Taith Branwen, Harlech

Wrth feddwl am Barc Cenedlaethol Eryri, efallai mai’r peth cyntaf sy’n denu’r llygad yw’r mynyddoedd garw, ond mae gan y parc 60 milltir o arfordir hyfryd hefyd. Dilynwch y llwybr ac fe welwch gastell sydd wedi’i leoli yn un o’r mannau mwyaf ysblennydd yng Nghymru.

Mae’r daith Branwen yn ein tywys heibio i gastell a thref Harlech, i’r traeth a’r twyni tywod a rhan o lwybr yr Arfordir. Yn ogystal â’r gefnlen naturiol syfrdanol, mae gan yr ardal hon gyfoeth o hanes a chysylltiadau â chwedlau’r Mabinogi ac anthem genedlaethol Gymreig answyddogol. Taith ddwy filltir gymharol hawdd yw hon, ond mae’r darn olaf yn ôl at y castell yn go serth. Mae’n werth chweil pan welwch chi’r golygfeydd.

Uchafbwyntiau ar y ffordd

Harlech

Saif y Castell uwchben Harlech. O holl gestyll Brenin Edward y Cyntaf, hwyrach mai castell Harlech sydd yn y lleoliad mwyaf ysblennydd ohonynt i gyd. Harlech hefyd yw’r lleoliad ar gyfer un o chwedlau’r Mabinogi, sef ‘Branwen, Ferch Llŷr’ sy’n adrodd hanes Bendigeidfran y cawr yn achub Branwen ei chwaer o’i bywyd caeth yn Iwerddon. Cafodd y chwedlau Celtaidd hyn eu traddodi o oes i oes gan chwedleuwyr a’u cofnodi yn y drydedd ganrif ar ddeg ar lawysgrifau gan fynachod.

undefinedCastell Harlech

Dyma enghraifft arall o un o gaerau Edward y Cyntaf. Roedd ei safle hynod ar ben clogwyn yn ddelfrydol fel amddiffynfa, a bellach mae’n wledd ddelfrydol i’r llygaid. Er ei fod yn ymddangos yn gwbl anorchfygol, fe’i cipiwyd ym 1404 ar ôl gwarchae gan Owain Glyndŵr a bu’n byw yno tan 1408, pan gafodd ei ailfeddiannu gan y Saeson. Fe’i defnyddiwyd eto fel cadarnle yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod. Yn ôl y sôn, gwrthsafiad y Lancastriaid ysbrydolodd yr enwog “Gwŷr Harlech”. Gwrandewch ar berfformiad angerddol Côr y ’Fron o'r anthem genedlaethol anffurfiol hon sy’n boblogaidd dros ben ar ein maes rygbi rhyngwladol. Dadfeilio fu hanes y castell tan iddo ddod dan warchae arall yn ystod y Rhyfeloedd Cartref tan 1647 pan gafodd ei ildio fel cadarnle olaf y Brenhinwyr ym Mhrydain.

Morfa Harlech

Mae’r darn bendigedig hwn o’r arfordir yn rhan o rwydwaith o dwyni tywod sy’n ymestyn o foryd y Mawddach ar hyd glannau Bae Ceredigion tua’r gogledd i Forfa Bychan. Wrth sefyll ar lan y dŵr, gallwch weld y tywod golau’n estyn ar hyd y glannau gan ddatblygu’n rhwydwaith o dwyni tywod anhygoel. Gyda mynyddoedd Eryri’n gefnlen hardd, dyma draeth trawiadol a thawel y gallwch ymweld ag ef, sy’n boblogaidd gan ffotograffwyr a gwylwyr adar fel ei gilydd. Mae Morfa Harlech, yn ôl y disgwyl yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Map

Mae'r Adran Adnoddau isod yn cynnwys map syml o’r ardal. Argraffwch y map, a nodwch yr uchafbwyntiau a’r daith ar gyfer y diwrnod, a mwynhewch yr antur. Os hoffech fwy o her, beth am ymestyn eich taith drwy fynd ar hyd ffordd arall a defnyddio Llwybr yr Arfordir. Fe ddowch o hyd i’r llwybr amgen yn yr Adran Adnoddau

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os hoffech chi gymorth i gyrraedd yma, neu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae cynlluniwr taith Traveline Cymru yn ddefnyddiol dros ben. Os oes gennych chi ffôn clyfar neu lechen, gallwch lawrlwytho'r ap iPhone neu Android. Mae’r cynlluniwr taith ar gael hefyd ar-lein ar wefan Traveline Cymru. Gallwch eu ffonio ar 0871 200 22 33 (cost galwadau yw 10c y funud a 6c am gysylltu o linell tir BT, bydd rhwydweithiau eraill yn amrywio a gall cost ffôn symudol fod yn sylweddol uwch).

Bwyta ac yfed yn Eryri

Mae awyr y môr a’r mynydd yn debygol iawn o godi chwant bwyd arnoch, ac mae digon o dafarnau a bwytai lle gallwch fwyta’ch gwala ar ôl gorffen eich anturiaethau. Mae tirweddau amrywiol yr ardal yn cynhyrchu bob math o gynnyrch lleol. Cig oen a chig eidion blasus, caws amrywiol a bwyd môr yw rhai o ddanteithion gorau Eryri, ac mae bragdy’r Purple Moose wedi ennill gwobrau lu ac ennill ei le ar fap ‘cwrw iawn’.

Ein barn

"Ar ôl tro o gwmpas caer hanesyddol Harlech, mae’r daith i Lwybr yr Arfordir gan groesi traeth eang a phoblogaidd Harlech yn werth chweil i rai sydd wrth eu bodd ar lan y môr, ac yn gwirioni ar olygfeydd godidog o fôr a mynydd fel ei gilydd. Does dim rhaid cael bwced a rhaw!"

Quentin Grimley, Swyddog Polisi Llwybr yr Arfordir, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Llwybrau eraill yn Eryri

Llwybr lefel canolig yw Taith Ardudwy o’r Abermo i Landecwyn. Mae’r daith dros dridiau ac wedi’i rhannu’n dair taith ddydd. 24 milltir yw hyd y daith i gyd, ond gallwch ddewis eich hoff ddarnau a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i wneud y gweddill.  Mwy o gwybodaeth am Daith Ardudwy ar gael ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Adran Adnoddau

Adnoddau