Arweinlyfrau Rhad ac Am Ddim
Cynlluniwch eich taith i’r llwybr ar ôl diwedd y cyfyngiadau
Cynlluniwch eich taith i’r llwybr ar ôl diwedd y cyfyngiadau
Efallai na allwch chi grwydro ar hyd 870 milltir Llwybr Arfordir Cymru eto, ond nawr yw’r amser perffaith i gynllunio a pharatoi ar gyfer taith wedi diwedd y cyfyngiadau. O wylio dolffiniaid ym Mae Ceredigion i gartref godidog nawddsant cariadon Cymru yn Ynys Môn, mae yna lu o brofiadau i chi eu darganfod.
Arweinlyfrau Rhad ac Am Ddim
Rydyn ni wedi ymuno â Northern Eye Books i roi arweinlyfrau swyddogol yn rhad ac am ddim ar gyfer pob rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
I’ch helpu i gynllunio eich anturiaethau, bob wythnos byddwn ni’n rhoi arweinlyfr gan Northern Eye Books i rywun am ddim. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar un o saith rhanbarth allweddol ar y llwybr, gan dynnu sylw at rai ffeithiau diddorol am bob un.
Darganfyddwch ragor o wybodaeth am y arweinlyfrau eraill ar wefan Northern Eye Books.
Sut i gymryd rhan
I gael cyfle i ennill, rhannwch rywbeth rydych chi’n ei garu am arfordir Cymru ar Instagram, Twitter neu Facebook, gan dagio cyfrif Llwybr Arfordir Cymru (@walescoastpath) ac un ffrind.
Yna, byddwn yn dewis un enillydd ar hap bob wythnos!
- Wythnos 1 - Arfordir Gogledd Cymru
- Wythnos 2 - Ynys Môn
- Wythnos 3 - Pen Llŷn
- Wythnos 4 - Eryri ac arfordir Ceredigion
- Wythnos 5 - Sir Benfro
- Wythnos 6 - Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr
- Wythnos 7 - Arfordir De Cymru
Rhannwch yr ymgyrch
Gadewch sylw a thagiwch eich ffrindiau ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashtag #LlyfrauArfordirCymru am gyfle i ennill un o'r llyfrau poced defnyddiol a defnyddiol hyn i ddechrau taith Llwybr Arfordir Cymru.
Am Northern Eye Books
Mae Northern Eye Books yn cyhoeddi llyfrau cerdded ysbrydoledig, mawr eu bri ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, Llwybr Arfordir y De Orllewin, Cymru a Swydd Gaer. Am rhagor o mwy gwybodaeth am llyfraau cerdded arall, ewch i gwefan Northern Eye Books