Hanes diwyddiannol - Dociau’r Barri

Dociau’r Barri – porthladd glo mwyaf blaenllaw Cymru

Wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn y Barri heddiw, mae’n anodd credu mai hwn oedd porthladd prysura’r wlad ar un adeg.

Cymuned fechan o ychydig gannoedd oedd y Barri ym 1870, ond prin ddeng mlynedd ar hugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, roedd yn dref fyrlymus ag oddeutu 40,000 o bobl. Hwn oedd porthladd allforio glo mwyaf blaenllaw’r byd hefyd, clod a neilltuir i dref gyfagos Caerdydd fel arfer.

Pam y fath newid byd felly?

Gweledigaeth a gorchestion un dyn sy’n bennaf gyfrifol am drawsnewidiad rhyfeddol y Barri - David Davies o Landinam (1818-90). Ar ôl ennill ei blwyf fel ffermwr tenant a llifiwr yn y Canolbarth, aeth ymlaen i godi sawl pont ffordd yn y Canolbarth cyn mentro i fyd rheilffyrdd yn y 1850au. Adeiladodd gledrau ar hyd a lled Cymru, gan gynnwys hafn heriol Talerddig sy’n rhan o lein Amwythig-Aberystwyth heddiw.

Gyda’i orwelion ar gyfleoedd masnachol newydd o hyd, cafodd brydlesau glo ym mhen uchaf Cwm Rhondda a suddodd bwll yn y Maerdy ym 1864 – y cyntaf o blith nifer a ddaeth yn rhan o gwmni Ocean Coal Co. Ltd maes o law.

Roedd dau gwmni’n tra arglwyddiaethu ar gludiant glo o’r Rhondda ar y pryd – trenau Taff Vale Railway a dociau Bute, Caerdydd. Ond wrth i’r cynnyrch a’r traffig glo gynyddu, daethant yn fwyfwy aneffeithiol, ac erbyn y 1870au, roedd Davies yn bennaeth ar griw o gydberchnogion glo a chwiliai am system reilffordd a dociau newydd rhywle ar hyd arfordir y De.

Penderfynwyd canolbwyntio ar ardal y Barri, a bu cryn frwydro yn erbyn buddiannau Bute yn San Steffan cyn sicrhau deddf ganiatáu ym 1884. Agorodd y doc ym 1889, a chyn hir, roedd ar y blaen i Gaerdydd o ran allforio glo. Yn anterth y fasnach lo ym 1913, roedd Caerdydd yn allforio 10.5 miliwn o dunelli a’r Barri’n allforio fymryn dros 11 miliwn o dunelli.

Barry Docks heddiwErbyn heddiw, mae holl lofeydd cwmni Ocean wedi hen gau yn ogystal â’r rhan fwyaf o system reilffordd y Barri, a phrin yw’r defnydd o ddociau’r Barri. Ond ar gyrion dociau’r Barri ac ar ymyl yr A470 yn Llandinam, saif cerfluniau o David Davies yn dalog o hyd, yn deyrngedau addas i un o wŷr mwyaf rhyfeddol Cymru Oes Fictoria.

Mae traeth garegog Cnap yn y Barri yn lle braf i fynd am dro a chael picnic fel teulu, ac mae gwaith monitro’n profi bod ansawdd dŵr y môr yn ddigon uchel i chi ymdrochi ynddo bellach.

I gynllunio’ch taith a mwynhau Llwybr Arfordir Cymru yn yr ardal hon, ewch i tudalen Arfordir y De ac Aber Afon Hafren.