Pethau i’w gwneud ar Ben Llŷn
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud. ...
Rhys Gwyn Roberts yn disgrifio pam mai Pen Llŷn yw un o'r rhannau mwyaf syfrdanol ac amrywiol i’w cerdded ar lwybr arfordir Cymru
Helo, Rhys Gwyn Roberts ydw i, a fi yw Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer Gwynedd, gan gynnwys Penrhyn Llŷn yn ogystal â rhan dach o arfordir Eryri a Cheredigion (Sydd dan ofal un o’m cyfoedion, Nigel Nicholas). Rwyf wedi treulio’n holl fywyd ym Mhen Llŷn, wedi f’amgylchynu gan fôr a mynydd.
O fewn fy rôl, rwy’n treulio tipyn o fy amser yn datblygu llinell y llwybr. Fy amcan yn yr hir dymor yw ail-osod mwy o adrannau’r llwybr fel eu bod yn nes ar yr arfordir. Mae’r amrywiaeth a gynigir gan Lwybr Arfordir Cymru, o ran golygfeydd a thirwedd, yn anhygoel, a pheidiwch ag anghofio’r bywyd gwyllt anhygoel!
I mi, mae hi’n swydd ddelfrydol gan fod ynddi ddigon o amrywiaeth. Un diwrnod byddwch yn trafod gydag ystod eang o bobl, boed yn gyfreithwyr, rheolwyr tir, y cyhoedd, neu’n gontractwyr, a’r nesaf byddwch yn cael treulio’r dydd yn cerdded y llwybr. Yn fy adran i, mae gwaith mawr ar y gweill i ail-osod adrannau mawr o’r llwybr- ac mae’r her honno’n fy nghyffroi. Rwyf wrth fy modd yn cerdded, a chael bod allan yn yr awyr iach, a dyma’r swydd berffaith o ganlyniad.
Mae rhan helaeth o arfordir gogleddol Pen Llŷn yn debyg, yn unffurf a’n brydferth, ond rhaid cyfaddef mai fy hoff ran yw ardal Meirionydd, yn ne’r adran, gan ei fod yn cynnig mwy o amrywiaeth o ran y llwybr. Mae’n eich arwain trwy goedwigoedd naturiol, trwy blanfeydd pinwydd ar lannau llynnoedd, trwy dwyni tywod, tir amaeth, cyrsiau golff, a llawer mwy. Ond mae’r llwybr yn gwyro o’r môr tua’r ucheldir wedi i chi groesi traphont enwog Abermaw yn anffodus, ond cewch eich gwobrwyo gan olygfeydd anhygoel o Eryri, Llŷn, a Bae Ceredigion.
Sefydlu perthnasau da gyda thirfeddianwyr er mwyn creu dros 30km o lwybrau cyhoeddus newydd fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Mae’n gredyd i’r tirfeddianwyr, y nhw sy’n gyfrifol am lwyddiant Llwybr Arfordir Cymru.
Roeddwn i hefyd yn rhan o’r tîm a gyflawnodd brosiect peirianyddol enfawr, gan osod pont sengl 54 medr ar draws Afon Dysynni- y mwyaf o’i bath yn y DU. O ganlyniad, nid oes rhaid i gerddwyr bellach deithio 6½ milltir/10km oddi wrth y môr rhwng Tonfannau a Bryncrug, cant yn hytrach ragor o olygfeydd arfordirol anhygoel.
Gallwch gysylltu â mi gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sy’n ymwneud â Llwybr Arfordir Cymru drwy glicio ar Cysylltu â ni i anfon e-bost atom.