Digwyddiadau

Darganfyddwch pa ddigwyddiadau sy'n digwydd ar arfordir Cymru

Croeso i’n tudalen ddigwyddiadau

Yma byddwch yn dod o hyd i ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu ar Lwybr Arfordir Cymru neu yn agos ato.
Gallwch ddarganfod a oes unrhyw ddigwyddiadau drwy fynd i’r gwefannau canlynol:

Cymdeithas Y Cerddwyr/Ramblers Cymru

Mae Cymdeithas y Cerddwyr neu Ramblers Cymru yn sefydliad sy’n ceisio helpu pawb i allu mwynhau cerdded yn yr awyr agored. Mae grwpiau Ramblers lleol yn trefnu eu teithiau tywysedig eu hunain ar gyfer eu haelodau ledled y DU. Darganfod eich grŵp cerdded lleol

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Mae rhan Sir Benfro o Lwybr Arfordir Cymru sy’n adnabyddus fel yr unig barc cenedlaethol arfordirol yn y DU sydd hefyd yn Llwybr Cenedlaethol, yn rhan boblogaidd iawn er mwyn gweld rhai o’r tirweddau gorau yn y DU. Mae ceidwaid lleol yn trefnu amrywiaeth o deithiau cerdded tywysedig ar gyfer gwahanol alluoedd. Chwiliwch am ddigwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint

Mae’r tîm pwrpasol hwn sy’n gweithio o Gyngor Sir y Fflint yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau addas i deuluoedd sy’n seiliedig ar y syniad o agosáu at natur a’r arfordir. Archebwch docynnau ar gyfer digwyddiadau ar eu tudalen EventBrite

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Mae’r tîm hwn sy’n gofalu am natur a bioamrywiaeth yng Ngogledd Cymru, yn trefnu teithiau cerdded dan arweiniad wardeiniaid lleol mewn gwarchodfeydd dethol, lle gallwch ddysgu mwy am y bywyd gwyllt sydd ar garreg eich drws. Chwilio am ddigwyddiadau ar wefan Ymddiriedolaeth Gogledd Cymru

Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi, Ynys Môn

Bwriad y bartneriaeth yw codi ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol Ynys Cybi ar Ynys Môn. Mae’r teithiau tywysedig yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol o nodweddion hansesyddol yr ynys hon. Gellir cael y diweddaraf am ddigwyddiadau ar eu tudalen Facebook

Gwarchodfeydd natur RSPB Cymru

Ceir tair gwarchodfa natur ar Lwybr Arfordir Cymru neu’n agos iawn ato ac mae gan bob gwarchodfa ei chalendr arbennig o ddigwyddiadau. Dewiswch rhwng y teithiau cerdded dan arweiniad, digwyddiadau addas i deuluoedd a gweithgareddau lles. Codir ffi am y digwyddiadau ac maen nhw’n agored i rai nad ydynt yn aelodau. Trefnwch eich lle ar y gwefannau canlynol:
Digwyddiadau RSPB Clogwyni Ynys Lawd, Ynys Môn
Digwyddiadau RSPB Conwy
Digwyddiadau RSPB Gwlyptiroedd Casnewydd

Llu Maw Iau Iau Gwe Sad Sul
Dyddiad Digwyddiad Lleoliad
22 Mai 2026 - 25 Mai 2026

Gŵyl Gwerin Abergwaun 2026

Abergwaun
27 Mai 2026 - 31 Mai 2026

Swansea Gower Cycling Festival 2026

Amrywiol leoliadau
04 Mehefin 2026

Archwiliwch y Fflora Tywyni: Talacre

Traeth Talacre
27 Mehefin 2026 - 09 Awst 2026

Prostate Cymru Walk of Wales 2026

Adrannau dethol o Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa
02 Gorffennaf 2026 - 05 Gorffennaf 2026

Westival gŵyl gerddoriaeth bwtîc 2026

Manorbier
02 Gorffennaf 2026 - 06 Gorffennaf 2026

Gŵyl Love Trails 2026

Gŵyr
03 Gorffennaf 2026 - 05 Gorffennaf 2026

Gŵyl Afon Conwy (3-5 Gorffennaf)

Cei Conwy
09 Gorffennaf 2026 - 11 Gorffennaf 2026

Gŵyl Afon Conwy 2026 (9-11 Gorffennaf)

Amrywiol leoliadau
10 Gorffennaf 2026 - 12 Gorffennaf 2026

Tonnau Tropical Garden Party Ynys Môn

Stad Carreglwyd, Llanfaethlu
22 Gorffennaf 2026

Arolwg Glöynnod Byw Talacre

Traeth Talacre
30 Gorffennaf 2026 - 02 Awst 2026

Gŵyl The Green Gathering 2026

Cas-gwent
01 Awst 2026 - 08 Awst 2026

Eisteddofd Genedlaethol 2026

Sir Benfro
02 Awst 2026

Egluro Daeareg

Talacre
19 Awst 2026

Tastic Traeth - gweithgareddau ar thema traeth

Traeth Talacre
27 Awst 2026 - 30 Awst 2026

Gŵyl Rhwymg y Goediwig

Merthyr Mawr
05 Medi 2026 - 13 Medi 2026

Gŵyl gerdded Gŵyr

Gŵyr
12 Medi 2026 - 21 Medi 2026

Gŵyl gerdded Abermaw

Abermaw a’r ardal gyfagos