Teithiau cerdded byr

Llyn Maelog a Thraeth Llydan
2.25 milltir / 3.6 km (cylch)

Tro cylch ger pentref Rhosneigr. Mae’r rhan gyntaf yn mynd â chi ar hyd llwybr pren sy’n addas i bawb i lwyfan gwylio ar lan y llyn; mae cyrs yn tyfu o gwmpas yr ymylon ac mae’n hafan i adar. Yna, gallwch fynd yn eich blaen o gwmpas y llyn. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Llyn Maelog a Thraeth Llydan.

Pentref, aber, traeth a thwyni Aberffraw
2.5 milltir / 3.75 km (cylch)

Taith fer drwy bentref Aberffro ac ar hyd aber hyfryd Afon Ffraw a’r traeth, cyn troi’n ôl drwy’r twyni.

Caergybi i Ynys Lawd
2.75 milltir / 4.25 km un ffordd

Dyma daith gerdded heriol braidd sy’n cychwyn ym Mharc Gwledig y Morglawdd yng Nghaergybi. Mae’r llwybr yn mynd dros y mynydd ac ar hyd yr arfordir i safle eiconig Ynys Lawd. Mae’n bosib cerdded yn ôl i’r parc ar hyd y llwybrau amlwg ar yr ochr arall i’r mynydd.

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch i Borthaethwy
3 milltir / 5 km

Defnyddiwch y daith hyfryd yma gyda’i golygfeydd gwych draw at y tir mawr fel cyfle i ymarfer dweud enw’r pentref enwog! Bydd y llwybr yn mynd o dan y ddwy bont – Pont Britannia a godwyd gan Stephenson yn 1850, a Phont y Borth, y bont grog enwog a godwyd gan Thomas Telford yn 1826. (Bws)

Biwmares i Drwyn Penmon
4.5 milltir / 7.25 km

Beth am grwydro strydoedd Biwmares i weld yr adeiladau hardd o gyfnod Brenin George cyn mentro ar hyd yr arfordir i fwynhau’r golygfeydd o fynyddoedd y Carneddau’r ochr draw i Afon Menai? Byddwch yn gweld Ynys Seiriol yn Nhrwyn Penmon, cynefin sy’n cael ei ddiogelu ar sail y boblogaeth fawr o fulfrain (ond dim un pâl er gwaethaf ei enw Saesneg!) sydd yno.

Moelfre i Ddulas (tafarn y Pilot Boat)
4.5 milltir / 7.25 km

Dyma lwybr sy’n cynnig golygfeydd ardderchog o’r ardal arfordirol. Mae’n golygu cerdded o bentref tlws Moelfre i draeth poblogaidd Traeth Llugwy a Thraeth yr Ora, sy’n cael llawer llai o ymwelwyr, cyn troi i mewn am y tir ar hyd aber Afon Dulas i dafarn y Pilot Boat Inn. Mae’r llwybr yn mynd heibio i’r gofeb i’r bobl a gollodd eu bywydau pan suddodd llongau’r Royal Charter yn 1859 a’r Hindlea yn 1959. (Bws)