Hanes diwyddiannol - Moelfre

Gorsaf bad achub Moelfre – Richard Evans

Ger Llwybr Arfordir Cymru ym Moelfre, mae cerflun o ddyn cydnerth mewn cot oel a het law yn cydio’n dynn mewn olwyn lywio llong – teyrnged i gymeriad rhyfeddol o’r enw Richard Evans o Foelfre, un o swyddogion bad achub dewr niferus Cymru.

Mae’r RNLI wedi bod yn achub pobl ac yn diogelu’r glannau ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae gwroldeb a dewrder y criwiau hyn yn chwedlonol, ac mae’r rhai sy’n gweithio o orsafoedd bad achub Cymru wedi profi mwy na’u gwerth sawl tro wrth ymateb i alwadau heriol ers agor yr orsaf gyntaf yn Ninbych-y-pysgod ym 1822.

Mae gan Ynys Môn le anrhydeddus yn yr hanes hwn. Cafodd yr ‘Anglesey Association for the Preservation of Life from Shipwreck’ ei sefydlu gan Frances Williams a’i gŵr, y Parchedig James Williams, ficer Llanfair-yng-Nghornwy, ar ôl iddi weld trychineb pacedlong Alert, o Parkgate i Howth, ger Ynysoedd y Moelrhoniaid ym 1823. Aethant ati i sefydlu gorsaf yng Nghemlyn ym 1828, a bu’r Parchedig Williams yn aelod gwirfoddol rheolaidd o’r criw.

Dic (Richard) Evans memorialYn unol ag arferion gorau ei bentref genedigol, gadawodd Richard Evans o Foelfre yr ysgol yn 16 oed ac ymuno â llong lannau ym 1921 cyn dychwelyd adre’n ddiweddarach fel aelod o’r criw bad achub lleol. Cafodd ei benodi’n lywiwr ym 1954, ac fe’i gofir yn bennaf am ei ddewrder yn achub criwiau dwy long a aeth i drybini ger arfordir Môn - llong lannau Hindlea o Gaerdydd ym1959 a’r bad modur Nafsiporos o Wlad Groeg ym 1966.

Yn y naill achos a’r llall, llywiodd ei fad achub i fyny at y llongau mewn trafferth, annog y criwiau i neidio ar fwrdd y bad a dychwelyd dro ar ôl tro hyd nes yr oedd pawb yn ddiogel ar dir sych. Cafodd fedalau aur yr RNLI am ei wrhydri.

Ar ôl ymddeol ym 1967, daeth yn llysgennad blaenllaw i’r gwasanaeth; a chyda gwyleidd-dra arferol, honnai nad oedd peryglon y môr yn ddim o gymharu ag arswyd siarad cyhoeddus!

Mae’r moroedd ger Moelfre yn ddigon tymhestlog o hyd ar brydiau, ond mae’r Llwybr Arfordir yn gyfle perffaith i gael cipolwg agosach ar bentref pysgota bach traddodiadol. Mae’r rhan hon o ogledd-ddwyrain Môn yn enwog am ei thraethau a’i bywyd gwyllt, ac fe welwch chi forloi llwyd a’u rhai bach ar hyd a lled yr arfordir yn aml.

I gynllunio’ch taith a mwynhau Llwybr Arfordir Cymru yn yr ardal hon, ewch i tudalen Ynys Môn.