Hanes diwyddiannol - Doc Penfro

Iard y llynges, Doc Penfro

Mae rhan Sir Benfro o Lwybr Arfordir Cymru yn enwog am ei heddwch a’i harddwch naturiol eithriadol, ond nid felly’r oedd hi ers talwm.

Ystyriwyd dyfrffordd Aberdaugleddau yn harbwr naturiol gwych, hawdd ei amddiffyn, erioed, ac felly nid yw’n syndod i’r Morlys benderfynu agor iard longau yma ym 1802.

Sefydlwyd yr iard wreiddiol ger Aberdaugleddau ei hun, cyn symud ar draws yr aber ym 1814 i gymuned amaethyddol o’r enw Patechurch a ailfedyddiwyd yn Noc Penfro yn ddiweddarach.

Cafodd y llongau cyntaf eu lansio ym 1816, a dyna gychwyn bri adeiladu llongau a fyddai’n para am ychydig dros ganrif. Ymhlith y llongau pwysicaf i’w hadeiladu yno yr oedd HMS Tartarus, yr agerlong gyntaf ym 1834 a’r HMS Lion ym 1847, llong fwya’r llynges ar y pryd.

Daeth tro ar fyd yn y 1860au, fodd bynnag, pan ddechreuodd y Llynges Frenhinol ddatblygu llongau rhyfel haearn. Roedd Doc Penfro dan anfantais fawr, ac yn rhy bell o ganolfannau diwydiannol y DU, yn enwedig yr ardaloedd adeiladu llongau. Parhawyd i adeiladu llongau cyfansawdd (cyrff pren ar fframiau haearn) yno am sawl blwyddyn arall, ond erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif, roedd yr iard ymhell ar ei hôl hi ac yn methu adeiladu llongau rhyfel dur mawr ‘Dreadnought’ yr oes.

Pembroke Dock present dayCaeodd yr iard ym 1926, gan ddod â thlodi a chaledi mawr yn ei sgil, ond ym 1930, sefydlodd yr Awyrlu ganolfan awyrennau môr yn y dref a fu’n rhan hollbwysig o ymgyrchoedd amddiffyn confoi yr Ail Ryfel Byd maes o law, gydag awyrennau môr Sutherland. Caeodd y ganolfan hon ym 1957, a defnyddiwyd yr iard at sawl diben wedyn gan gynnwys ar gyfer adeiladu llongau masnach. Agorwyd terfynfa fferi yno ym 1979, ac mae’n dal ar waith heddiw dan law cwmni Irish Ferries. Ond mae oes aur Doc Penfro fel un o iardiau llongau pwysica’r Llynges Frenhinol wedi hen ddiflannu.

Heddiw, gall ymwelwyr grwydro Llwybr yr Arfordir trwy Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro heibio rhai o olygfeydd mwyaf godidog gwledydd Prydain, gan gynnwys 58 o draethau, 14 harbwr a dinas leiaf y DU - Tyddewi.

I gynllunio’ch taith a mwynhau Llwybr Arfordir Cymru yn yr ardal hon, ewch i tudalen Sir Benfro.