
Rydym ni’n cydweithio â Ramblers Cymru er mwyn cynnal gŵyl rad ac am ddim i ddathlu Llwybr Arfordir Cymru
40 taith newydd, un ŵyl
Mae gennym ni raglen gyffrous o deithiau cerdded a gweithgareddau i’w cynnal yn saith o leoliadau mwyaf poblogaidd Llwybr yr Arfordir, a hynny dros gyfnod o saith diwrnod rhwng y 4ydd a’r 19eg o Fai, 2019.
Bydd nifer o deithiau cerdded yn y lleoliadau hyn ar y dyddiadau canlynol:
- 4 Mai yn y Gogarth, Llandudno (penwythnos Gwyl y Banc)
- 5, 7, 10 Mai ar Ynys Môn
- 6 Mai ym Mhorthmadog, Gwynedd
- 11 Mai yng Nghwmtydu, Ceredigion
- 12 Mai yn Saundersfoot, Sir Benfro
- 18 Mai ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin
- 19 Mai yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg
Gyda dros 40 o deithiau tywys, a digonedd o weithgareddau fel glanhau traethau a chasglu bwyd gwyllt, bydd rhywbeth yn siŵr o’ch ysbrydoli i wisgo’ch esgidiau cerdded. Bydd y rhaglen yn cynnwys digwyddiadau sy’n addas ar gyfer ystod eang o alluoedd gwahanol- boed yn gerddwr brwd neu’n deulu ifanc. Rydym ni’n awyddus i bawb ymuno â ni er mwyn darganfod rhan fach o’u Llwybr Arfordir.
Mae’n swnio’n wych! Sut mae mynd ati i gofrestru?
Lawrlwythwch ein rhaglen gŵyl gerdded fel y gallwch weld yn sydyn pa deithiau cerdded i archebu eich lle arnynt.
Mae llwyth o wybodaeth ddefnyddiol i’w gael ar wefan EventBrite Gŵyl Gerdded Llwybr Arfordir Cymru, gan gynnwys lleoliadau a hyd y teithiau cerdded, er mwyn eich helpu i ddewis yr un sy’n gywir i chi. Does ond angen dewis pa daith yr ydych am ei cherdded ac yna archebu eich lle gan ddefnyddio’r wefan.
Nodwch fod y rhan fwyaf o’r teithiau am ddim, ond bydd ffi ychwanegol ar gyfer teithiau llinol pan fydd angen eich cludo o un man i’r llall.
Angen cymorth i gynllunio?
Mae digon o wybodaeth ar ein tudalen Cynllunio Eich Ymweliad gan gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol o lwybr yr arfordir.
Beth nesaf? Dywedwch wrth bawb!
- Rhannwch y dudalen hon gyda’ch ffrindiau a’ch teulu gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
- Dilynwch @walescoastpath er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
- Defnyddiwch yr hashtag #CerddedGydanGilydd er mwyn cyrraedd rhagor o bobl.
Diolch i’r holl bartneriaid sydd wedi bod yn rhan o’r ŵyl hon, gan gynnwys:
- Ramblers Cymru
- Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru
- Cadwch Gymru’n Daclus
- RSPB Cymru
- Yr Ymddiriedolaethau Natur
- Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed
- Royal National Lifeboat Institution (RNLI)
- Ffestiniog and Welsh Highland Railways
Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol (CYTRh) sy’n derbyn cefnogaeth gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaeth Cymru ar gyfer Datblygiad Gwledig (CACagDG) a Chronfa Llywodraeth Cymru er mwyn gwella profiad ymwelwyr a chreu cyrchfanau cryfach drwy gydweithio.