Thomas Leber
Thomas Leber, Westerwald, Yr Almaen
Yr Her (a’r freuddwyd)
Dwi wedi cyfarfod ag ychydig bobl oedd yn mynd ar daith o gwmpas y byd am 6 mis neu ragor. Mae pobl, fel arfer, yn gwneud y pethau hyn pan fyddont yn ifanc, yn ystod y brifysgol, neu wedi ymddeol. Wedi gwneud fy ngwaith am 20 mlynedd, tybiais mai dyma adeg gwireddu’r freuddwyd. Y freuddwyd honno oedd cerdded unwaith o amgylch Cymru, gan ddechrau yng Nghas-gwent yn y de, gan ddilyn llwybr Clawdd Offa i Brestatyn yn y gogledd. Yna ar hyd yr arfordir, gan ddilyn Llwybr Arfordir Cymru, yn ôl i’r de drachefn.
Dyddiad Cychwyn: 14 Awst 2013
Dyddiad Darfod: 11 Hydref 2013 (gyda dim ond 6 diwrnod glawog. Dywedodd y bobl leol wrthyf mai haf 2013 fu’r gorau ers blynyddoedd, yn ôl pob tebyg!
Uchafbwyntiau
Ar Lwybr Clawdd Offa, rydych yn dechrau gyda bryniau bychain sy’n mynd yn uwch ac yn uwch, gyda golygfeydd ysblennydd. Bu Llwybr Arfordir Cymru’n llawer haws ei gerdded, oherwydd y traethau dymunol a bryniau bychain yn unig. Mae’r dirwedd yn newid yn aml iawn, felly ’dyw hi byth yn ddiflas.
Dyma fy mhrif uchafbwyntiau ar hyd glannau Cymru:
Traethau, ychydig gestyll a nofio ymlaen
Fy hoff leoedd yw cestyll Conwy, Caernarfon, Harlech a Phenfro. Y traethau prydferthaf yw yn Abermo, Broad Haven (gan gynnwys Little Haven), Broad Haven (ger Ystangbwll), Trewent, Dinbych-y-pysgod a Phentywyn.
A’r traeth perffaith, fy “Rhif 1” personol, yw…....Three Cliffs Bay ar Benrhyn Gŵyr, gyda’i mynyddoedd bychain, clogwyni, afon gyda llyn, ogofeydd - a’r cyfan oll yn union ar y traeth!
Yn berffaith ym mhob ffordd - hindda, fawr ddim gwynt, a gwely a brecwast gerllaw - a chanlyniad hynny fu ychydig nofio, ac ymlacio yn y twyni neu ar y traeth! Roedd yna ddwsinau o draethau prydferth i’w mwynhau, ond yn y rhai neilltuol hyn, roedd popeth yn berffaith..
Tafarn gyda golygfa, a bod heb becyn cefn
Roedd y dafarn orau gyda golygfa brydferth yn Llangrannog. Roedd yn tywallt y glaw, felly penderfynais beidio â cherdded y diwrnod hwnnw. Dyna pryd y darganfûm dafarn gyda bwyd da, cwrw go iawn a golygfa tua’r traeth, lle gallwch fwyta, yfed ac ymlacio. Roedd yn lle perffaith i aros ar ddiwrnod glawog, a dwi’n sicr y buasai’n well fyth ar ddiwrnod braf.
Darfu fy arhosiad 2 noson yn Llandudno gynnwys Cloddfa’r Gogarth, Conwy a Llandudno ei hun - fy nhro cyntaf heb fy mhecyn cefn!
Capel bychan iawn a Dinbych-y-pysgod
Capel Gofan Sant, y capel lleiaf, ar y creigiau, a chadeirlan Tyddewi, oedd y lleoedd gorau i weddïo ac ymuno yn y Gosber. Mae Dinbych-y-pysgod, bellach, ymysg 5 uchaf y trefi prydferthaf a welais erioed!
Isafbwyntiau
Yn ymyl y trefi mawrion ac yn y de, yn bennaf, rhaid i chi gerdded llawer ar y ffyrdd, felly mae’r traed yn brifo mwy. Ond roedd gen i esgidiau perffaith, ac ni chefais i’r un swigen!
Fy Sylweddoliad Pwysicaf
Y peth pwysicaf yw, os ewch ar daith fel hon, yw anghofio brys y bywyd beunyddiol, a chael meddwl rhydd….a byddwn wastad yn barod i’w wneud eto!