Will Renwick

undefinedWill Renwick – y person ieuengaf (22 oed) i gerdded Llwybr Arfordir Cymru a Chlawdd Offa.

Wedi graddio y llynedd, pan ddysgais i fod yna lwybr yn mynd heibio fy nghartref ac o amgylch y wlad gyfan, fe anwybyddais i alwadau fy rhieni i ddewis gyrfa ac yn hytrach rhoi fy mryd yn llwyr ar gerdded y siwrne 1000 milltir a mwy. Roedd hwn yn gyfle am antur go iawn; cyfle i fynd allan i’r elfennau a dod i adnabod fy ngwlad fy hun wrth wneud hynny.

Roedd yn rhaid i mi aros drwy’r gaeaf hir, ac o’r diwedd ar Ebrill 16, gyda mymryn bach o haul yn denu, fe baciais fy sach gefn a dechrau’r siwrne - o’m drws ffrynt. 63 diwrnod yn ddiweddarach, 9 wythnos union wedyn, dychwelais i’r lle y dechreuais, wedi cerdded o amgylch Cymru gyfan, ac wedi cael lliw haul reit dda o ystyried fod rhan helaeth o’r daith drwy’r ‘Gwanwyn oeraf ers 50 mlynedd’ ac yn ddigon iach, er gwaethaf byw ar nwdls a chacennau cri.

Dewisais fynd yn erbyn y cloc o’m cartref yn Llancarfan yn y de, gan ddechrau gyda Chlawdd Offa a’i fynyddoedd, camlesi a chestyll, yna ymuno â Llwybr Arfordir Cymru a’i ddilyn yr holl ffordd adref.

Cefais fy mhrofi ar adegau, yn bennaf ac yn ddim syndod gan dywydd Cymru ond hefyd gan fy esgidiau cerdded; y gwadn ar y pâr cyntaf yn treulio’n dwll! Problem fwy anarferol i mi oedd y pryfetach, roeddent rywsut yn ffeindio ffordd i mewn i’m pabell... a’m bwyd. Deuthum ar draws gwlithen unwaith yn fy misgedi ar ôl bwyta hanner y pecyn yn unig.

undefinedEto i gyd, hyd yn oed ar ddiwrnodau pan oedd pryfed, pothelli a’r glaw yn fy mlino, roeddwn yn dal i allu gwerthfawrogi prydferthwch rhai o’r llefydd y bum trwyddynt. Mae Ynys Môn yn fendigedig a hyd nes i mi gerdded o’i hamgylch doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r golygfeydd sydd yno. Mae ei harfordir yn newid yn ddramatig, bron o amgylch pob pentir. Yna roedd traethau bach Sir Benfro, y dŵr yn hollol glir (ond yn dwyllodrus o oer), tywod hir Bro Gŵyr a phresenoldeb mynyddoedd Eryri yn ymwthio yn y pellter wrth i chi fynd drwy arfordir y gogledd. Ynghyd â’r golygfeydd mae yna atyniadau hanesyddol: mae’n ymddangos fod y llwybr yn mynd heibio pob castell yng Nghymru, a theithiau o amgylch pentref hudolus Portmeirion a Boat House Dylan Thomas; rhywle na allwn aros yn hir ynddo wrth i fi ddod yn ymwybodol o arogl fy esgidiau llaith yn llenwi’r bwthyn.

Mae cerdded a gwersylla ar eich pen eich hun yn swnio’n unig ond nid felly’r oedd hi. Oedd, roedd yna ddiwrnodau pan siaradais â mwy o anifeiliaid fferm na phobl ond drwyddi draw cwrddais â chynifer o bobl leol a cherddwyr cyfeillgar, pawb eisiau gwybod i ble a pham roeddwn i’n cerdded. Gwelais garedigrwydd mawr; teuluoedd yn fy nghymryd i mewn a choginio brecwast i mi, pobl yn cynnig llefydd i aros ac aml i beint yn rhad ac am ddim.

undefinedMae fy hoff atgofion yn cynnwys dod ar draws grŵp o bererinion yn gwneud eu ffordd i Ynys Enlli ac ymuno â nhw ar eu taith ar draws Penrhyn Llŷn, nofio yn y môr pan oedd yr haul allan (yn bennaf gan ei fod yn gyfle i ymolchi), nosweithiau’n gwylio’r haul yn suddo y tu ôl i’r môr ac yn yfed gyda’r bobl leol yn y tafarndai gwych ar lan y môr.

Roedd hyn yn beth anarferol i rywun o’m hoed i ei wneud, mae eraill yn dewis mynd i Wlad Thai neu Awstralia ac ati. Mae Cymru’n enwog am ei thywydd didostur ac rwy’n deall yr awydd i fynd i ffwrdd, ond gwyddwn fod yna antur i’w chael gartref; rhywbeth amrwd a heriol dros ben ac y byddwn yn ymfalchio o fod wedi’i chwblhau.

Dyna fydd y ‘ffaith ddiddorol’ amdanaf i am weddill fy oes!

Fe wnes i drydar lluniau wrth gerdded a gallwch eu gweld nhw o hyd wrth fynd ar fy nhudalen @WillWalksWales. Rwyf hefyd yn dal i ysgrifennu blog am rai agweddau o’m taith yn Will Renwick.