Gwyriadau Cyfredol
Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr
O bryd i’w gilydd mae angen dargyfeirio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru dros dro – yn bennaf oherwydd rhesymau diogelwch y cyhoedd ar ôl tywydd garw, tirlithriadau neu waith adeiladu.
Fodd bynnag, ein harwyddair yw, 'nid ydym byth ar gau' a dylai llwybr arall fod ar gael bob amser.
Oes rhywbeth o’i le ar Lwybr Arfordir Cymru, gadwech i ni gwybod ar ein ffurflen Rhoi gwybod ar fater ymwneud a'r Llwybr
Gwaith uwchraddio Traphont Bermo Network Rail 2020 - 2022 yng Ngwynedd
Bydd gwaith mawr uwchraddio’r draphont 150 oed yn dechrau ym mis Medi 2020. Bydd yn effeithio ar y llwybr gan ei fod yn croesi’r draphont dros Aber Mawddach ac yn mynd yn ei flaen tua’r de i gyfeiriad Fairbourne. Yn ystod y gwaith uwchraddio hwn bydd y bont yn cau dros dro ar rai dyddiadau.
Edrychir ar y posibilrwydd o ddarparu llwybr arall ar gyfer cerddwyr ar y llwybr a byddwn yn rhoi gwybod ichi ar y dudalen hon. Os ydych yn bwriadu cerdded yn yr ardal hon, awgrymwn eich bod hefyd yn dilyn cyfryngau cymdeithasol Network Rail i gael diweddariadau.
• Dilynwch Twitter Network Rail Wales and Border i gael diweddariadau. Enw Twitter @NetworkRailWAL
• Darllenwch am Waith Uwchraddio Traphont y Bermo a chwestiynau cyffredin
• Darllenwch Ddiweddariad Network Rail Medi 2020
Cau llwybrau yn sir Gwynedd
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4ydd Chwefror 2021
Dyma ragor o wybodaeth am y rhannau o'r llwybr wedi eu cau oherwydd difrod diweddar gan storm Christophe:
- Tŷ Coch, Porthdinllaen - rhwng Tŷ Coch a gorsaf y bad achub. Gwyro yn ei le (heb arwydd), cynghorir i fynd o amgylch y pentref ac ail-ymuno â'r llwybr.
- Clogwyni Morfa Nefyn (y tu ôl i doiledau cyhoeddus) - Gwyro yn ei le (heb arwydd), cynghorir i ddefnyddio'r briffordd.
- Traeth Llanbedrog - Dim gwyro yn ei le. Caeodd y llwybr ar Draeth Llanbedrog ac yn Cerrig y Defaid.
- Penrhyn Mawr, Aberdaron - Gwyro yn ei le (heb arwydd). Cynghorir i ddefnyddio hen lwybr Llwybr Arfordir Cymru o Fferm Morfa Mawr i Cadlan.
Tirlithriadau dan amheuaeth hefyd yn Porth Ceiriad a Porth Iago sy'n destun ymchwiliad ar hyn o bryd.
Awdurdod Lleol | Lleoliad | Rheswm | Map Gwyriad | Dyddiad |
---|---|---|---|---|
Abertawe | Pont troed, Oxwich Pill | Iechyd a Diogelwch | cy | Hyd nes y ceir rhybudd penllach |
Abertawe | Cwm Ivy | Erydiad | cy | Hyd nes y ceir rhybudd penllach |
Caerdydd | Canolog Caerdydd | Iechyd a Diolgelwch | cy | Hyd nes y ceir rhybudd penllach |
Ddinbych | Rhyl, Splash Point | Gwaith ar amddiffynfa fôr | cy | Hyd nes y ceir rhybudd penllach |
Gwynedd | Ty Coch, Porthdinllaen | Tirlithriad | 31-03-2021 | |
Gwynedd | Clogwyni Morfa Nefyn, ger toiledau cyhoeddus | Tirlithriad | 22-02-2021 | |
Gwynedd | Traeth Llanbedrog a Cerrig y Defaid | Tirlithriad | 28-02-2021 | |
Gwynedd | Penrhyn Mawr, Aberdaron | Tirlithriad | 30-04-2021 | |
Pen-y-bont ar Ogwr | Llwybr pren Rest Bay | Cynnal a chadw | cy | 15-03-2021 |
Ynys Mon | Porthaethwy, Beach Road | Gwaith cynnal a chadw ar bont uwchben | cy | 28-02-2021 |
Diweddarwyd ddiwethaf 04 Chw 2021