Sut i gerdded adran o lwybr arfordir Eryri ar drafnidiaeth gyhoeddus

Canllaw ymarferol yn cynnig cynghorion defnyddiol gan Viviene Crow

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae Vivienne Crow yn awdur a ffotograffydd awyr agored llawrydd sydd wedi ennill gwobrau. Mae hi wedi ysgrifennu dros 20 o deithlyfrau, gan gynnwys dau o’r llyfrau swyddogol ar Lwybr Arfordir Cymru.

Beth allai fod yn fwy hyfryd na neidio ar ac oddi ar drenau, gwylio golygfeydd hardd yn rhuthro heibio drwy'r ffenestri ac yna mwynhau'r un dirwedd ar gyflymder mwy hamddenol trwy ei cherdded?

Dyna’n union a brofodd fy mhartner Heleyne a minnau pan wnaethom gwblhau’r rhan 49 milltir (79km) o Lwybr Arfordir Cymru o Borthmadog i Aberdyfi, yn bennaf ar hyd arfordir anhygoel Parc Cenedlaethol Eryri.

Er bod y ddwy ohonom wrth ein bodd â’r disgwyliad a’r ymdeimlad o ‘daith’ sy’n gysylltiedig â symud ymlaen i lety newydd bob nos ar lwybrau hir, roeddem am ddod â’n ci Jess ar y daith hon – a byddai aros yn ein camperfan yn gwneud hynny’n llawer haws.

Sut aethom ni ati

Archebom ni safleoedd yn Harlech am yr hanner gogleddol ac ym Mharc Carafanau Hendre Mynach ger Abermaw (Y Bermo) am yr hanner deheuol. Fodd bynnag, nid yw cerddwyr yn gyfyngedig i feysydd gwersylla; mae hefyd ddwsinau o westai, tai llety a bythynnod hunanarlwyo ar hyd yr arfordir hwn. Mae'r rhan fwyaf wedi'u paratoi ar gyfer cerddwyr, yn cynnig cyfleusterau fel ystafelloedd sychu petaech yn dod i mewn wedi'ch gwlychu o'r glaw.

Mae safleoedd a allai fod yn dda, ar wahân i Harlech a’r Bermo, yn cynnwys Porthmadog a Thal-y-bont yn y gogledd, a Thywyn ac Aberdyfi yn y de, pob un â dewis da o fathau o lety yn ogystal â lleoedd i fwyta.

Gan adael ein fan ar y safle bob dydd, roeddem yn defnyddio’r trenau ar reilffordd yr arfordir i gerdded darnau hirfain o’r llwybr. Daeth neidio ymlaen ac i ffwrdd, gweld y llwybrau roeddem newydd eu cerdded drwy ffenestri’r cerbyd a sgwrsio â cherddwyr eraill oedd yn gwneud rhywbeth tebyg, yn rhan o’r antur ddyddiol.

Roedd Jess yn mwynhau hefyd – a hithau’n giwt ac yn flêr, roedd hi bob amser yn dal calonnau o leiaf ddau neu dri o’n cyd-deithwyr.

Rheilffordd Arfordir y Cambrian

Mae'r rheilffordd hon yn dilyn cromlin llyfn rhan ogleddol Bae Ceredigion o Bwllheli yn y gogledd i Aberystwyth yn y de (trwy Fachynlleth). Mae nifer rhyfeddol o orsafoedd ar hyd y darn cymharol fyr hwn o’r llinell – 30 i gyd, gan gynnwys 20 ar ein hadran ni – gyda threnau’n rhedeg bob cwpl o oriau.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig Tocyn diwrnod Crwydro’r Cambrian sy’n rhoi teithio diderfyn i chi ar y lein y diwrnod hwnnw. 

Mae hyn yn caniatáu cryn hyblygrwydd i gerddwyr Llwybr Arfordir Cymru wrth benderfynu pa mor bell y maent am gerdded bob dydd. Os byddwch chi'n cyrraedd gorsaf ar ôl cerdded chwe milltir ac yn teimlo'n flinedig, ewch ar y trên ac ewch yn ôl i'ch llety. Os byddwch chi'n cyrraedd gorsaf ar ôl cerdded chwe milltir ac yn teimlo'n llawn egni, bydd gorsaf arall dair neu bedair milltir ymhellach ymlaen.

Agwedd hamddenol

Yn fras, fe wnaethom bob yn ail ddiwrnod o 12 i 14 milltir (19-23km) gyda theithiau cerdded byrrach rhwng 6 a 9 milltir (10-15km).

Rhoddodd ein hagwedd weddol hamddenol, yn enwedig y dyddiau ysgafnach, fwy o amser i ni ymweld ag atyniadau megis pentref Eidalaidd ffansïol Portmeirion (ni chaniateir cŵn, gwaetha’r modd), Rheilffordd Talyllyn, lein hynaf y byd sydd wedi’i chadw ac adfeilion clogwyni Castell Harlech - gallwch gael mynediad 2 am 1 yn safleoedd Cadw pan fyddwch yn teithio yno gyda Trafnidiaeth Cymru.

Roedd hefyd yn golygu ein bod ni’n gallu loetran ar y llwybr, gan fwynhau’r golygfeydd – gyda’r Wyddfa i’w gweld ar ddiwrnodau clir – neu wylio adar yn chwilio am fwyd allan ar y banciau tywod.

Awgrym o deithlen pum diwrnod

Yn fy nheithlyfr Snowdonia & the Ceredigion Coast gan Northern Eye, rwy’n argymell cerdded y rhan o Lwybr Arfordir Cymru o Borthmadog i Fachynlleth dros bum diwrnod, er bod y rheilffordd yn gwneud teithlenni hirach yn gwbl ymarferol. Y pum adran yw:

  • Porthmadog i Harlech, 11 milltir/19km - diwrnod o ymdroelli trwy goetir ac ar lan aberoedd â choed wrth eu hymyl, gan basio’n agos i Bortmeirion ar hyd y ffordd. Yn ogystal â gorsafoedd ym Mhorthmadog a Harlech, mae trenau hefyd yn stopio ym Minffordd, Penrhyndeudraeth, Llandecwyn, Talsarnau a Thŷ Gwyn.
  • Harlech i Abermaw, 17 milltir/27km - taith gerdded hir yn ymylu ar gyrion gwlyptiroedd llawn bywyd gwyllt ac yn brasgamu ar hyd traethau enfawr gyda systemau twyni anferth yn gefn iddynt. Ar ei ffordd rhwng Harlech a Bermo, mae’r trên yn stopio yn Llandanwg, Pensarn, Llanbedr, Dyffryn Ardudwy, Tal-y-bont a Llanaber.
  • Abermaw i Lwyngwril, 8 milltir/14km - diwrnod byrrach yn dechrau trwy groesi Pont drawiadol Abermaw dros geg Afon Mawddach a gorffen gyda ffordd uchel drwy dirwedd hynafol. Morfa Mawddach a Fairbourne (sydd hefyd yn gartref i linell dreftadaeth lein gul) yw'r unig orsafoedd rhwng Abermaw a Llwyngwril.
  • Llwyngwril i Aberdyfi, 12 milltir/19km - taith gerdded amrywiol yng nghefn gwlad sydd wedi cael ei ffermio ers canrifoedd, lonydd tawel a thaith gerdded hir arall ar y traeth. Os ydych am dorri'r diwrnod hwn sydd ychydig yn hirach, mae gorsafoedd yn Nhonfannau a Thywyn.
  • Aberdyfi i Fachynlleth, 12 milltir/19km - diwrnod hyfryd yn uchel uwchben Afon Dyfi gyda golygfeydd gwych o'r bryniau wrth i Lwybr Arfordir Cymru fynd tua'r tir am gyfnod byr. Gyda’r gorsafoedd yn Aberdyfi a Phenhelyg lai na milltir oddi wrth ei gilydd, a gorsaf Cyffordd Dyfi yr ochr arall i’r aber i’r llwybr, ni ellir defnyddio’r rheilffordd i dorri’r rhan hon. Mae bws X29, ar y llaw arall, yn stopio sawl gwaith rhwng Aberdyfi a Machynlleth, gan gynnwys Pennal lle mae llwybr yr arfordir yn croesi'r A493. Mae bysiau'n rhedeg yn rheolaidd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ond mae llai o wasanaethau ar ddydd Sul.

Tu Hwnt i Fachynlleth

Mae cerddwyr yn profi darn mewndirol arall o'r llwybr, gan fwynhau dyffrynnoedd coediog, coedwigoedd, llethrau agored a chorstir sy'n llawn bywyd gwyllt.

Mae 15 milltir (24km) o’r dref hynafol hon yn ôl i’r arfordir yn Borth. Yn ogystal â threnau yn cysylltu’r ddau, mae bysiau (y gwasanaeth T2) sy’n ei gwneud hi’n bosib torri’r diwrnod hir yma yn Ffwrnais.

Ystyriaethau ymarferol

Mae ychydig o ystyriaethau ymarferol i’w cadw mewn cof wrth ddefnyddio Rheilffordd Arfordir y Cambrian i gerdded Llwybr Arfordir Cymru.

Yn gyntaf, mae llawer o orsafoedd yn rhai ‘ar gais’ yn unig. Os ydych chi eisiau mynd ar drên yn un o’r rhain, bydd angen i chi roi signal llaw briodol i’r gyrrwr. Does neb eisiau sefyll ar blatfform, gwylio eu trên yn agosáu ac yna ei wylio’n mynd heibio heb stopio!

Yn yr un modd, bydd angen i chi roi gwybod i'r tocynnwr os ydych am ddod oddi ar y trên yn un o'r gorsafoedd hyn.

Mae’n werth nodi hefyd, er bod trenau’n rhedeg bob dydd, mae llai ar ddydd Sul, gyda gwasanaethau’n cychwyn yn hwyrach yn y bore ac yn gorffen yn gynharach gyda’r nos.

Cofiwch hefyd y bydd amserlen y gaeaf yn wahanol i amserlen yr haf. Edrychwch ar wefan Trafnidiaeth Cymru am y wybodaeth ddiweddaraf. Ar gyfer amseroedd bysiau, rhowch gynnig ar y cynlluniwr llwybr ar wefan Traveline Cymru