Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch, Ynys Môn

Mwynhewch olygfeydd syfrdanol o fynyddoedd, y goedwig a'r traeth yng nghornel de-orllewinol yr ynys hon

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Maes parcio Llyn Rhos Ddu i Ynys Llanddwyn (trwy Goedwig Niwbwrch)

Pellter

4 milltir neu 6 km

Ar hyd y ffordd

Mae'r daith gerdded hawdd hon yn mynd â chi i un o safleoedd hanesyddol mwyaf rhamantus Cymru, gyda digonedd o fywyd gwyllt bendigedig ar y ffordd. 

Cychwynnwch o'r maes parcio – gallwch gerdded allan ar hyd y traeth neu drwy goedwig Niwbwrch, un o'r coedwigoedd mwyaf hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru.  Fe'i plannwyd yn wreiddiol er mwyn sefydlogi'r twyni tywod sy'n symud, ond mae wedi dod yn gynefin pwysig i wiwerod coch a nifer fawr o'r cigfrain clwydo.

Byddwch yn dod allan o'r goedwig yn agos at Ynys Llanddwyn, darn hir a thenau o dir sy’n ymestyn i'r môr (er gwaethaf yr enw, mae'r 'ynys' hon yn parhau i fod yn hygyrch heblaw ar y llanwau uchaf). Mae'n gartref i olion Eglwys Santes Dwynwen, a enwyd i goffáu’r Dywysoges Geltaidd sy’n nawddsant cariadon Cymru.

Yn agos at yr eglwys mae ffynnon sanctaidd, gyda nifer o lysywod yr honnwyd iddynt allu rhagddweud eich dyfodol rhamantaidd. Os ydyn nhw'n neidio pan fyddwch chi'n ymweld, rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i gariad. 

Gallwch hefyd weld olion hanes morwrol Ynys Môn ar Llanddwyn. Mae dau oleudy o'r 19eg ganrif, Tŵr Mawr a Tŵr Bach, yn dal i sefyll ar flaen yr ynys, ynghyd â dau fwthyn peilot a adferwyd. Byddai'r dynion a oedd yn byw yma yn rhwyfo i helpu llongau i lywio rhwng y bariau tywod peryglus rhwng Caernarfon ac Abermenai, yn ogystal â gweithredu’r bad achub lleol.

Ewch yn ôl i'ch man cychwyn. 

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Gruff Owen

"Mae'r daith gerdded hon, sy’n safle gwirioneddol arbennig, yn siŵr o’ch swyno chi! Mae llawer o ffilmiau enwog wedi cael eu ffilmio yma gan gynnwys Clash of the Titans a Half Light".

Angen gwybod

Mae maes parcio ar ddechrau'r daith gerdded. Tua hanner ffordd, ceir y prif faes parcio mwyaf gyda bloc toiledau, man ail-lenwi dŵr ac ardal bicnic (gydag ardaloedd barbeciw dynodedig).

Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru am fapiau mwy manwl a gwybodaeth am lwybrau dychwelyd amgen ar gyfer y lle syfrdanol hwn.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Ynys Llanddwyn i Coedwig Niwbwrch (PDF) a map taith cerdded (JPEG)