Stephen Hedges

Cerdded Ffiniau Cymru Haf 2014

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Fy ysbrydoliaeth

Rwyf bob amser wedi bod eisiau antur. Ers y gallaf gofio bûm yn breuddwydio am deithio i fynyddoedd yr Himalaia i ddringo’r copaon a’u cap o eira. Dim ond pan fu farw fy nhad, Bernard Hedges, ym mis Chwefror 2014, y gwariodd arnaf y gallai antur fod yn nes at adre.

Gyrfa Griced Ysblennydd

Roedd ef yn gricedwr proffesiynol i Glwb Criced Morgannwg a chafodd yrfa ddisglair rhwng 1950-1968. Ar ôl ei angladd, teimlwn awydd cryf i wneud rhywbeth er cof amdano a hynny’n fuan.

Cerdded y Syniad

Cefais y syniad o gerdded o amgylch Cymru gyfan a galw’r daith yn ‘Cerdded Ffiniau Cymru’. Byddai’r daith hon yn adlewyrchu’r cadernid a’r penderfyniad a ddangosai fy Nhad yn ei yrfa fel cricedwr ac yn ysbrydoli ffrindiau, teulu a’r cyhoedd i gyfrannu.

Oherwydd cariad at Griced

Bydd yr holl arian a gesglir o’r daith yn mynd i’r rhaglen genedlaethol ‘Cyfle i Ddisgleirio’ drwy Criced Cymru sy’n hyrwyddo’r gêm yn ysgolion Cymru yn arbennig yn ardal enedigol fy Nhad, sef Rhondda Cynon Taf.

Dyddiad Dechrau: 6 Gorffennaf 2014. Gyda’m mab Ellis, fe ddechreuon ni yn Abertawe (cartref fy rhieni am y 25 mlynedd diwethaf) a dilyn Llwybr Arfordir Cymru gyda’r cloc hyd at Gaer. Yna teithio i lawr Llwybr Clawdd Offa o Brestatyn i Gas-gwent ac ailymuno â llwybr yr arfordir ar gyfer y daith yn ôl i Abertawe.

Dyddiad Gorffen: 24 Awst 2014 yng Nghlwb Criced y Mwmbwls.

Uchafbwyntiau

Roedd yr uchafbwyntiau i mi yn cynnwys cwrdd ag arwyr fy mhlentyndod:

  • Gareth Edwards, JPR Williams a Graham Price yn Solfach lle’r oeddent yn rhan o grŵp o enwogion oedd yn cymryd rhan fel ‘ecstras’ mewn fersiwn newydd o Dan y Wenallt Dylan Thomas.
  • Roeddwn wrth fy modd hefyd yn cwrdd â chricedwyr lleol yng nghlybiau criced Neyland, Aberystwyth, Porthaethwy a Phontypridd, a ddangosodd y cariad cryf at y gêm sy’n bodoli drwy Gymru.
  • Yna roedd Cymru ei hun. Ei thraethau, ei chestyll, ei chlogwyni.
  • Bu’r tywydd yn garedig a chawsom lai na diwrnod llawn o law drwy’r siwrne i gyd. Teimlwn ar adegau ein bod yn cerdded ar hyd clogwyni rhyw wlad ar lan Môr y Canoldir neu draethau Califfornia. O Fae Bracegirdle i Bosherston, o Gasnewydd i Nant Gwrtheyrn, o Gaernarfon i Gaerdydd, roedd bob amser rhywbeth newydd a diddorol i’w weld.

Gwibiodd y 50 diwrnod heibio ond bydd yr atgofion yn aros gyda mi am byth!

Isafbwyntiau

Dim un, i ddweud y gwir, er roedd yr holl gerdded ar ffyrdd a tharmac yn dipyn o straen! Ond wnes i ddim colli golwg ar fy nod ac roedd fy llyfr taith a’m mapiau OS yn hoelio fy meddwl ar y targed dyddiol

Taflu Goleuni ar y Cyfan

Roedd cerdded Llwybr Arfordir Cymru fel edrych ar fwydlen ogoneddus mewn bwyty lle nad oes gennych amser i aros – felly bydd yn rhaid i chi ddod yn ôl i’r bwyty sawl gwaith er mwyn profi popeth sydd ganddo i’w gynnig!

Fe’m helpodd innau i gael dealltwriaeth ddyfnach o’m Cymreictod a’r Cymry. Byddaf yn ddiolchgar am byth i’r llwybr am hynny.