Cyflwyno ein llysgenhadon cyfryngau cymdeithasol newydd!
Ein hoff ddylanwadwyr a chrewyr cynnwys am ysbrydoliaeth
Hybu eich lles ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
Hiraeth – Gair i ddisgrifio’r teimlad o alar, colled dirdynnol neu ddyhead am rywbeth nad yw’n bod mwyach.
Ar ôl blwyddyn mor heriol, mae hiraeth yn deimlad rydyn ni gyd yn gyfarwydd ag ef.
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, beth am ddechrau cynllunio eich anturiaethau ar ôl y cyfnod clo ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Er yr ansicrwydd ynglŷn â phryd yn union y cawn deithio eto, mae’n amser da i sianelu eich teimladau hiraethus a pharatoi i hybu’ch lles ar hyd y llwybr arfordirol hwn sy’n 870 milltir o hyd.
Nid yw'n fawr o gyfrinach mai cerdded yw un o'r ffyrdd gorau o wella ffitrwydd ac iechyd meddwl. Mae'r cyfuniad o dirweddau hyfryd, awel adfywiol y môr ac ymarfer corff llai heriol yn golygu bod teithiau cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn opsiwn delfrydol i'r rhai sy'n dymuno blaenoriaethu eu lles meddyliol a chorfforol eleni.
Rhowch lonydd i’ch pryderon a chliriwch eich meddwl gyda thaith gerdded ar drywydd ieir bach yr haf rhwng Cwmtydu a Chwm Soden yng Ngheredigion. Ffarweliwch â’ch gofidiau wrth i chi fynd heibio ogofâu a thraeth caregog Cwmtydu, olion caer Castell Bach sy’n dyddio o'r Oes Haearn a cheg Afon Soden ar y gylchdaith 3km.
Darganfyddwch fwy o fanylion am taflen cerdded Cwmtydu a Cwm Soden
Ydych chi'n un o'r nifer a roddodd gynnig ar hobi newydd yn ystod y cyfnod clo? Os felly, beth am ddatblygu eich sgiliau ymhellach drwy ddarlunio harddwch Bae Ceredigion ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gyda’r arlunydd Anita Woods. Mwynhewch yr awyr iach wrth beintio'r baeau ysgubol, traethau caregog a thonnau nerthol yr arfordir. Ymlaciwch drwy arsylwi adar y môr, heidiau o ddolffiniaid a morloi sy'n swatio ar y glannau creigiog.
Ar ôl i chi fynegi eich doniau artistig, dringwch i gopa Mwnt i weld golygfeydd gwerth chweil ar draws Bae Ceredigion. Mae'r tro byr 1km ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn eich tywys ar hyd clogwyni uchel uwchben y traeth tywodlyd a'r eglwys wyngalchog. Ar gopa’r clogwyn, cewch fwynhau y golygfeydd mwyaf godidog ac ar ddiwrnod clir mae’n bosib cael cip o fynyddoedd Eryri tua’r gogledd.
Dewch o hyd i’ch canol llonydd distaw i gyfeiliant sŵn mwyn y môr, awyr iach ac ymarferion pwyllog yoga. Mae Llwybr Arfordir Cymru’n frith o fannau tawel, diarffordd a thraethau helaeth sy'n ddigon i ysbrydoli darpar yogis i synfyfrio. Dechreuwch eich diwrnod ar doriad y wawr gyda sesiwn yoga ar gopaon Twyni Tywod Merthyr Mawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy’n gartref i degeirianau prin sy'n blaguro yn y misoedd cynhesach. Neu gallwch ymgolli yn nhywod gwyn diddiwedd Traeth Porth Mawr yn Sir Benfro, sy’n draeth baner las. Ymlwybrwch ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i ddod o hyd i lond llaw o hafanau tawel yr arfordir, sy'n berffaith ar gyfer sesiwn fyfyrio i glirio’r meddwl.
Darganfyddwch fwy am y daith gerdded o'r Drenewydd i Candleston
Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn y byddwch yn ymweld, gall cerddwyr weld amrywiaeth o adar, anifeiliaid morol a bywyd gwyllt tymhorol sy’n ymgartrefu ar arfordir Cymru. Paciwch eich binocwlars a chynlluniwch saffari i chi’ch hun ar hyd llwybr yr arfordir. Mae pob rhanbarth yn gartref i wahanol anifeiliaid gwyllt, o nythfeydd palod byd-enwog Sir Benfro i'r heidiau o ddolffiniaid trwyn potel sydd i’w gweld yn dawnsio drwy'r tonnau ar lannau Penrhyn Llŷn.
Mae’n bosib gweld rhywfaint o fywyd gwyllt arfordirol mwyaf prin y DU wrth ddilyn y llwybr o Langrannog i Gei Newydd ar hyd Bae Ceredigion yng Ngorllewin Cymru. Cadwch eich llygaid yn agored am heulgwn a dolffiniaid yn ogystal ag adar fel piod môr a brain coesgoch. Ar hyd y ffordd, ewch heibio Ynys Lochtyn a’r golygfeydd syfrdanol o’i hamgylch.
Darganfyddwch ragor o fanylion am deithlen gerdded Llangannog i Gei Newydd (o wefan Discover Ceredigion)
Os nad yw cerdded yn apelio, peidiwch a phoeni, newidiwch eich esgidiau cerdded am feic ac ewch i archwilio rhannau o’r llwybr sy’n addas ar gyfer beicio. O Fae Colwyn i Gaernarfon, mae pob un o'r llwybrau hyn yn wastad ac yn ddi-draffig, sy'n golygu eu bod yn addas ar gyfer beicwyr ifanc a rhai hŷn.
Un o'r llwybrau mwyaf poblogaidd yw Parc Arfordirol y Mileniwm yn Sir Gaerfyrddin, sy'n ymestyn o dref Cydweli drwy'r parc sy'n edrych dros olygfeydd eang aber Llwchwr i Benrhyn Gŵyr. Cymerwch hoe fach ac ymwelwch â Chanolfan y Gwlyptiroedd, sy’n gartref i haid breswyl o Fflamingos Pinc!
Darganfyddwch ble y gallwch feicio ar y llwybr
Un o'r ffyrdd gorau i leddfu straen ac anghofio eich pryderon yw ymgolli mewn stori dda. Diolch i ap realiti estynedig arloesol Llwybr Arfordir Cymru, gall cerddwyr o bob oed gamu i’r awyr agored a datgelu hanesion a chwedlau lleol, dysgu am fflora a ffawna, hanes lleol a darganfod llongddrylliadau dirgel a ffeithiau annisgwyl.
Profwch ddelweddau cyffrous, straeon difyr a gemau rhyngweithiol yn rhai o gyrchfannau diddorol y llwybr. Gall y rhai sy’n hoff o hanes ddarganfod tywod euraidd traeth Pentywyn lle cynhaliwyd nifer o ymdrechion i dorri record cyflymder y byd. Drwy gemau rhyngweithiol gallwch geisio cyflawni eich record cyflymder tir eich hun yn y Blue Bird eiconig. Neu, ewch i Geredigion i ymchwilio i hanes cudd yr ardal sy’n llawn smyglwyr, treftadaeth forwrol gyfoethog a llu o chwedlau lleol gan gynnwys chwedl y Brenin Gwyddelig a'i saith merch.
Lawrlwythwch ein Teithiau Cerdded Teulu gyda Gwahaniaeth ar deithiau cerdded
Talacharn, sydd wedi'i leoli ar hyd Llwybr Arfordir Cymru ar aber Afon Tâf, oedd cartref eiconig Dylan Thomas gyda’i dirweddau hardd, castell mawreddog Normanaidd a strydoedd coblog. Ysbrydolwyd llawer o waith y bardd o Gymro gan olygfeydd prydferth Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys y ddrama boblogaidd Under Milk Wood. Dechreuwch eich taith gyda Thaith Gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas, sy’n ddwy filltir o hyd. Dyma’r llwybr a gymerodd y bardd pan ddychwelodd i Dalacharn i ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed. Cymerwch hoe i edmygu’r golygfeydd ar draws yr aber a’r harbwr i sied ysgrifennu Dylan Thomas, llwybr sy'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru a darn eiconig o hanes llenyddol Cymru.
Darganfyddwch fwy am deithlen cerdded Laugharne, Sir Gâr