Ymunwch â gweminar “Croeso’n ôl” Llwybr Arfordir Cymru
Digwyddiad byw ar Facebook: straeon newyddion...
Yn union oddi ar y llwybr, ar arfordir Ynys Môn ceir ynys drawiadol Llanddwyn - cartref ysbrydol Santes Dwynwen – a chyda Eryri yn y pellter mae’r safle unigryw hwn yn cynnig awyrgylch ramantus berffaith.
Os byddwch yn ymweld â’r ynys mae’n werth mynd i weld Ffynnon Dafaden. Yma, yn ôl y sôn, ceir pysgodyn cysegredig, ac mae ei symudiadau yn rhagfynegi ffawd a pherthynas gwahanol gyplau. Dywedir bod rhai sy’n ymweld â’r ffynnon yn credu, os bydd y dŵr yn berwi tra byddant yno, yna bydd cariad a lwc dda yn sicr o ddod i’w rhan.
Mae’r rhan hon o’r llwybr yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Ynys Môn sydd wedi bod ar agor ers 2006 ac sydd, erbyn hyn, yn un o drysorau Llwybr Arfordir Cymru.
Meddai Sue Rice, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Beth bynnag sydd gennych mewn golwg – unai mynd am dro bach ramantus ar hyd y traeth yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch Cyfoeth Naturiol Cymru neu daith bellach o 13 milltir o Lyn Rhos Ddu i Aberffraw, mae’r llwybr yn cynnig popeth.”
Meddai John Griffiths, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon Cymru: “Os yw Llanddwyn i’w weld yn rhy bell i ffwrdd, peidiwch â digalonni. Mae gan Lwybr Arfordir Cymru - sy’n fwy na 870 milltir o hyd, ddigon o draethau prydferth a golygfeydd syfrdanol sy’n sicr o blesio pawb!”
Beth am ymweld â’n gwefan http://www.llwybrarfordircymru.gov.uk neu lawrlwytho ap Cadw Cymru’n Daclus yn rhad ac am ddim Arfordir Cymru i ganfod eich hoff lecyn rhamantus?