Cadw
Mwynhewch ddiwrnod diddorol ar Lwybr Arfordir...
Hanes ar eich ffôn wrth droedio Llwybr Arfordir Cymru!
Wrth gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, chwiliwch am godau QR Mannau Hanesyddol mewn lleoedd diddorol. Sganiwch y cod gyda’ch ffôn deallus i gael ffeithiau cryno a rhyfeddol am yr adeilad, y strwythur, y gofeb, y bywyd gwyllt neu’r tirwedd sydd o’ch blaen. Yna, gallwch bwyso botwm llywio i weld ble mae’r codau QR nesaf i’w cael yn y cyfeiriad rydych yn teithio ynddo.
Yn ôl pob tebyg, dyma’r daith QR gyntaf o’i bath ar unrhyw lwybr pellter hir drwy’r byd. Mi gewch eich rhoi ar ben ffordd ynglŷn â sut i ynganu enwau lleoedd Cymraeg anodd hyd yn oed!
Caiff y codau QR eu cynhyrchu gan brosiect gwybodaeth gymunedol HistoryPoints.org. Eisoes, maen nhw i’w cael mewn bron i 150 o leoliadau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru – o’r Fflint i Gas-gwent ac o amgylch Ynys Môn. Ac mae mwy yn ymddangos drwy’r adeg, diolch i gymorth gwirfoddolwyr, busnesau lleol, cynghorau ac eraill. Gallwch fynd ar hyd taith y codau QR, o sir i sir, ar eich cyfrifiadur – efallai y bydd hyn yn eich helpu i ddewis pa ran o’r llwybr i’w droedio.
Mae’r lleoedd dan sylw’n cynnwys y canlynol: