Cwrdd â'r Swyddog Llwybr - Ynys Môn
Gruff Owen yn disgrifio ei hoff ran o Lwybr Arfordir...
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud. Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr
Cymerwch gip yma i chi gael gweld pam y mae hwn yn lle mor ardderchog i dreulio amser yn yr awyr agored a pha mor hawdd yw defnyddio Llwybr yr Arfordir yn eich bywyd bob dydd neu ar eich gwyliau.
Dyma safle hardd i chi ei archwilio. Pan fydd y llanw’n isel, cerddwch allan i’r ynys i ddysgu am Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.
Gyda’i golygfeydd tuag at Ynysoedd y Moelrhoniaid a thu hwnt, mae’r safle anghysbell a phrydferth yma’n bwysig o safbwynt daeareg.
Dysgwch am hanes pwysig yr ardal yn nhreftadaeth forwrol Cymru. Gallwch sefyll ar y clogwyni i wylio llawer o wahanol adar môr.
Mae llawer yn credu mai’r castell yma, un arall o gestyll niferus Edward 1, yw’r un mwyaf perffaith ym Mhrydain o safbwynt techneg codi cestyll.
Mae gan wefan Croeso Môn a Discover Anglesey (cymdeithas twristiaeth Ynys Môn) gyfoeth o wybodaeth ychwanegol i’ch helpu i gynllunio eich antur nesaf, cofiwch eu holi os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch ymweliad