Cadw

undefinedMwynhewch ddiwrnod diddorol ar Lwybr Arfordir Cymru a dewch i ddysgu am hanes cythryblus Cymru.

Mae 'Cadw' sy'n golygu 'cadw' neu 'ddiogelu' yn y Gymraeg yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy'n gweithio am amgylchedd hanesyddol wedi'i ddiogelu'n dda a hygyrch. Maen nhw yn cadw ein treftadaeth ac yn helpu i gynnal cymeriad nodweddiadol Cymru. Maen nhw hefyd yn helpu pobl i ddeall a gofalu am hanes Cymru. Ceir amrediad eang o safleoedd cadw i'w harchwilio a'u mwynhau ar hyd Llwydr Arfordir Cymru, felly pam na wnewch chi ddod i grwydro ar ei hyd.

Castell y Fflint

Dyma un o gestyll cyntaf Brenin Edward I yng Nghymru, a dechreuwyd ei adeiladu ym 1277. Ei nodwedd amlycaf yw’r Tŵr Mawr, sy’n sefyll ar wahân i weddill y ward fewnol gyda dyfrffos a phont godi. Mae’n ymddangos yn nrama Richard III Shakepseare.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell y Fflint.

undefinedCastell Conwy a Muriau’r Dref

Mae Castell Conwy a muriau’r dref ymhlith y caerau canoloesol gorau sydd wedi goroesi yng ngwledydd Prydain. Pa ryfedd eu bod yn Safle Treftadaeth y Byd? Mae’n anodd credu iddynt gael eu hadeiladu ar garlam mewn pedwar tymor adeilad byr rhwng 1283 a 1287. Dringwch i ben y tyrau a’r tyredau a dilynwch y llwybrau i ganfod sut llwyddodd y Cymry i gipio’r castell yn y bymthegfed ganrif.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Conwy a Muriau'r Dref.

Plas Mawr, Conwy

Oes Elizabeth. Oes Aur? Cyfnod y Dadeni, Shakespeare a chyfnod Plas Mawr. Dyma’r plasty trefol Elisabethaidd gwychaf ym Mhrydain.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Plas Mawr.

Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu

Bedd cyntedd Neolithig a adeiladwyd ar safle hengor cynharach yw Bryn Celli Ddu, un o safleoedd archeolegol mwyaf cyfareddol gwledydd Prydain. Wedi’i adfer yn rhannol, mae’r twmpath hwn yn rhoi syniad i ni o faint anferthol y beddrod.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu.

Siambr Gladdu Barclodiad y Gawres

Mae’r bedd cyntedd hwn, gyda’i leoliad dramatig uwchlaw’r môr, yn cynnwys sawl carreg wedi’u haddurno gan adeiladwyr cynhanes . Mynediad trwy apwyntiad i’r siambr o hanner dydd tan 4 o’r gloch prynhawn Sadwrn, Sul a Llun Gŵyl y Banc, rhwng 1 Ebrill a 31 Hydref - galwch draw yn Wayside Stores, Llanfaelog, filltir i’r gogledd o’r siambr. Bydd aelod o’r staff yn dod gyda chi i’r safle.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Siambr Gladdu Barclodiad y Gawres.

Caer Rufeinig Fach Caergybi

Caer hirsgwar o’r cyfnod Rhufeinig diweddar, ar yr arfordir. Mae’r muriau mewn cyflwr da iawn, ac yn sefyll hyd at 4m (13 troedfedd) mewn rhai mannau.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Caer Rufeinig Fach Caergybi.

Priordy Penmon, Colomendy a Ffynnon Seiriol

Mae’r ffynnon sanctaidd ym Mhenmon yn cyfeirio at Seiriol Sant a sefydlodd fynachlog yma yn y chweched ganrif yn ôl pob tebyg. Mae adeiladau’r priordy presennol, fodd bynnag, yn dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg. Cafodd y colomendy sgwâr cyfagos ei godi ym 1600, ac mae’n cynnwys tua mil o flychau nythu.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Priordy Penmon, Colomendy a Ffynnon Seiriol.

undefinedCastell Biwmares

Castell godidog sy’n gwbl gymesur. Prosiect adeiladu mawr olaf Edward I yn y Gogledd sy’n dal yn anorffenedig!

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Biwmares.

Castell a Muriau Tref Caernarfon

Gyda’i waith carreg rhesog a’i dyrau onglog, Castell Caernarfon yw un o adeiladau canoloesol mwyaf trawiadol gwledydd Prydain. Cafodd y castell a muriau’r dref eu cynllunio fel un pan ddechreuodd y gwaith adeiladu ym 1283, ac maent bellach yn Safle Treftadaeth y Byd. 

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell a Muriau Tref Caernarfon.

Castell Cricieth

Am ddarlun, am olygfa! Mae’r castell yn sefyll yn dalog ar bentir uwchben y môr. Wedi’i adeiladu’n wreiddiol gan Llywelyn Fawr, roedd castell y tywysog Cymreig yn cynnwys porthdy dwbl yn null y Sais. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, cipiwyd y castell gan luoedd Edward I, a roddodd ei stamp ei hun arno ac addasu’r tŵr ar gyfer peiriannau taflu cerrig.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Cricieth.

Castell Harlech

Dywedir bod ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’ - anthem answyddogol y genedl ac un o hoff ganeuon dilynwyr rygbi a bandiau catrodol fel ei gilydd - yn disgrifio’r gwarchae mwyaf hirhoedlog yn hanes Prydain (1461-68), a welwyd yma yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod. Adeiladwyd model ‘muriau o fewn muriau’ llwyddiannus Edward yn syndod o gyflym rhwng 1283 a 1295 gan fyddin o bron i fil o grefftwyr a llafurwyr medrus.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Harlech.

Ffwrnais Ddyfi

Cafodd y ffwrnais chwyth hon, a yrrwyd â golosg, ei hadeiladu yng nghanol y ddeunawfed ganrif er mwyn toddi mwyn haearn. Arferai’r olwyn ddŵr yrru megin a oedd yn chwythu drafft i’r ffwrnais.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Ffwrnais Ddyfi.

Abaty Llandudoch

Pwerdy ysbrydol a diwylliannol ar lan afon Teifi a fu’n enwog am ei lyfrgell nodedig ers talwm. Mae un o berlau llenyddol y llyfrgell, llawysgrif Historia Ecclesiastica gan Eusebius o’r drydedd ganrif ar ddeg, i’w gweld yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, heddiw.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Abaty Llandudoch.

Siambr Gladdu Carreg Coetan Arthur

Beddrod Neolithig gyda chapfaen enfawr sy’n pwyso ar ddwy o’r pedair carreg hir sydd wedi goroesi. Adeiladwyd tua 3500 C.C.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Siambr Gladdu Carreg Coetan Arthur.

Capel Santes Non

Y capel bach hwn - sydd wedi’i gysegru i Non Fendigaid, mam Dewi Sant - oedd y capel pererindod pwysicaf o blith llu ohonynt ar hyd a lled Tyddewi yn ystod yr Oesoedd Canol. Dyma fan geni Dewi Sant, yn ôl y chwedl.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Capel Santes Non.

Castell Talacharn

Wedi’i adeiladu yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y teulu de Brian, mae’r castell hynafol hwn uwchben aber afon Taf yn hoelio’ch sylw fel eryr balch.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Talacharn.

undefinedCastell Llansteffan

Saif Castell Llansteffan ar bentir uwchben y traethellau ar aber afon Tywi. Sylwodd y goresgynwyr Normanaidd ar gadarnle naturiol a phwysigrwydd strategol y lleoliad trawiadol hwn, ac aethant ati i adeiladu clostir pridd-a-phren, neu ‘gylchfur’, o fewn amddiffynfeydd hynafol caer o’r Oes Haearn.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Llansteffan.

Castell Cydweli

Mae Cydweli yn gastell o’r iawn ryw - gwrthgloddiau serth, tyrau uchel, waliau talog a chlamp o borthdy. Castell Normanaidd wedi’i wneud o bridd a phren oedd yma’n wreiddiol, a gallwch ddilyn ei hen ffurf hanner lleuad trwy gerdded ar furiau cerrig diweddarach y ward allanol. Da chi, peidiwch â gadael heb ymweld â’r porthdy mawr a’r capel bach hyfryd ger yr afon.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Cydweli.

Castell Casllwchwr

Mae’r castell bach hwn yn sefyll uwchlaw afon Llwchwr, ar y prif lwybr o’r De-ddwyrain i’r De-orllewin. Adeiladwyd castell pridd Normanaidd yma, yng nghornel caer Rufeinig, ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Mae’r tŵr carreg a welir yma heddiw yn dyddio’n ôl i tua 1300.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Casllwchwr.

Castell Weble

Weble oedd cartre’r teulu de Bere tan y bymthegfed ganrif. Faint o lefydd sy’n cynnig cyfle i chi sefyll ger yr union un ffenestr ble safodd rhywun arall hanner mileniwm yn ôl, a mwynhau’r un olygfa ddigyfnewid? Mae Weble yn un o’r llefydd prin yna, gyda golygfa agored braf ar draws chorsydd a thraethellau gogledd Gŵyr.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Weble.

Castell Oxwich

Mae’r Gŵyr yn ddiguro, ac mae’r cyfoeth o draethau a threftadaeth yn denu ymwelwyr yn llu i’r penrhyn prydferth hwn. Arferai uchelwyr yr oes a fu ymgartrefu ble bynnag oedd yr olygfa orau. Dewisodd y teulu Mansel lecyn hyfryd ar bentir coediog uwchben Bae Oxwich i adeiladu eu cartref delfrydol yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Oxwich.

Castell Ogwr

Camwch yn ôl i’r Oesoedd Canol, pan oedd y Normaniaid yn tra-arglwyddiaethu trwy reoli’r tir ac adeiladu cestyll. Sefydlwyd castell pridd yma gan yr Arglwydd Normanaidd William de Londres ym 1100, cyn i’r adeiladau cerrig cyntaf ymddangos yn fuan wedyn. Fe’i codwyd ar lan yr afon, safle hwylus i fynd a dod a chyflenwi nwyddau’n hawdd, a gallwch gyrraedd y castell drwy neidio ar draws y cerrig sarn hyd heddiw.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Ogwr.

Gwersyll Bwlwarcau Cas-gwent

Adeiladwyd y caer pentir bychan hwn gyda chlawdd dwbl a ffos uwchlaw afon Wysg yn ystod yr Oes Haearn Diweddar gan y Silwriaid, y llwyth a reolai de Cymru pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Gwersyll Bwlwarcau Cas-gwent.

Castell Cas-gwent

Enghraifft berffaith o hirhoedledd. Rhwng tua 1067 a 1690, newidiodd ymddangosiad y castell droeon yn ôl pensaernïaeth filwrol y cyfnod. Ehangodd ar hyd cefnen gul y clogwyn o ganrif i ganrif. Y tŵr mawr Normanaidd yw adeilad hynaf y castell, ond parhaodd y gwaith adeiladu ymhell i’r ail ganrif ar bymtheg wrth i ragfuriau ar gyfer tanio mysgedau ddisodli’r hen furfylchau canoloesol.

Cliciwch ar safle Cadw am fwy o wybodaeth am Castell Cas-gwent.