Newidiadau Parhaol i’r Llwybr

Yn yr adran hon cewch wybodaeth am newidiadau pharhaol i drywydd Llwybr Arfordir Cymru.

Newidiadau Parhaol i’r Llwybr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol y glannau’n parhau i gydweithio er mwyn gwella uniondeb y Llwybr. Dyma, o’r gogledd i’r de, y prif newidiadau parhaol i’r Llwybr a wnaed ers ei agor ar y 5ed o Fai 2012.

Lleoliad: Morfa Conwy, Conwy

Roedd cyfeiriad Llwybr Arfordir Cymru yn y fan hon yn un hynod anfoddhaol pan agorodd y llwybr ar 5 Mai 2012 gan ei bod i ffwrdd oddi wrth yr arfordir ac ar hyd ffordd ddeuol yr A55. Fodd bynnag, ar ôl gosod pont gerdded/beicio ar draws y rheilffordd mae’r llwybr bellach yn rhedeg hyd ymyl twyni tywod ac aber yr Afon Conwy, gyda golygfa ardderchog o Fynydd Conwy, Pen y Gogarth ac Ynys Seiriol. Mae’r llwybr yn pasio heibio un o safleoedd adeiladu porthladdoedd symudol ‘Mulberry’, a gafodd eu llusgo gan fadau tynnu ar draws Môr Udd i Normandi a chael eu defnyddio i lwytho offer yn ystod glanfeydd Dydd D yn 1944.

Am fanylion y ffordd, gweler Map Llwybr Arfordir Cymru 11.

Lleoliad: Pont Newydd ar Alaw, Llanfachraeth, Môn

Bu bwlch yn Llwybr Arfordir Môn rhwng y ddau le hyn, a chan mai’r unig lwybr ymarferol ar gyfer cerddwyr oedd ar hyd yr A5025 brysur (a pheryglus, ond odid), cynghorwyd pobl i ddal y bws.

Bellach, fodd bynnag, fe godwyd pont newydd ar Alaw, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a Chyngor Môn. Gwnaed llwybr troed newydd, hefyd, ar hyd glan deheuol yr afon, i gysylltu â hi. Felly gallwch gerdded o gwmpas yr ynys gyfan rŵan: mae’r cwmni bysus ar ei golled, ond y cerddwr ar ei ennill!

Am fanylion y ffordd, gweler Map Llwybr Arfordir Cymru 24.

Lleoliad: Porth Widlin - Porth Oer, Gwynedd

Mae rhwystr 3 milltir / 4.7 cilomedr rhag mynediad at lannau Llŷn wedi’i ddileu, o’r diwedd, diolch i gytundeb rhwng Cyngor Gwynedd a chwe pherchen tir i greu Llwybr Cyhoeddus rhwng Porth Widlin a Phorth Oer. Gelwir yr olaf yn 'Whistling Sands' gan Saeson, oherwydd bod y tywod yno’n gwichian pan gerddir arno.

Mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru, sy’n gyfan gwbl o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, yn mynd heibio i draeth poblogaidd Porth Iago, ac y mae’r golygfeydd ar ei hyd yn ysblennydd. Gellir ei thramwyo o’r naill ben i’r llall, bellach, er bod rhagor o welliannau (gan gynnwys gosod grisiau, ac arwyddion ychwanegol) ar y gweill.

Am fanylion y ffordd, gweler Map Llwybr Arfordir Cymru 34.

Lleoliad: Trwyn Cilan, Ger Abersoch, Gwynedd

Yn dilyn trafodaethau helaeth rhwng staff Cyngor Gwynedd a thirfeddianwyr lleol, gwnaed newidiadau sylweddol i’r llwybr ar Fynydd Cilan er mwyn dod agosáu’r llwybr at y môr.

Y newid mwyaf yw agor llwybr 1.4 milltir / 2.1 cilomedr ysblennydd ar ben y clogwyn rhwng Trwyn Llech-y-doll a Phorth Ceiriad yn lle’r llwybr blaenorol nad oedd mor agos at y dibyn.

Yn ychwanegol agorwyd aliniad mwy arfordirol rhwng Porth Neigwl a Thrwyn y Ffosle.

O ystyried y llwybr newydd a grëwyd yn 2012 o amgylch Trwyn y Wylfa, golyga’r newidiadau fod Llwybr Arfordir Cymru rhwng Porth Neigwl ac Abersoch yn cynnig llwybrau cerdded rhagorol a golygfeydd trawiadol o’r clogwyni, y traethau, yr ynysoedd yn y môr ac os byddwch yn lwcus, y dolffiniaid a welir yn gyson yn yr ardal. (Awst 2014)

Gweler Map Llwybr Arfordir Cymru 37 i gael manylion am y llwybr.

Lleoliad: Penarfynydd, Gwynedd

Gynt âi’r llwybr ar hyd godre mewndirol Mynydd Penarfynydd. Bellach fe’i dargyfeiriwyd ar hyd tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, er mwyn cynnwys y golygfeydd ysblennydd o’i gopa ar hyd y glannau. (Gorffennaf 2014)

Gweler Map Llwybr Arfordir Cymru 36 am fanylion y ffordd.

Lleoliad: Fairbourne, Gwynedd

Mae’r llwybr wedi’i ddargyfeirio o brif stryd Fairbourne i gynnwys y rhodfa i’r de o’r pentref, cyn troi i mewn i’r tir i ymuno â’r ffordd wreiddiol yn Friog. Gellir parhau i gyrraedd y siopau a gorsaf y rheilffordd (prif linell a Rheilffordd Stêm Fairbourne) trwy gerdded ar hyd y brif stryd. (Gorffennaf 2014)

Gweler Map Llwybr Arfordir Cymru 47 am fanylion y ffordd.

Lleoliad: Pont Newydd ar Ddysynni, Tywyn, Gwynedd

Pan agorwyd Llwybr Arfordir Cymru, bu raid dargyfeirio 6.5 milltir / 10 cilomedr o’r glannau rhwng Tonfanau a Thywyn er mwyn cyrraedd pont isaf Dysynni ym Mryncrug. Eithr golyga codi pont newydd, gan ddefnyddio ategwaith hen bont Bailey o eiddo’r fyddin, a chwalwyd tua dengmlwydd ar hugain yn ôl, nad rhaid i gerddwyr a beicwyr ddargyfeirio, bellach.

Noddwyd y bont hon gan Gyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru, TRACC (y consortiwm trafnidiaeth leol) a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Am fanylion y ffordd, gweler Map Llwybr Arfordir Cymru 48.

Lleoliad: Rhwng Sanclêr a Llansteffan, Sir Gaerfyrddin

Mae rhannau a hyrwyddwyd yn wreiddiol fel rhannau o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Trefenty a Llandeilo Abercywyn yn annerbyniol o wlyb am gyfran helaeth o’r amser. Er mwyn osgoi hyn, mae trywydd swyddogol Llwybr Arfordir Cymru wedi’i ddargyfeirio, a bellach mae’n dilyn y lonydd a ddangosir ar y map.

Am fanylion y ffordd, gweler Map Llwybr Arfordir Cymru 83.

Location: Parc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin

Oherwydd llifogydd difrifol y gaeaf diwethaf ar ffordd Llwybr Arfordir Cymru trwy Goed Pen-bre, mae’r ffordd wedi’i dargyfeirio’n barhaol, nawr, trwy atyniadau ymwelwyr poblogaidd traeth Cefn Sidan a Pharc Gwledig Pen-bre. (Gorffennaf 2014)

Am fanylion y ffordd, gweler Map Llwybr Arfordir Cymru 87.