall a fyddai’n siŵr o godi yn y man.

Felly, yn gryno, yn 60 mlynedd ac wyth mis oed, dechreuais ar daith ar 11 Medi a ddaeth i ben ar 10 Tachwedd. 61 o ddyddiau i gyd, cerdded yn erbyn y cloc o’m cartref yn y Barri ym Mro Morgannwg a theithio tua 15 -20 milltir y diwrnod. Er fy mod yn cerdded ar fy mhen fy hun am y rhan fwyaf o ddigon o’r daith, daeth ffrindiau a chyn gydweithwyr i gadw cwmni i mi ar wahanol adegau, cymysgedd o’r doniol, y cynnes ac (weithiau ac yn llythrennol) y gwlyb. Rwy’ hefyd yn hynod, hynod, ddyledus i'r holl fusnesau lletygarwch a oedd, ar ôl clywed fy mod yn ymddeol o Groeso Cymru ac yn bwriadu cerdded o gwmpas Cymru, yn hael eu cynigion o lety rhad ac am ddim i gefnogi fy elusen, Ymchwil Cancr Cymru. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r daith, yr elusen ac, yn olaf ond nid y lleiaf, o ryfeddodau Cymru, roeddwn i'n postio'n ddyddiol ar ddalen Gweplyfr (FunnyWalks Wales) ac ar Drydar (FunnyWalksWales@swcwebb). Pam FunnyWalks? Neu CamauCam yn Gymraeg? Wel, mae pawb yn gwybod jôc neu ddwy, neu’n gallu sbïo’n gam ar bethau doniol. Roeddwn i'n gobeithio clywed un neu ddwy gan y rhai y byddwn i'n eu cyfarfod ar y daith. Mewn gwirionedd, doedd hi ddim yn hawdd cael dieithriaid i ddweud jôcs...ond roedd yn ffordd dda o gychwyn sgwrs!

Wrth edrych yn ôl ar yr hyn oedd yn brofiad bythgofiadwy, mae’n anodd meddwl am uchel bwyntiau penodol. Roedd ei flas ei hunan ar bob diwrnod – adegau o harddwch, swyn, hiwmor neu hyd yn oed her bersonol. Hyd yn oed pan oedd yn pistillio bwrw glaw neu pan oedd y gwynt yn chwyrlio ac yn fy nhaflu wysg fy ochr yn agosach fyth at y dibyn ar greigiau serth. Roedd yna hefyd ddyddiau pan oedd yn bosibl cael cip ar y dyfodol, yn wir ar y diwrnod cyntaf o'r Barri i Gaerdydd wrth gyfarfod Hannah a'i mul, Chico, ar eu taith o gwmpas Cymru, taith a gychwynnodd yn Aberystwyth dri mis yn gynharach a gyda mis neu ddau arall i fynd. Roeddwn i wedi cynhyrfu’n lân ar y diwrnod cyntaf, yn dyfalu beth oedd o’m blaen ond roedd Hannah i’w gweld yn deithiwr gwydn, yn flinedig ond yn cael ei gyrru gan synnwyr o bwrpas a dyletswydd. Fe groesodd fy meddwl y bore cyntaf hwnnw y gallwn i gael fy synnu gan rai pethau go annisgwyl - nid y syniad mwyaf ysgytiol ond yn un a ddaeth yn wir sawl tro.

Roeddwn i 12 diwrnod ar Glawdd Offa, ddim yn hawdd o bell ffordd gyda thri darn hynod o anodd, Pandy i’r Gelli Gandryll, Llanarmon-yn-iâl i Fodfari ac, yr anoddaf o’r cyfan, Trefyclo i Groesfan Brompton, sydd wedi magu cryn enw drwg iddo’i wrth igam-ogamu cymaint.. Bydd golygfeydd o Abaty Tyndyrn, Dyffryn Clwyd a Llanddewi Nant Hodni oddi fry, croesi Camlas Trefaldwyn a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte a chrwydro'n ddiog o gwmpas trefi o gymeriad megis Cas-gwent, Trefynwy, y Gelli Gandryll, Trefyclo, Ceintun a Llangollen yn aros yn y cof a hefyd y cof am y bobl groesawgar, gyfeillgar a hael roeddwn i wedi’u cyfarfod a sgwrsio â nhw ar y daith. Roedd Môn yn gyfareddol, wythnos gyfan o gerdded a darganfod darnau hir o arfordir anghyfarwydd ond yn gyforiog o harddwch naturiol ac o arwyddion o dreftadaeth ddiwydiannol yr ynys. Roedd y darnau o Fenllech i Amlwch ac ymlaen i Borth Swtan yng nghysgod yr Wylfa yn arbennig o braf ond roedd Ynys Lawd, Rhosneigr a Thraeth Niwbwrch hefyd yn arbennig, yn ogystal ag Eglwys Cwyfan Sant, yr Eglwys yn y Môr, ger Aberffraw. Roedd yn wefr hefyd gweld tair gwiwer goch, er efallai mai’r un wiwer oeddwn i’n ei gweld deirgwaith!

Daeth Llŷn yn fyw ar ôl Trefor, ac roedd y tri darn at Dudweiliog ac yna i Aberdaron ac Abersoch mor bleserus â'r un darn arall ar lwybr yr arfordir, ac felly hefyd y darn o Bwllheli i Benrhyndeudraeth. Roedd cyrraedd Ynys Enlli yn farc hanner ffordd y daith ac yn fy sbarduno i ddynesu tuag adref gyda phob cam. Yn briodol iawn, mae harddwch garw a morlun Llwybr Arfordir Sir Benfro yn enwog, ac mae’n anodd curo’r ardaloedd o gwmpas Porthgain, Whitesands Bay, Freshwater West ac Dinbych-y-pysgod / Saundersfoot ond roeddwn i hefyd wrth fy modd ar eangderau Morfa Dyffryn i’r de o Harlech ac yn mwynhau swyn tawel llawer o Lwybr Arfordir Ceredigion gyda’i fwrlwm o fywyd gwyllt - dolffiniaid yn llamu yng Nghei Newydd yn olygfa ryfeddol rad ac am ddim i bawb, oedolion a lloi morloi newydd eu geni ym mron bob cilfach anghyfannedd a'r hugan, y fulfran a’r fulfran werdd yn gloddesta ar haelioni darpariaeth dyfroedd Bae Ceredigion. Yn nes adref, roedd dau ddarn ym Mro Gwyr o Lanmadog i Bort Eynon ac yna i’r Mwmbwls yn sefyll allan i mi fel cerdded yr arfordir ar ei orau.

Ac er bod yna rai adegau isel roedd yna rwystredigaeth hefyd pan oedd yn rhaid dargyfeirio oddi ar yr arfordir. Roedd y tair ystâd breif, fawr, at ym Môn, tiriogaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Aber-porth, Castell Martin a Phendein ac aberoedd naturiol Dyfi a Thâf / Tawe yn Sir Gaerfyrddin a’r daith i Lansawel yn boen. Mae’n biti hefyd nad yw’r arwyddion Llwybr yr Arfordir yn cael ei ddefnyddio hyd yma ar bob arwyddbost - byddai'n rhoi synnwyr gwirioneddol ac amlwg o undod. Mae’n ymddangos fod Môn a Phenfro, yn enwedig, yn hoff o’u harwyddion eu hunain, sy’n ddealladwy. Roedd y rhannau hyn o'r llwybr yno cyn lansio llwybr arfordir Cymru gyfan.

At ei gilydd, roedd yn ddeufis gwych. Amser gwerth chweil, yn rhoi hwb ddyrchafol i ymddeoliad. Efallai fod Cymru’n wlad fechan o ran maint ond mae’n genedl ryfeddol o amrywiol a balch sy’n ymhyfrydu ac yn sugno nerth o’i lleoliad ar gyrion Ewrop. Mae hefyd yn hardd y tu hwnt i’m gallu i’w disgrifio.