Llwybr Arfordir y Mileniwm, Sir Gâr

Mae'r llwybr di-draffig hwn yn berffaith ar gyfer mynd am dro bach ar droed neu ar gefn eich beic

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Casllwchwr i Ben-bre

Pellter

12 milltir neu 20 km

Ar hyd y ffordd

Mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru yn dilyn rhan hawdd a gwastad o arfordir Sir Gaerfyrddin a gall y teulu oll ei mwynhau ar droed neu ar feic. Wrth i chi deithio, byddwch chi’n pasio amrywiaeth enfawr o bethau i’w gweld a’u gwneud, gan gynnwys Gwarchodfa Gwlypdiroedd sy’n gartref i haid o fflamingos pinc, traethau euraidd enfawr, porthladdoedd hardd a pharc gwledig sydd â llethr sgïo sych.

Uchafbwyntiau'r daith

Tricia Cottnam, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Dyma ran wych o Lwybr Arfordir Cymru ble allwch chi feicio neu fwynhau’r golygfeydd ar droed ar lwybr arfordirol hygyrch, di-draffig sy’n dilyn arfordir prydferth Sir Gaerfyrddin. Dyma’r lle delfrydol i ddod â’r teulu er mwyn darganfod y rhan hon o Gymru"

Angen Gwybod

  • Mae nifer o feysydd parcio, lleoedd bwyta, cyfleusterau a siopau ar hyd y ffordd yn ogystal â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwych.
  • Os yw’r pellter cyfan yn ormod (13 millir / 20 cilomedr), yn enwedig i deuluoedd, mae Darganfod Sir Gâr wedi rhannu’r daith gerdded hon i bedair rhan ar ein gwefan nhw.

Taflen teithio a map

Lawrlwythwch taflen cerdded Llwybr Arfordir y Mileniwm (PDF) a map taith cerdded (JPEG)

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig