O’r Felinheli i Gaernarfon
Llwybr cwbl hygyrch ar lwybr beicio sy’n dilyn...
Taith gerdded drwy goetir cysgodol ar hyd llwybr coediog neu lwybr pren gyda golygfeydd o’r Fenai a phont Britannia
Rydym wedi gweithio gydag Experience Community – cwmni buddiannau cymunedol nid-er-elw sy’n helpu pobl anabl i gael mynediad rhwyddach i’r awyr agored. Mae’r cwmni wedi archwilio pa mor addas yw’r llwybr ar gyfer offer symudedd ac wedi casglu manylion am y llethrau, graddiant y llwybr ac unrhyw rwystrau posibl, i’ch helpu i benderfynu a yw’n addas ar gyfer eich gallu ai peidio.
Llwybr llinol sy’n dilyn Llwybr Arfordir Cymru yng Ngogledd Cymru, sy’n mynd heibio Gardd Fotaneg Treborth (sydd yng ngofal Prifysgol Bangor), coetir, golygfeydd o'r Fenai a Phont Britannia cyn gorffen ar Ystad y Faenol sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Gallwch ymestyn y daith gerdded hon drwy ei chyfuno â thaith gerdded Felinheli i Gaernarfon i’w gwneud yn daith gerdded 11 milltir neu 18 cilometr o hyd rhwng Gardd Fotaneg Treborth a Chaernarfon.
Gallwch wneud hyn drwy barhau ar hyd y llwybr o Ystad y Faenol a dilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru i gyfeiriad y Felinheli. Mae'r llwybr rhwng Ystad y Faenol a'r Felinheli yn dilyn trac garw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer mynediad preifat i gerbydau a gall fynd yn fwdlyd ac anwastad mewn tywydd gwlyb.
Gallwch ddilyn llwybr cylchol byrrach hefyd trwy ddilyn Llwybr Arfordir Cymru am 0.6 milltir neu 1 cilomedr ac yna dringo’n raddol i'r gerddi botaneg.
Lawrlwythwch y daflen wybodaeth er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich ymweliad. Mae Experience Community hefyd wedi gwirio ac wedi creu llwybr ar-lein, o’r Felinheli i Ardd Fotaneg Treborth. Er mwyn eich helpu i benderfynu a yw’r llwybr hwn yn addas i chi ai peidio, ceir ffotograffau a gwybodaeth fanwl e.e. cilfachau parcio i’r anabl, cyfleusterau, arwyneb a graddiant y llwybr. Gweld y map a manylion am y llwybr o’r Felinheli i Ardd Fotaneg Treborth (yn agor gwefan Photo Trails).
Dechrau : Gardd Fotaneg Treborth, Bangor
Gorffen : Stad y Faenol (y tirnod agosaf ar fap yw “Boathouse Covert”)
Pellter: Mae'r llwybr llinol yn 3 cilomedr neu 2 milltir (yno ac yn ôl)
Amser: Caniatewch 2 i 3 awr
Wyneb: Cerrig cywasgedig gydag arwyneb rhydd mewn rhai mannau. Rhywfaint o dir anwastad.
Llethrau: Mae gan y llwybr rai llethrau a chambr serth mewn rhai mannau ac efallai y bydd angen cymorth ar rai defnyddwyr.
Proffil y Llwybr: Gallwch weld o broffil y llwybr faint y bydd rhaid ichi ddringo, a’r man uchaf ar y llwybr. Dim mwy na 30m o waith dringo.
Lled y Llwybr: 1.5 metr yn y man culaf
Giât Mochyn: Ceir un giât mochyn wrth fynedfa'r llwybr o'r ardd fotaneg.
Ceir giât o'r llwybr i'r ffordd wrth i chi ddod i mewn i’r Felinheli.
Rhwystrau eraill — Mae grid gwartheg a giât fetel addurnedig gul (tua 1 metr o led) ym mhen arall y llwybr ar Stad y Faenol. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd angen i rai ymwelwyr droi yn ôl yn y fan hon.
Ar gyfer llywio â lloeren defnyddiwch Gardd Fotaneg Treborth, Bangor, LL57 2RX
Cludiant Cyhoeddus: Ewch i Traveline Cymru i gynllunio eich taith.
Parcio: Mae lleoedd parcio yn gyfyngedig gyda dau fae anabl wrth fynedfa Gardd Fotaneg Treborth. Mae nifer o leoedd parcio i'r anabl ym mhen Felinheli o'r llwybr ar hyd Ffordd y Traeth.
Toiledau: Nid oes toiledau hygyrch yng Ngardd Fotaneg Treborth ar hyn o bryd. Ceir toiledau yn archfarchnad Waitrose Porthaethwy (dros y bont ar Ynys Môn) ac yn yr Antelope Inn ar ochr Treborth i Bont y Borth. Ar ben arall y llwybr ceir toiledau hygyrch yn nhref Y Felinheli ar Ffordd y Traeth.