Saundersfoot

Ewch ar daith yn ôl mewn amser i gychwyn y fan hon fel cyrchfan i dwristiaid mewn ffilm 3D

Rhannwch y syniad cerdded hwn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Nodyn am y daith gerdded hon

4 Mawrth 2024
Ar hyn o bryd mae'r llwybr rhwng Coppet Hall a Wiseman's Bridge ar gau am y tro oherwydd tirlithriad sy'n effeithio ar yr ardal. Mae gwyriad ar waith dros dro - chwiliwch am Sir Benfro "Coppet Hall i Wiseman's Bridge" yn y tabl i weld map o’r gwyriad.

Enw’r daith gerdded

Saundersfoot, Sir Benfro

Cyn gadael

Lawrlwythwch ap Llwybr Arfordir Cymru er mwyn profi’r ardal mewn Realiti Estynedig.

Dechrau/diwedd

Dechreuwch eich taith yn mhaes parcio harbwr Saundersfoot a gorffen eich taith yn Wiseman’s Bridge.  Mae lleoliad y panel sydd ar gael ar Google Maps.

Pellter

Llwybr cerdded: 1km / 0.75 milltir (o Saundersfoot i Wiseman’s Bridge) 

Taith gerdded estynedig: 1 km / 0.75 filltir o Wiseman’s Bridge i Amroth

Theresa Nolan, Uchafbwynt Swyddog Llwybr Arfordir Cymru

"Mae’r rhan arbennig hon o Lwybr Arfordir Cymru llawn hanes. Byddwch yn cerdded ar hen lein reilffordd drwy dwneli bychain".

Gwybodaeth am llwybr

Lein reilffordd, grym ceffyl yn wreiddiol, oedd yma, felly nid oes graddiant amlwg ac mae’n addas ar gyfer pramiau. Mae’r darn o Coppit Hall i Wiseman’s Bridge, pentrefyn bach â thraeth creigiog, yn darparu golygfeydd di-dor dros Fae Saundersfoot. 

Beth am ddechrau trwy brofi Realiti Estynedig gan ddefnyddio’ch dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled) gyda phanel Llwybr Arfordir Cymru sydd yn y maes parcio o flaen strwythur melyn Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI). 

Ewch i’r gogledd tuag at Wiseman’s Bridge, pentrefyn arfordirol lle mae cyfleusterau ar gael a bws gwasanaeth rhif 381 nôl i Saundersfoot pe byddech ei angen ((mae holl amserlenni bws yr ardal hon ar wefan Cyngor Sir Penfro).

Eisiau mynd ymhellach?

Os hoffech fynd yn bellach, gallech barhau i Amroth, pentref glan môr.  Neu gallech ymestyn eich taith mewn cyfeiriad arall trwy ymweld â Gweithfeydd Haearn Stepaside, taith wastad a byr (4km / 2 filltir) sy’n addas ar gyfer pob oed. 

Ar y ffordd

Arhoswch i drochi’ch traed neu nofio tra’n mwynhau’r golygfeydd ar draws harbwr Saundersfoot.

Cynllunio'ch ymweliad

Ewch i'n tudalen Cynlluniwch'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.

Lawrlwythwch y daflen deithio

Lawrlwythwch y daflen deithio Saundserfoot - Teithiau teulu gyda gwahaniaeth gyda map o’r  llwybr a'r llwybr estynedig i archwilio mwy o arfordir prydferth Cymru.

Gwyliwch ein fideo byr i weld nodweddion yr ap

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig