Arfordir Gogledd Cymru
Mae'r rhan hygyrch hon yn ymfalchïo yn y traethau tywodlyd ac yn y cestyll, trefi a’r pentrefi hanesyddol sy'n frith ar hyd y ffordd
Mae rhyw 60 milltir o olygfeydd o’r môr o lwybr Gogledd Cymru, gan ddechrau o Gaer. Ym Mhrestatyn mae Llwybr Arfordir Cymru’n ymuno â Llwybr Clawdd Offa, yr heneb hiraf ym Mhrydain a Llwybr Cenedlaethol, cyn parhau i Fangor.
Gyda threfi glan môr traddodiadol, bywyd gwyllt cyfoethog Aber Afon Dyfrdwy a gweithgareddau wedi’u hysgogi gan adrenalin gan gynnwys BMX a syrffio barcud, mae Arfordir Gogledd Cymru’n cynnig rhywbeth i bawb.
Yn Sir y Fflint mae Llwybr Dolen Cymru yn cwmpasu 18 milltir arall ac yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru yn Saltney Ferry.
Gruff Owen yn disgrifio sut y mae gorffennol diwydiannol cyfoethog Cymru yn rhyngweithio â’r natur amrywiol ar hyd y rhan hon o arfordir Cymru.
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud. Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr.
Mae na dros 800 milltir o lwybrau i’w troedio, dyma rai o’n ffefrynnau ni, a’n hargymhellion ar sut i weld y gorau o’r arfordir.
Mae’n hawdd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus ac mae modd cyrraedd sawl rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.