Ein Brand

Rydym wedi datblygu ein brand er mwyn hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru i gymunedau lleol yn ogystal â marchnadoedd twristiaeth ryngwladol, tra hefyd yn sicrhau eich bod chi’n canfod y llwybr cywir

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Canllawiau Brand

Llawrlwythwch y canllawiau brandio diweddaraf (PDF, 14.6MB, Saesneg yn unig) os ydych yn awyddus i ddefnyddio logo Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer unrhyw fath o gyfathrebu. 

Gallwn ganiatáu defnydd o’r logo Llwybr Arfordir Cymru trwy gydymffurfiaeth â’r canllawiau hyn. Gwarchodir y logo fel nod masnach ryngwladol. Cedwir pob hawl i ddiddymu caniatâd i ddefnyddio’r logo os na fydd y canllawiau’n cael eu dilyn.

Cyfeirbwyntiau

Mae Llwybr Arfordir Cymru’n ymestyn ar draws arfordir Cymru gyfan. Wrth ei deithio byddwch yn cyrraedd adrannau newydd yn ogystal â llwybrau sydd wedi hen ennill eu plwyf, megis Llwybr Arfordir Ynys Môn neu Lwybr Arfordir Sir Benfro.

Er mwyn helpu i chi ganfod y ffordd, rydym wedi creu cyfeirbwyntiau melyn a glas sy’n arddangos ein logo “draig a chragen” adnabyddus.

Ambell waith byddwch yn gweld cyfeirbwynt coch a melyn hefyd - arweinia'r rhain at lwybrau amgen swyddogol e.e. i osgoi llanw uchel neu osgoi ffyrdd prysur.

Mae’r rhain i’w canfod ar draws holl Lwybr Arfordir Cymru, a byddent ar brydiau yn gyfagos i gyfeirbwyntiau eraill. Gwyliwch amdanynt, a byddwch yn sicr ar y trywydd cywir.