Adar y gaeaf

undefinedDychweliad adar sy’n gaeafu yn denu ymwelwyr i Lwybr Arfordir Cymru.

Mae cerddwyr ar hyd arfordir Cymru’n cael eu gwahodd i archwilio’r dirwedd drawiadol a gweld rhai o’r adar a nodwyd gan RSPB Cymru.

Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy

Mae Aber Afon Dyfrdwy, a nodwyd fel Gwlypdir o Bwysigrwydd Rhyngwladol, yn ardal brysur yn ystod y gaeaf gan ei bod yn cynnig cartref i dros 120,000 o adar dŵr ac adar hirgoes ar hyd y glannau. Gellir gweld adar cyffredin fel hwyaid, gwyddau ac elyrch yn llu ar hyd rhannau o Lwybr yr Arfordir yn yr ardal hon. Gall teuluoedd sy’n mwynhau ychydig o awyr iach fynd ag ychydig o fara a bwydo’r adar - gweithgaredd hyfryd i’w wneud fel teulu, ac ni fydd yn costio'r un ddimai i chi. Ar adegau gallwch weld y boda tinwyn yn hela ei brae ar hyd aber afon Dyfrdwy ac yn y nos, gellir gweld tylluanod clustiog yn y corstir weithiau.

Ynys Môn

Mae Ynys Môn, sy’n adnabyddus fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), yn hynod brydferth gydol y flwyddyn. Mae’r misoedd oerach yn cynnig cyfle rhagorol i ymwelwyr archwilio’r dirwedd ar y rhan yma o Lwybr Arfordir Cymru. Caiff cerddwyr eu hannog i archwilio’r ardaloedd sy’n agos at lan y môr a’r twyni. Mae’r ardaloedd isel sy’n ffurfio rhwng y twyni, a elwir yn ‘llaciau twyni’, yn aml iawn yn wlyb yn ystod misoedd y gaeaf - lle da ar gyfer pyllau i’r llyffant cyffredin pan maent yn deffro o’u gaeafgwsg yn ogystal â chreu lloches i bryfed fel ‘Chwilen deigr y coed’. Gall astudwyr adar ddod ar draws aderyn gaeaf brown addfwyn o’r enw ‘Corhedydd y Waun’ sy’n adnabyddus i adarwyr gyda’i drydar bach mwyn.

Menai, Llŷn a Meirionydd

Mae’r darn godidog o’r arfordir o amgylch Llŷn yn llawn haeddu ymweliad, hyd yn oed os ydych ond yn gweld milltir neu ddwy o’r traethau yn yr ardal hon. Mae Traeth Penllech yn arbennig yn fwrlwm o fywyd adar yn y gaeaf, a chadwch lygad allan am y frân goesgoch brin â’i phlu du sy’n aml i’w gweld yn ystod y misoedd oerach. Mae Gwynedd yn gyfoeth o fywyd gwyllt hedegog y gellir eu gweld bob adeg o’r dydd. Gellir gweld y dylluan wen yn hedfan fel ysbryd drwy’r cyfnos ar yr adeg hon o’r flwyddyn, yn hedfan dros wastadeddau arfordirol yn chwilio am brae.

Ceredigion

Ffilmiwyd Springwatch y BBC ar warchodfa’r RSPB ar Ynys hir yng Ngheredigion, ond mae'r un mor brysur yn y gaeaf, wrth iddi groesawu haid dymhorol o wyddau talcen-wyn sydd draw o’r Ynys Las i ychwanegu at y boblogaeth barhaol o wyddau Canada. Mae adar ysglyfaethus fel y boda tinwyn cynffondorch, boda’r wern, yr hebog tramor, y barcud coch a’r boncath i gyd i’w gweld yn aml yn y warchodfa hon yn y gaeaf.

Sir Benfro

Mae’r ymwelwyr hedegog hynny sy’n dod i arfordir Sir Benfro yn ystod misoedd oer y gaeaf yn aml iawn yn cael ein tymereddau rhynllyd yn llawer mwynach a’r dirwedd yn gyfoethocach na’r amgylcheddau y maent wedi eu gadael ar eu hôl. Mae rhai o’r heidiau mwy o adar sy’n cyrraedd ar ddechrau’r gaeaf yn cynnwys y dresglen goch a rhywogaeth sogiar y fronfraith sy’n ymsefydlu yn yr ardal ar ôl siwrnai hir o oerfel dwyrain Ewrop. Fel yn rhannau eraill o arfordir Cymru, mae Sir Benfro’n gartref i sawl rhywogaeth o hwyaid a gwyddau yn y gaeaf. Mae gwryw'r hwyaden lygad aur yn hynod o brydferth gyda’r rhan uchaf o’i gorff yn ddu a sgleiniog a chanddo stumog wen, â chylch gwyn o blu o amgylch neu o dan ei lygaid – edrychwch am y symudiad nodweddiadol wrth iddo bwyso ei ben yn ôl gan wneud ei hun yn amlwg i bawb.

Sir Gaerfyrddin

Mae llawer o Lwybr yr Arfordir yn cynnig golygfeydd gwefreiddiol ar draws Bae Caerfyrddin, ac mae’n gartref i ddau o’r systemau twyni mwyaf yn ne Cymru – Pen-bre a Phentywyn. Bae Caerfyrddin yw’r ardal aeafu ar gyfer nifer byd-eang pwysig o fôr-hwyaid duon ac am y rheswm hwn cafodd ei enwi’n Ardal Diogelwch Arbennig morol cyntaf y DU. Y tymor gorau ar gyfer gweld adar ar Draeth Pentywyn yw’r gaeaf yn ôl pob sôn, er argymhellir bod adarwyr brwdfrydig yn gwylio o fewn dwy i dair awr pob ochr i’r llanw uchel er mwyn sicrhau’r golygfeydd gorau wrth bwynt Ginst. Mae ymwelwyr rheolaidd yn cynnwys y cwtiad aur, y cwtiad torchog, y gornchwiglen, y bioden fôr ac weithiau’r cudyll bach neu’r boda tinwyn.

undefinedArfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren

Mae’r adeg gyfnewid rhwng tymor yr hydref a’r gaeaf yn un brysur dros ben i’r adar yng Ngwlypdir Casnewydd. Mae’r wlybdir, sydd yn cael ei rheoli can Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) mewn partneriaeth â’r RSPB a Cyngor Casnewydd yn gorwedd ar ochr ddeheuol Llwybr Arfordir Cymru nesaf at Aber Afon Hafren. Cadwch lygad barcud am adar hirgoes â phigau hir nodweddiadol, fel pibydd y mawn a’r bioden fôr sy’n rhydio drwy’r dŵr bas ar ymylon yr aber. Gall teuluoedd sy’n chwilio am antur adaregol ymweld â Chanolfan Heboga Cymru yn y Barri sydd ar agor gydol y flwyddyn, sydd wedi ei lleoli ychydig oddi ar Lwybr yr Arfordir ym Mro Morgannwg.