Gwyriadau Cyfredol
Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr
O bryd i’w gilydd mae angen dargyfeirio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru dros dro – yn bennaf oherwydd rhesymau diogelwch y cyhoedd ar ôl tywydd garw, tirlithriadau neu waith adeiladu.
Fodd bynnag, ein harwyddair yw, 'nid ydym byth ar gau' a dylai llwybr arall fod ar gael bob amser.
Oes rhywbeth o’i le ar Lwybr Arfordir Cymru, gadwech i ni gwybod ar ein ffurflen Rhoi gwybod ar fater ymwneud a'r Llwybr
Gwynedd
Gwaith uwchraddio Traphont Bermo Network Rail 2020 - 2023 yng Ngwynedd
Bydd gwaith uwchraddio’r draphont 150 oed yn dechrau ym mis Medi 2020. Bydd yn effeithio ar y llwybr gan ei fod yn croesi’r draphont dros Aber Mawddach ac yn mynd yn ei flaen tua’r de i gyfeiriad Fairbourne. Yn ystod y gwaith uwchraddio hwn bydd y bont yn cau dros dro ar rai dyddiadau.
Edrychir ar y posibilrwydd o ddarparu llwybr arall ar gyfer cerddwyr ar y llwybr a byddwn yn rhoi gwybod ichi ar y dudalen hon. Os ydych yn bwriadu cerdded yn yr ardal hon, awgrymwn eich bod hefyd yn dilyn cyfryngau cymdeithasol Network Rail i gael diweddariadau.
• Dilynwch Twitter Network Rail Wales and Border i gael diweddariadau. Enw Twitter @NetworkRailWAL
• Darllenwch ddiweddariad am Waith Uwchraddio Traphont y Bermo, chwestiynau cyffredin a chau pontydd dros dro
Pont yr Aber, y bont droi i gerddwyr yng Nghaernarfon
5 Gorffennaf 2022
Mae Pont yr Aber rhwng castell Caernarfon a pharc chwarae Caernarfon, sy’n groesfan dros Afon Seiont, ar gau o bryd i’w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd, dilynwch y llwybr amgen ar y map. Gallwch roi gwybod i Gyngor Gwynedd bod y bont ar gau
Ynys Môn
16 Mis Mehefin 2021 Gwyriad Moelfre: Cerddwyr wedi'u cyfeirio trwy Ystâd Nant Bychan ac ar hyd ffordd yr A5108 i mewn i Moelfre.
Castell-nedd Port Talbot
12 Mai 2023 The Quays - Mae'r llwybr ar gau er diogelwch, oherwydd bod llyncdyllau dwfn yn parhau i ffurfio ar hyd y llwybr tarmac wrth ymyl Afon Nedd. Sylwch fod glan yr afon ar y gogledd yn creu rhwystr ar y llwybr, yn y cyfeirnod grid SS731931. Dilynwch yr arwyddion dargyfeirio ar y map a ddarperir yn y tabl isod.
Awdurdod Lleol | Lleoliad | Rheswm | Map Gwyriad | Dyddiad |
---|---|---|---|---|
Abertawe | Cwm Ivy | Erydiad | cy | Hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Caerdydd | Canolog Caerdydd | Iechyd a Diolgelwch | cy | Hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Casnewydd | Y Bont Gludo | Mmddiffyn rhag llifogydd | cy | 30-06-2024 |
Castell-nedd Port Talbot | The Quays | Llyncdyllau | cy | Hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Conwy | Promenad Hen Golwyn | Gwaith ar amddiffynfa fôr | cy | 28-02-2023 |
Ddinbych | Prestatyn (o 9ed Mis Mai 2023) | Gwaith amddiffyn arfordirol | cy | 22-08-2023 |
Fynwy | Warren Slade, Cas-gwent | Coed annigoel | cy | 19-05-2023 |
Gwynedd | Porth Colmon i Draeth Penllech | Tirlithriad | cy | Hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Gwynedd | Traphont Bermo | Gwaith uwchraddio Traphont Bermo o 2il Mis Medi 2023 | 24-11-2023 | |
Pen-y-bont ar Ogwr | Merthyr Mawr llwybr rhif 23 | Cau Llwybr Troed Dros Dro Ar Frys | cy | Hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Sir Benfro | Amroth | Tirlithriad | cy | Hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Ynys Mon | Moelfre | Ansefydlogrwydd tir | cy | Hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Ynys Mon | Porth Trefadog, Llanfaethlu | Tirlithriad | cy | Hyd nes y ceir rhybudd pellach |
Diweddarwyd ddiwethaf 12 Mai 2023