Gwylio bywyd gwyllt
Mae arfordir Cymru a’i ynysoedd alltraeth yn adnabyddus...
Cymerwch ran mewn Gwyddoniaeth Dinasyddion
Rydym wedi rhyfeddu at y modd mae’r arfordir yn newid yn barhaus.
Mae’n gallu edrych yn drawiadol ar doriad dydd, ac yna’n gymylog a thywyll erbyn amser cinio. Gall y golygfeydd o’r llwybr newid o ddydd i ddydd a hefyd yn y gwanwyn, yr haf, yr hydref a’r gaeaf. Mae ein harfordir yn newid drwy’r adeg, ond nid ydym bob amser yn sylwi ar hynny.
Rydym eisiau cofnodi’r newidiadau hynny ar y llwybr – boed law neu hindda. Rydym hefyd eisiau gwylio arfordir Cymru a gweld sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar ein traethau.
Rydym yn rhan o fenter gwyddoniaeth dinasyddion fyd-eang o’r enw Coast Snap lle mae’r gymuned yn helpu gyda gwaith ymchwil i effeithiau newid hinsawdd ar draethau. Nid ydym ar ein pen ein hunain – mae gwledydd fel Awstralia, Ffrainc, a’r Iseldiroedd hefyd yn rhan o Coast Snap. Rydym yn gweithio gyda Canolfan Monitro Arfordirol Cymru i’n helpu i ddeall effeithiau newid hinsawdd ar arfordir Cymru.
Chwiliwch am grud dal ffôn symudol CoastSnap pan fyddwch allan yn crwydro nesaf ar y llwybr. Mae’r ‘crudau’ wedi eu gosod mewn lleoedd penodol ar hyd y llwybr ac wedi eu gosod ar bostyn neu reilen.
Mae pob un ohonynt yn edrych dros ardaloedd o’r arfordir a gallwch gyrraedd y mannau penodol hyn pan fyddwch ar y llwybr. Byddwch angen ffôn gyda chamera a mynediad i Wifi neu ddata ffôn symudol.
Pan fyddwch yn gweld crud Coast Snap, gosodwch eich ffôn symudol ynddo a thynnu llun o’r olygfa.Gallwch wedyn ei rannu drwy ei anfon i wefan Canolfan Monitro Arfordirol Cymru, gan ddefnyddio wifi neu ddata symudol ar unrhyw adeg.
Gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg o’r flwyddyn bob tro y byddwch ar y llwybr.
Gallwch ddod o hyd i grud mewn nifer o leoliadau ar hyd y llwybr, gan gynnwys:
Ewch i wefan Canolfan Monitro Arfordirol Cymru i weld rhestr lawn o’r lleoliadau
Bydd y lluniau yn cynnwys llawer o ddata gwyddonol gwerthfawr. Bydd hyn yn helpu yn yr ymchwil i effeithiau newid hinsawdd yn y lleoliadau penodol a ddewiswyd. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich cyfraniad i brosiect CoastSnap ar y llwybr.