Dave Quarrell

Dave Quarrell: y cyntaf i cerdded Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa gyda’i gilydd

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Yn y digwyddiad agoriadol ym Mae Caerdydd ar 5ed Mai 2012, estynnodd Arry Beresford-Webb faton swyddogol Llwybr Arfordir Cymru i mi. Roedd hynny’n nodi diwedd ei thaith redeg arwrol hi a dechrau ar fy nhaith gerdded hir iawn innau.

Fy nhad, Gerry, oedd yn arwain yr uned yn Llywodraeth Cymru a sefydlodd y Llwybr ac, fel cerddwr brwd ei hun, roedd yn hynod frwdfrydig dros y prosiect. Yn drist iawn, bu farw o gancr y stumog yn ddim ond 56 mlwydd oed, bron iawn union flwyddyn cyn i’r Llwybr agor. Yn fuan ar ôl iddo farw, fe benderfynais gerdded y Llwybr cyfan er cof amdano - ac, oherwydd bod Dad wastad yn cwyno pe byddwn i’n gwneud ‘hanner jobyn’, roeddwn i’n meddwl y byddai’n well i mi uno dau ben y wlad trwy gerdded Llwybr Clawdd Offa. Fy nod oedd codi £20,000 at Ymchwil Cancer Cymru.

Yr un ffordd â’r cloc oeddwn i’n cerdded o gwmpas Cymru, ac eithrio ar Ynys Môn lle’r oeddwn yn mynd yn groes. Fe gerddais i chwe diwrnod o bob wythnos am 12 wythnos, gan gyrraedd yn ôl ym Mae Caerdydd ar 26 Gorffennaf, pan fyddai fy Nhad wedi cael ei ben-blwydd yn 58 oed.

Y darnau gorau

Cefais fy ngeni ger Caerdydd ac rwy wedi byw yng Nghymru bron iawn y cyfan o'm hoes, ond yr hyn oedd yn fy syfrdanu oedd fod cymaint o’m gwlad fy hunan mor ddieithr i mi. Maen nhw’n dweud fod eich ymennydd wedi’i ‘wneud’ i gadw atgofion ar gyflymder cerdded, ac i mi o leiaf, mae hynny’n gyfan gwbl wir. Rydw i wedi ‘darganfod’ cymaint o leoedd ffantastig ar hyd y ffordd, a, pan fydd gen i blant, rwy’n gwybod na fyddwn ni byth yn brin o leoedd i ddianc iddyn nhw gyda phabell ar benwythnos braf.

Roeddwn i’n lwcus iawn fod gen i gefnogaeth wych ar hyd y daith - gan fy ngwraig, yn enwedig, a yrrodd gannoedd o filltiroedd i'm cyfarfod bob penwythnos - ond hefyd gan lawer o ddieithriaid gan gynnwys bron i 80 o dafarndai, lleoedd Gwely a Brecwast, safleoedd carafán a gwersylla a roddodd lety i mi. Bydd cynhesrwydd a chyfeillgarwch pobl o bob cwr o Gymru, a’u hawydd i helpu dyn tamp, drewllyd gyda phecyn mawr ar ei gefn, yn diffinio'r profiad i mi am byth.

Daeth llawer o brofiadau gwych gyda bywyd gwyllt - gwylio’r fulfran wen yn plymio ychydig oddi ar y lan ger Aberarth, cornchwiglod yn Whiteford Burrows, palod ar Skomer (roedden ni wedi dal y cwch drosodd ar fy niwrnod i ffwrdd), gwenoliaid y môr ym Mae Cemlyn a chyfarfod â mochyn daear ger Maenor Bŷr. Roedd blodau’r gwanwyn yn Sir Benfro, yn enwedig o gwmpas Marloes a Sain Ffrêd, yn syfrdanol.

Mae gen i ddiddordeb mewn hanes milwrol ac mae arfordir Cymru'n llawn o olion brwydrau’r gorffennol, o gestyll y 13eg ganrif i gaerau Palmerston y 19eg ganrif a gorsafoedd gwyliadwriaeth niwclear y Rhyfel Oer. Mae’n hudolus gweld sut mae natur yn graddol ail feddiannu’r mannau hyn a hefyd weld lluoedd arfog heddiw yn hyfforddi hedfan isel neu’n ymarfer â’u gynnau tanc ar y meysydd tanio ar yr arfordir.

Mae’n amhosibl dewis fy hoff le, ond pe byddai’n rhaid i mi enwi ychydig o’r lleoedd gorau fe fyddwn yn dewis St Justinian ger Tyddewi gyda’i fachlud haul gogoneddus a’i le gwersylla gwych; y cyfan o Ynys Môn am gael wythnos o arfordir gwyllt heb fod yr un dau ddiwrnod yr un fath, y bryniau ger Llwyngwril gyda’u panorama godidog o Eryri a Llŷn a Phort Eynon gyda’i Hostel Ieuenctid ffantastig ar y traeth, yn swatio ar drwyn bro Gŵyr. Ac ambell i ryfeddod prin hefyd, megis Bae Bullwell ger purfa olew Rhoscrowdder - taith gerdded fer trwy hen goetir, a dim ond dafliad carreg o derfynfa’r llongau tancer. Mae’n bertach nag y mae’n swnio!

Y darnau gwaethaf

Wrth edrych yn ôl, doedd dewis cerdded Cymru’n ystod yr haf gwlypaf ers 100 mlynedd, ddim, mae'n debyg, y syniad doethaf. Roedd Ceredigion yn dioddef llifogydd difrifol y diwrnod pan gyrhaeddais Aberystwyth a’r diwrnod canlynol bu’n rhaid i mi anghofio am ddarn 8 milltir o’r llwybr y tu hwnt i’r Borth a oedd o dan droedfeddi o ddŵr - ond daeth cyfle i gerdded hwn yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Y diwrnod nesaf roedd criwiau tân a’r heddlu yn edrych braidd yn gam arna i wrth i mi grwydro’n hamddenol drwy bentref lle’r oedd y trigolion wedi gorfod gadael oherwydd pryderon y gallai argae cronfa ddŵr chwalu. O edrych ar yr ochr orau, mae’r ystadegau’n awgrymu y bydd unrhyw a fydd yn dilyn yr un llwybr yn y dyfodol yn llawer tebycach o aros yn sychach.

Roedd yna rai trafferthion cael hyd i’r llwybr mewn un neu ddau o fannau, y map ddim yn cyd-fynd â’r hyn oedd ar y ddaear (popeth wedi’i sortio erbyn hyn!). - ond arna i roedd y bai am fy nghamgymeriad gwaethaf. Dim ond ar ôl cyrraedd Pwllcrochan, ger Doc Penfro y gwawriodd arna i fod y llety roeddwn wedi’i drefnu mewn Pwllcrochan arall ger Abergwaun, tua 30 milltir i ffwrdd!

Roeddwn i’n cerdded y rhan fwyaf o’r llwybr ar fy mhen fy hunan a chefais ysgytwad seicolegol ar ogledd penrhyn Llŷn ger Nefyn. Mae’n ardal wyllt a diarffordd ac ar ôl cerdded am ddiwrnod cyfan heb gyfarfod â’r un enaid byw (a chyda dros fis o’m blaen cyn gorffen y daith), dechreuais deimlo’n unig iawn. Ond mae yno olygfeydd hardd ac yn ddiweddarach y noson honno fe arhosais i wrando ar y morloi’n ‘canu’ ar y creigiau – ennyd fythgofiadwy.

Hefyd, dydw i ddim yn argymell newid cyfeiriad fel y gwnes i o gwmpas Ynys Môn. Ar ôl cerdded 650 o filltiroedd ar osgo â’r môr ar fy llaw chwith, roedd newid a chael y môr ar y dde yn codi’r poen mwyaf difrifol yn fy ffêr am y tri diwrnod cyntaf!

Y darn olaf

Daeth fy nhaith gerdded i ben yn ôl y bwriad ar 26 Gorffennaf, ar ôl cerdded tua 1100 milltir, o gyfrif ychydig ddargyfeiriadau, wrth fynd heibio, megis dringo’r Wyddfa. Roedd cerdded Cymru y profiad mwyaf syfrdanol, mae wedi newid persbectif fy mywyd. Hyd yn hyn rwy wedi codi tua £11,500 i Ymchwil Cancer Cymru.

Ymwelwch â’r wefan am ragor o wybodaeth. www.walkwales1027.com