Nefyn i Borthdinllaen, Gwynedd

Treuliwch amser teuluol go iawn gyda'ch gilydd ar y daith gerdded hon ar hyd pyllau glan môr a thraeth

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Amgueddfa Forwrol Llyn, Nefyn i Borthdinllaen

Pellter

3 milltir neu 5 km 

Ar hyd y ffordd

Mae’r daith gerdded yn cychwyn yn Amgueddfa Forwrol Llyn, Nefyn (casgliad hynod ddiddorol o arteffactau mordwyol sy’n werth ei weld), mae’r daith gerdded yn dilyn yr arfordir i bentref pysgota hyfryd Porthdinllaen. Wrth i chi deithio tuag at Benrhyn Nefyn, cymrwch hoe ar fainc a mwynhau’r golygfeydd dros Fôr Iwerddon. Ar ddiwrnod clir, gallwch chi wylio’r llongau a’r llongau nwyddau’n hwylio i mewn i borthladd Caergybi ar Ynys Môn. Edrychwch i’r gogledd ar hyd yr arfordir i weld hen chwareli Carreg y Llam, ger Canolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn.

Pan fyddwch chi’n barod i symud ymlaen, anelwch am Glwb Golff Nefyn a’r Cyffiniau a dilynwch y ffordd i lawr i bentref Porthdinllaen. Saif ar fae bychan ar flaen y penrhyn gogleddol sy’n gyforiog o fflora a ffawna morol. Yn eu mysg mae gwelyâu o forwellt, cynefin morol pwysig sy’n adnabyddus am helpu sefydlogi gwaddodion gwely’r môr a rhoi lloches i amrywiaeth o bysgod, adar ac infertebratau.

Os oes angen lluniaeth arnoch chi, galwch draw i dafarn Tŷ Coch Inn. Mae’n union wrth ymyl y môr, yn un o dafarndai enwocaf Cymru ac wedi ei enwi’n un o fariau traeth gorau’r byd. Neu, crwydrwch ar hyd yr arfordir i’r bae ynysig sy’n gartref i orsaf bad achub newydd Porthdinllaen.

Uchafbwyntiau'r daith

Rhys Roberts, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:

"Peidiwch â cholli’r golygfeydd ar hyd yr arfordir tuag at Ddinas Dinlle gyda mynyddoedd yr Eifl yn gefnlen. Mae’r daith gerdded hon hefyd yn mynd heibio Porthdinllaen, sy’n un o faeau harddaf yr ardal, gyda’i gymuned fach lan môr a thafarn wych sy’n cynnal digwyddiadau drwy gydol yr haf. Os ydych chi’n ffodus iawn, efallai y gwelwch chi forloi ar hyd yr arfordir yn fan hyn hefyd – cofiwch ddod â binocwlars i’r plant".

Angen Gwybod

  • Mae nifer o siopau, caffis, meysydd parcio a thoiledau yn Nefyn. Ar hyd y ffordd byddwch chi’n pasio lleoedd i gael hoe fel Tafarn y Cliffs, Caffi Porthdinllaen a Thafarn Tŷ Coch.
  • Mae Gwasanaeth Bws Arfordir Llyn yn ffordd wych o grwydro’r rhan drawiadol hon o Lwybr Arfordir Cymru – yn enwedig os ydy’ch coesau chi wedi blino.  Ewch i wefan Bws Arfordir Llŷn i weld yr amserlen a mannau codi.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded o Nefyn i Borthdinallen (PDF) a map o taith cerdded (JPEG)

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig