Gwyliau ac anturiaethau’r arfordir: dewch i brofi Llwybr Arfordir Cymru yr haf yma

Cyfleoedd perffaith i gyfuno diwylliant, cymuned a’r arfordir

© Crown Copyright

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cewch fwynhau mwy na golygfeydd trawiadol yn yr haf ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. O berfformiadau cerdd agos-atoch i ddathliadau diwylliannol ac enciliadau lles, mae mis Gorffennaf a mis Awst yn cynnig calendr bywiog o ddigwyddiadau sydd yn union wrth ymyl y llwybr, neu dafliad carreg ohono.

Os ydych chi'n bwriadu mynd i un o’r gwyliau hyn, beth am wneud y mwyaf ohoni drwy grwydro ar hyd rhan o lwybr yr arfordir ar yr un pryd. Os am dro bach hamddenol neu daith gerdded hirach, mae’r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle perffaith i gyfuno diwylliant, cymuned a’r arfordir.

Westival (2 - 5 Gorffennaf 2026) - Arfordir Penfro

Gŵyl gerddoriaeth electronig ac amgen bwtîc yw Westival gydag arfordir Penfro yn gefndir iddi. Gyda thraethau tywodlyd a chlogwyni dramatig ond ychydig funudau i ffwrdd, gallwch fynd yn syth o egni’r Ŵyl i grwydro’r arfordir. Teithiau cerdded gerllaw:

Gŵyl Love Trails (2 - 6 Gorffennaf 2026) - Penrhyn Gŵyr

Ar dirlun trawiadol Penrhyn Gŵyr, gŵyl wedi’i ffurfio o amgylch symudiad, cysylltiad a byd natur yw Love Trails. Gan gyfuno rhedeg llwybrau, heicio, lles a cherddoriaeth, mae'n debyg mai dyma'r ŵyl orau ohonynt i gyd am ymgorffori llwybr yr arfordir. Teithiau cerdded gerllaw:

Gŵyl Afon Conwy (3-5 Gorffennaf a 9-11 Gorffennaf) - Conwy 

Mae'r ŵyl forwrol hon ar aber afon Conwy wedi cael ei chynnal ers blynyddoedd, ac yn dathlu hwylio, rhwyfo a bywyd ar y dŵr. Cewch fwynhau digwyddiadau ar y cei, rasys ac awyrgylch bywiog yr harbwr. Teithiau cerdded gerllaw:

Yr Eisteddfod Genedlaethol (1 - 8 Awst 2026) – Sir Benfro

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop. Mae’n ddathliad o gerddoriaeth, llenyddiaeth a pherfformiadau Cymraeg, yn ogystal â’r iaith ei hun. Yn 2026, mae'n dychwelyd i arfordir Sir Benfro - gan olygu mai dyma’r lleoliad perffaith i fwrw angor ar gyfer gwyliau cerdded. Teithiau cerdded gerllaw:

Green Gathering (30 Gorffennaf-2 Awst 2026) -  Cas-gwent

Wedi'i lleoli ger Cas-gwent, yn agos at ddechrau (neu ddiwedd) y rhan ddeheuol o lwybr yr arfordir, mae'r ŵyl ecogyfeillgar hon yn cynnig cerddoriaeth, gweithdai ac ysbrydoliaeth ar gyfer byw'n gynaliadwy. Teithiau cerdded gerllaw: 

Rhwng y Coed (27- 30 Awst 2026) – Merthyr Mawr

Gŵyl sydd wedi’i hysbrydoli gan natur mewn coetir ger yr arfordir ym Merthyr Mawr. Mae’n cyfuno gwyddoniaeth, cerddoriaeth a straeon mewn lleoliad heddychlon yn agos at y môr. Teithiau cerdded gerllaw: