Hanes diwyddiannol - Aber Dyfrdwy

Llong anghyffredin ar aber afon Dyfrdwy

Roedd aber afon Dyfrdwy hyd at Gaer yn ddyfrffordd hollbwysig ar un adeg.

Yn y canoloesoedd, roedd Caer yn borthladd pwysicach na Lerpwl, a phacedlongau i Iwerddon yn gadael Parkgate ar ochr Cilgwri o’r aber ers talwm. Ond gyda’r aber yn llawn silt a gwaddodion, a Lerpwl yn mynd o nerth i nerth, pylodd pwysigrwydd afon Dyfrdwy o’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Er hynny, roedd llongau’n dal i gael eu hadeiladu yn Saltney a Chei Connah ymhell i’r ugeinfed ganrif, ac mae Mostyn yn borthladd prysur hyd heddiw.

Barge Afon DydfrwyOs byddwch chi’n dilyn Llwybr Arfordir Cymru ar lannau’r aber heddiw, fodd bynnag, fe sylwch chi ar long anghyffredin sydd wedi adfywio’r fasnach forwrol ar ran uchaf aber afon Dyfrdwy ac sy’n gysylltiedig ag un o ddiwydiannol uwchdecholeg ein gwlad.

Cafodd yr ysgraff Afon Dyfrdwy ei hadeiladu’n unswydd er mwyn cludo adenydd anferthol yr ‘Airbus’ A380 sy’n cael eu cynhyrchu ym Mrychdyn, ar gam cynta’r daith i Toulouse, lle mae’r awyrennau’n cael eu rhoi at ei gilydd.

Gyda’r adenydd yn pwyso dros 30 tunnell ac yn mesur tua 45 metr ar draws, ystyriwyd ei bod hi’n anymarferol eu cludo ar ffyrdd, felly caffaelwyd yr ysgraff isel yn 2005 i gludo pob adain i lawr i Fostyn. Yna, cânt eu dadlwytho a’u trosglwyddo i fferi ymuno ac ymadael (roll-on-roll-off) dyfnforol er mwyn eu cludo ymlaen i Ffrainc.

Rhaid cynllunio pob cam o’r daith fer rhwng Brychdyn a Mostyn yn fanwl gywir, gan ystyried y llanw, amodau’r tywydd a thraellethau’r aber sy’n symud yn dragywydd. Os yw’r llanw’n rhy isel, gall yr Afon Dyfrdwy fynd yn sownd; os yw’r llanw’n rhy uchel, ni allai fynd o dan bont Queensferry. Fodd bynnag, mae’n rhyfeddol fod traffig masnachol wedi bod ar yr aber ers y dyddiau cynnar, a bod traffig tebyg - er yn hynod arbenigol bellach - yn dal i hwylio hyd heddiw.

Yn ogystal â’r dreftadaeth ddiwydiannol, mae aber afon Dyfrdwy yn enwog am ei adar ac mae’n Wlypdir o Bwysigrwydd Rhyngwladol. Mae’n llawn bwrlwm dros y gaeaf, ac yn gynefin i tua 120,000 o adar dŵr ac adar hirgoes ar hyd y glannau.

Gallwch weld adar cyffredin fel hwyaid, gwyddau ac elyrch rif y gwlith ar hyd rhan o’r Llwybr Arfordir yma. Mae hebog yr ieir, aderyn prin ar y naw, yn hela’i brae ar hyd aber afon Dyfrdwy nawr ac yn y man, a’r dylluan glustiog ymhlith y corsydd gyda’r hwyr.

I gynllunio’ch taith a mwynhau Llwybr Arfordir Cymru yn yr ardal hon, ewch i tudalen Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyrdwy