Awgrymu Digwyddiad
Gadewch inni wybod am unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir...
Rydym ni'n ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan ni yn hygyrch i bob aelod o gymdeithas
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Llwybr Arfordir Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n rhedeg y wefan hon. Rydyn ni eisiau i bawb allu cael mynediad i'n gwefannau. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
Rydym yn gweithio i wneud testun y wefan yn hawdd i'w ddeall. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein teithiau cerdded ar gael fel tudalen we hygyrch ochr yn ochr â fformat y gellir ei lawrlwytho.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Rydyn ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwefannau hyn yn gwbl hygyrch, er enghraifft:
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi o un o’n gwefannau mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
Cyfoeth Naturiol Cymru
Y Ganolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
Byddwn ni’n ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.
Rydyn ni wastad yn ceisio gwella hygyrchedd y gwefannau hyn. Os byddwch chi’n dod ar draws problemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen neu os nad ydych chi’n meddwl ein bod ni’n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch Dîm Digidol CNC digidol@naturalresourceswales.gov.uk
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi’n hapus â sut rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cefnogi a Chynghori ar Gydraddoldeb
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefannau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a’r eithriadau a restrir isod.
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.
gellir defnyddio map rhyngweithiol Llwybr yr Arfordir yn unig gyda llygoden neu drwy dapio a sweipio gyda’ch bys
• mae’r taflenni wedi eu dylunio ar gyfer eu hargraffu
• cafodd y tablau pellter eu llunio i’ch helpu i groesgyfeirio lleoliadau i ganfod y pellterau rhyngddynt er mwyn eich helpu i gynllunio eich ymweliad
Mae’r cynnwys isod wedi’i anelu at ein partneriaid a rhanddeiliaid â diddordeb ar gyfer cyfleoedd i gydweithio neu ar gyfer gwaith ymchwil ac o’r herwydd ni fwriedir ef i’w ddefnyddio gan y cyhoedd:
• pecyn cyfryngau
• adroddiadau
• canllawiau brandio
• dehongli canllawiau Llwybr Arfordir Cymru
• pecyn cymorth marchnata
Fodd bynnag, byddwn yn adolygu’r cynnwys hwn i weld a ellir trefnir mynediad iddynt.
Rydym yn parhau i weithio i ddatrys y problemau hygyrchedd hyn drwy sicrhau fod testun ein gwefan yn glir ac yn hawdd i’w ddeall a bod y strwythur yn rhesymegol.
Crëwyd y rhan fwyaf o’n canllawiau cyn Medi 2018 ac maen nhw wedi cael eu cyhoeddi mewn fformat Word, Excel neu PDF. Nid yw nifer o’r dogfennau hyn wedi eu fformatio fel eu bod nhw’n hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2.
Cyhoeddir canllawiau newydd fel gwe-dudalennau pan fo’n bosibl, a dylai unrhyw ddogfennau rydyn ni’n eu cyhoeddi fodloni safonau hygyrchedd.
Nid oes gennym ffurflenni ymgeisio ar ein gwefan
Rydyn ni’n ymwybodol o'r problemau canlynol gyda'r dolenni ar ein safle:
Rydyn ni’n cynnal archwiliadau rheolaidd o unrhyw ddolenni sydd newydd dorri ar ein tudalennau gwe, ac yn eu trwsio cyn gynted ag y cânt eu nodi.
Ni fyddwn yn trwsio dolenni sydd wedi torri mewn dogfennau a gyhoeddwyd cyn Medi 2018, os nad yw'n hanfodol i ddefnyddiwr gael mynediad at wasanaeth.
Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein dolenni’n bodloni safonau hygyrchedd.
Nid yw’n bosibl cael mynediad i fap rhyngweithiol llwybr yr arfordir. Nid oes dewis arall hygyrch ar hyn o bryd a byddwn yn chwilio am ddulliau eraill o ddarparu’r testun.
Nid ydym yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus felly nid oes papurau a chofnodion yn cael eu cyhoeddi.
Nid yw rhai adroddiadau a dogfennau technegol a gyhoeddwyd ar ôl Medi 2018 yn ddogfennau hygyrch, a gallant gynnwys:
Rydyn ni wedi ceisio gwneud dogfennau ymchwil ac adroddiadau o fis Medi 2019 mor hygyrch â phosibl.
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen Rhowch Eich Adborth i ni i ddisgrifio eich profiad. Gallwch ddarganfod y ddolen ar waelod pob gwedudalen.
Nid ydyn ni’n bwriadu trwsio’r canlynol, gan eu bod wedi eu heithrio yn y rheoliadau.
Nid yw'r rhan fwyaf o'n PDFs hŷn, ffeiliau Excel a dogfennau Word yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydyn nhw wedi eu strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw hyn yn bodloni WCAG 2.1 a maen prawf llwyddiant 4.1.2.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau
Er nad oes gofyn inni sicrhau fod mynediad ar gael i hen ddogfennau, byddwn yn adolygu’r cynnwys canlynol:
Rydym wrthi’n chwilio am ffordd o wella hygyrchedd ar ein gwefan. Dyma rai o’r agweddau yr ydym yn canolbwyntio arnynt dros y 12 mis nesaf i sicrhau fod ein gwefan yn fwy hygyrch.
Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Mis Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 22 Mis Medi 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Mehefin 2020. Cynhaliwyd profion gan Zoonou ac mae profwyr mewnol yn parhau i gynnal profion wrth i ni symud ymlaen gyda gwaith i ddatrys problemau a nodwyd.
Defnyddiodd y profwyr sampl gynrychioliadol o'r gwefannau fel y'u diffinnir gan Fethodoleg Gwerthuso Cydymffurfiaeth â Hygyrchedd Gwefannau.
Profodd ein partner prawf y safle hwn drwy adolygu URLau cynrychioliadol o'r holl dempledi yn ogystal â darparu canlyniadau sgan o'r safle cyfan i adrodd am broblemau y gellid eu canfod drwy awtomeiddio.
Rydyn ni hefyd yn defnyddio SiteMorse i redeg sganiau awtomataidd o ddolenni wedi torri a thestun amgen coll ar gyfer problemau delweddau yn rheolaidd.