Teithiau cerdded i archwilio'r ardal - Arfordir de Cymru ac Aber Afon Hafren

Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Ein uchafbwyntiau

Antur Blwyddyn 2016 Bae Caerdydd

Dilynwch ôl troed y Dyn Tywydd (Weatherman Walking) Derek Brockway a rhowch gynnig ar y daith gerdded 5 milltir

o hyd hon o amgylch Bae Caerdydd. Dilynwch ymchwil un anturiaethwr am Begwn y De, eglwys Norwyaidd a rhith optegol i enwi ond ambell atyniad ar hyd y daith gerdded wastad hon sy’n addas i deuluoedd.

Mae Cei'r Fairforwyn, sef yr ardal siopa a hamdden glan y dŵr sydd yng Nghaerdydd, yn cynnig dewis helaeth o fariau, caffis a bwytai i’ch helpu i wneud y gorau o’ch taith gerdded.

Man cychwyn antur i Antarctica

Mewn ymgais i fod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De, hwyliodd y Capten Robert Falcon Scott ar long y Terra Nova o borthladd Caerdydd ar 15 Mehefin 1910.

Do’n wir, fe gyrhaeddodd yno gyda’i griw ym mis Ionawr 1912, ond canfu bod Roald Amundsen o Norwy wedi cyrraedd yno 3 wythnos ynghynt. Diweddglo trasig fu i’r daith serch hynny pan gollodd pob un o’r 5 aelod o griw'r Terra Nova eu bywydau ar eu ffordd nôl.

Ond peidiwch â gadael i ymdrech Capten Scott i anturio i Begwn y De ladd eich ysbryd anturus. Ewch i weld yr arddangosfa yn y Bae ac edmygwch eu taith ddewr a blinderus i un o fannau mwyaf anghyfannedd y byd.

Bae llawn diwylliant a hanes

Roedd Bae Caerdydd yn un o’r tri phrif borthladd ym Mhrydain yn y 19eg ganrif. Llynges fasnach Norwy oedd y drydedd fwyaf yn y byd yn y cyfnod hwnnw a dewisodd Gaerdydd fel un o’i phrif ganolfannau gweithredu.

Er mwyn gwasanaethu anghenion crefyddol y morwyr o Norwy, adeiladwyd eglwys yma yn 1868. Mae’r eglwys fach wen hon yn enwog fel yr eglwys lle bedyddiwyd Roald Dahl, y nofelydd plant byd-enwog a aned yng Nghaerdydd.

Allwch chi ganfod y rhith optegol?

Os sefwch chi mewn un lle penodol ar adeiladwaith Morglawdd Caerdydd, fe ddowch o hyd i’r “Three Ellipses for Three Locks”, sy’n cael eu hadnabod hefyd fel Cylchoedd y Morglawdd (“Barrage Circles”) a gynlluniwyd gan yr arlunydd Felice Varini.

Nid yw’r tri chylch melyn sydd wedi eu peintio ar adeiladwaith y morglawdd yn amlwg ar unwaith ond dewch o hyd i’r smotyn hwnnw ac fe ddatgelir y cyfan!

Adnoddau

Teithiau cerdded byr

Llwybr Arfordir Morglawdd Bae Caerdydd
1.8 milltir / 2.9 km

O’r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd i dref glan môr Penarth, mae’r llwybr hwn yn ardderchog ar gyfer beicwyr a phobl mewn cadeiriau olwyn yn ogystal â cherddwyr. Mae tro o gwmpas Bae Caerdydd i gyd yn 6.2 milltir. Darganfod mwy am y daith gerddedo hyd y Morglawdd Bae Caerdydd.

Southerndown i Ogwr
2.1 milltir / 3.4 km

Mae llethrau serth ar y ffordd ond mae’r golygfeydd yn ysblennydd. Dros yr aber yn Ogwr, fe welwch dwyni tywod mawreddog Merthyr Mawr. Darganfod mwy am y daith gerdded o Southerndown i Ogwr.

Llanilltud Fawr i Oleudy Nash Point
2.5 milltir / 4 km

Mae’r tro hwn yn mynd â chi heibio i Gastell Sain Dunwyd, cartref Coleg Iwerydd. Bu’r teicŵn papurau newydd Americanaidd William Randolph Hearst yn berchen ar y lle. Darganfod mwy am y daith gerdded o Llanilltud Fawr i Oleudy Nash Point

Redwick
4.5 milltir / 7 km

Mae’r gylchdaith hon yn mynd â chi ar hyd llwybrau gwledig gyda digon o olygfeydd o’r môr. Eglwys hanesyddol Redwick yw’r man cychwyn. Mae marc yn y porth yn dangos uchder llifogydd difrifol yn 1607. Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Redwick (rhif  7 ar y taflen Let's Walk Newport)

Canolfan Cynffig i Borthcawl
4.5 milltir / 7km

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn gartref i degeirianau gwyllt, pryfed a mathau eraill o fywyd gwyllt, ac mae’n lle gwych i gychwyn y daith gerdded bleserus yma sy’n cynnwys rhai o’r traethau gorau yng Nghymru ar gyfer syrffio a chwaraeon dŵr. Byddwch yn cerdded yn agos at Dŷ’r Sger (Sker House), y cartref hanesyddol sydd, yn ôl rhai, yn llawn bwganod ac a oedd yn sail i nofel R D Blackmore, The Maid of Sker. (Bws)

Teithiau cerdded hir

Cas-gwent i Blackrock
6 milltir / 9.6 km

Cychwyn wrth yr Old Town Bridge yn nhref farchnad Cas-gwent. Ceir golygfeydd hardd dros aberoedd afonydd Gwy a Hafren. Mae’n hawdd cerdded i faes picnic Blackrock - safle’r hen groesfan i Loegr.

Llwybr Bae Caerdydd
6.2 milltir / 10 km

Cyfle i fwynhau treftadaeth gyfoethog Caerdydd a ddatblygodd yn sgil y dociau prysur a llwyddiannus. Ar y gylchdaith hon, fe welwch nodweddion hanesyddol fel yr Eglwys Norwyaidd (lle bedyddiwyd Roald Dahl) ac adeiladau eiconig fel Canolfan Mileniwm Cymru sy’n enwog drwy’r byd. Darganfod mwy am y daith gerdded Llwybr Bae Caerdydd 

Aberogwr i Nash Point
6.2 milltir / 10 km

Mae’r llwybr yma’n dilyn Arfordir Treftadaeth Morgannwg i Nash Point. Dewch i archwilio’r arfordir ysblennydd a dramatig yma (a phiciwch draw i’r ganolfan ymwelwyr ym Mae Dunraven i gael mwy o wybodaeth). Byddwch yn siŵr o ddod ar draws traethau trawiadol yn ystod y daith.

Porthcawl i Gastell Aberogwr
7 milltir / 11km 

Llwybr sy’n cynnwys Traeth yr Afon a’r Warchodfa Natur Genedlaethol ym Merthyr Mawr, ac sy’n diweddu ger y castell a’r cerrig sarn yn Aberogwr. (Bws)

Cylchdaith Gwastadeddau Gwent
7.5 milltir / 12 km

Taith gyffrous, ar dir gwastad yn bennaf ar lwybrau â wyneb caled o gwmpas Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd, sy’n ganolfan bwysig drwy’r wlad i fywyd gwyllt ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Gwent Levels

Merthyr Mawr i Gynffig
11.5 milltir / 18.5 km

Dewch i adnabod y darn hwn o lwybr yr arfordir sy’n cynnwys Porthcawl a’i harbwr, traethau tywodlyd, Pafiliwn y Grant, Locks Common, Rest Bay a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Darganfod mwy am y daith gerdded yma Merthyr Mawr i Gynffig

Arfordir Treftadaeth Morgannwg
14 milltir / 22.5

Mae hwn yn dilyn Arfordir Treftadaeth Morgannwg o Newton Burrows i Gileston. Mae golygfeydd trawiadol ac ysblennydd o’r arfordir i’w gweld o’r llwybr. Darganfod mwy am y daith gerdded yma  Arfordir Treftadaeth Morgannwg