Gwyliau ac anturiaethau’r arfordir: dewch i brofi Llwybr Arfordir Cymru yr haf yma
Cyfleoedd perffaith i gyfuno diwylliant, cymuned...
Hwyl ar hyd y llwybr gyda’r plant
Hawlfraint y Goron
Mae’r ysgol ar ben, y dyddiau’n hirach, a does dim amser gwell i gamu allan a chreu atgofion gyda’n gilydd ar Lwybr Arfordir Cymru. Yn ymestyn am 870 milltir o amgylch arfordir godidog Cymru, mae’r llwybr yn cynnig cyfleoedd di-ri am anturiaethau i’r teulu, os ydych chi’n teithio gyda phlant bach, pobl ifanc neu neiniau a theidiau.
O hwyl glan môr traddodiadol a chyfleoedd i weld bywyd gwyllt i droeon addas i fygis, llwybrau beicio a thirnodau hanesyddol rhyfeddol, mae rhywbeth i gydio yn nychymyg pob un.
Ar hyd y ffordd, gall teuluoedd ddarganfod cilfachau cudd, gweld dolffiniaid, adeiladu cestyll tywod, archwilio cestyll, pysgota am grancod mewn harbyrau hardd a hyd yn oed ddatgloi profiadau digidol rhyngweithiol trwy ap Llwybr Arfordir Cymru.
Os ydych chi’n cynllunio diwrnod llawn yn yr awyr agored dros wyliau’r haf neu’n chwilio am ysbrydoliaeth am daith gerdded fyrrach ar hyd yr arfordir, mae’r profiadau hyn yn addas i deuluoedd ac yn rhai o’r ffyrdd gorau o fwynhau Llwybr Arfordir Cymru gyda’ch gilydd y tymor hwn.
Does dim i guro diwrnod traddodiadol ar lan y môr ac mae digonedd o ddewis i deuluoedd o amgylch arfordir Cymru ym mis Gorffennaf ac Awst.
Mwynhewch y promenâd hir ar dro yn Llandudno, ble gall teuluoedd fwynhau sioeau pypedau traddodiadol a hufen iâ ar y pier, neu ymlacio mewn cadair lan môr streipiog glasurol gan wylio’r plant yn adeiladu cestyll tywod, gyda swper o bysgod a sglodion i ddilyn gan wylio’r machlud ar y promenâd. Llawenydd diddiwedd fel yn yr oesoedd a fu.
Os ydych chi’n teimlo fel ymestyn eich coesau, y tro ar hyd Llwybr yr Arfordir o Bromenâd Llandudno am Gonwy yw’r lle perffaith. Rhwng 4 ac 8 milltir, yn dibynnu ar ba lwybr penodol a gymerwch chi, fe allech ymweld â chastell Conwy neu fynd am dro o amgylch tref hanesyddol Conwy.
Taith gerdded wych i’r teulu gyda phyllau glan môr a’r ardd gwrw berffaith ar hyd y ffordd. Mae’r daith gerdded o Nefyn i Borthdinllaen yn llai na 5km o hyd ac yn mynd ar hyd traethau tywodlyd gan gynnig cyfleoedd gwych i chwilota drwy’r pyllau clan môr ger Gorsaf y Bad Achub ar lanw isel. Mis Awst hefyd yw’r amser gorau i weld morloi yn yr ardal. Gorffennwch y diwrnod gyda diod oer i bawb yn un o’r tafarndai glan môr gorau yn y byd – mae Tafarn y Tŷ Coch ar draeth Porthdinllaen.
Pa ffordd well i blant dreulio awr neu ddwy na cheisio curo’r slots? Mae’r arcêd eiconig ‘Nessa’s Slots’ ar Ynys y Barri yn lleoliad y bydd ffans Gavin a Stacey o bob oed yn siŵr o’i fwynhau. Mae taith gerdded ar hyd llwybr yr arfordir o faes parcio Cold Knap yn y Barri yn mynd â chi drwy’r lleoliad ffilmio teledu enwog sy’n edrych allan dros draeth tywodlyd Bae Whitmore, a gallwch ddewis stopio am goffi yng Nghaffi Marco hefyd. Mae teithlen i lenwi nifer o ddyddiau ar gyfer yr ardal hon yma
Un o’r lleoliadau gorau yng Nghymru ar gyfer y gweithgaredd syml ond rhyfeddol hwn, ar ddiwrnod o haf mae Cei Solfach yn aml yn llawn plant gyda’u leiniau, rhwydi, bwcedi ac abwyd yn ceisio dal cranc ar lanw uchel. Ar ôl treulio amser yn pysgota am grancod, gallwch ddal ati i grwydro Llwybr Arfordir Sir Benfro a hyd yn oed fwyta bwyd môr wedi’i ddal yn lleol o leoedd fel Mrs Will the Fish. Mae mwy o deithiau cerdded yn Sir Benfro
Mae’r haf yng Nghymru yn amser delfrydol i blant chwilfrydig ac oedolion fel ei gilydd weld bywyd gwyllt a phrofi byd natur. Gall teuluoedd roi cynnig ar y canlynol:
Misoedd yr haf yw’r amser gorau i weld y boblogaeth fwyaf ym Mhrydain o ddolffiniaid preswyl, trwy edrych amdanynt yn brigo ger y lan, yn enwedig o bentiroedd ar Lwybr Arfordir Cymru rhwng Aberteifi a Cheinewydd. Neu am brofiad mwy arbennig fyth, gallwch fynd ar daith mewn cwch gyda’r machlud. Gallwch weld sut i gerdded rhwng Ynys-las ac Aberteifi gydag opsiynau am drafnidiaeth gyhoeddus.
Cywir! Ar hyd Llwybr Arfordir y Mileniwm, arhoswch yng Nghanolfan Gwlyptir Llanelli ble gall teuluoedd gael blas ar y Caribî yr haf hwn a gweld y brîd arbennig o fflamingos cwrel, ynghyd â nifer o rywogaethau eraill o adar a bywyd gwyllt. Lle gwych i aros am bicnic ar daith feicio i’r teulu. Rhowch gynnig ar y daith gylchol 10 milltir hon yn Llanelli
Ymwelwch ag Ystâd Ystagbwll yn Sir Benfro ym mis Awst am deithiau tywys yn y gwyll. Mae hon yn daith gerdded rwydd sy’n ymweld â safle dwy glwyd ystlumod, gan gynnwys clwyd feithrin yr ystlum pedol mwyaf. Caiff teclynnau synhwyro ystlumod eu rhannu a’u defnyddio i wrando ar yr ystlumod. Ewch i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Ystagbwll i gael rhagor o wybodaeth.
Yn anarferol am lwybrau arfordirol, mae nifer o rannau o Lwybr Arfordir Cymru yn hygyrch i deuluoedd sy’n defnyddio cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn. Dyma rai opsiynau:
Mae’r promenâd gwastad yn Llanfairfechan yn berffaith ar gyfer gwthio pram ac i gael picnic gyda phlant bach yn ystod gwyliau’r haf – a chewch wylio’r bywyd gwyllt ar hyd y daith.
Mae Llwybr Arfordir y Mileniwm yn llwybr di-draffig sy’n addas i feiciau ar hyd y rhan o lwybr yr arfordir sy’n mynd drwy Sir Gaerfyrddin, ac mae’n cynnig diwrnod o hwyl i’r teulu. Ar hyd y llwybr fe ewch heibio i un o goedwigoedd prin Prydain sydd ar dwyni tywod, yn ogystal â pharc dŵr hardd y Sandy.
Mae’r llwybr yn mynd drwy Warchodfa Natur Gwlyptiroedd Casnewydd sy’n lle gwych i fynd gyda babanod. Mae’r rhan hon o lwybr yr arfordir yn cwmpasu 438 hectar o welyau cyrs godidog, lagwnau tawel, glaswelltiroedd gwlyb ir, a gwastadeddau lleidiog gwyllt yr aberoedd – pob un yn hygyrch i gadeiriau gwthio, gyda chyfleusterau newid babanod, toiledau a chaffi ac ardal chwarae hefyd.
Ar daith gerdded i’r teulu mae angen llefydd o ddiddordeb ar hyd y ffordd er mwyn tynnu sylw oddi ar goesau blinedig. Cymerwch seibiant o’r llwybr drwy ymweld â thirnodau cofiadwy yr haf hwn:
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg yn syth drwy dref Conwy sy’n cynnwys safle Treftadaeth y Byd UNESCO Castell Conwy a muriau’r dref ganoloesol, sydd bron yn gyfan o hyd. Mae Cadw yn cynnal digon o ddigwyddiadau hwyliog i’r teulu yn y castell drwy gydol misoedd yr haf, gan gynnwys diwrnodau Hud Canoloesol Conwy sy’n cynnwys sioeau comedi a hud a lledrith, a hwyl o fewn muriau’r castell. Rhowch gynnig ar y daith gerdded hon sy’n 3 milltir o hyd rhwng Deganwy a Chonwy a phrofwch ryfeddodau’r dref hanesyddol.
Mae Pentref Portmeirion yng Ngogledd Cymru yn lle hudolus â naws Eidalaidd i deuluoedd gymryd seibiant, a gallant brynu tocyn mynediad undydd i fwynhau’r adeiladau lliwgar yn arddull Môr y Canoldir, traethau tywodlyd, 70 erw o erddi coetir a sgwâr ganolog â bwrdd gwyddbwyll enfawr. Rhowch gynnig ar y daith gerdded 7 milltir o hyd rhwng Portmeirion a thraeth Morfa Bychan
I blant yn eu harddegau cynnar yn arbennig, sy’n gyfarwydd â thechnoleg, mae ap Llwybr Arfordir Cymru yn sicr yn werth ei lawrlwytho, ac mae’n cynnwys 7 o Deithiau Cerdded Gwahanol i’r Teulu sy’n cynnig profiad digidol unigryw. Ar ôl lawrlwytho ac agor yr ap ar ddyfais, pwyntiwch y ddyfais at y bwrdd gwybodaeth i ddatgloi’r nodweddion arbennig yn yr ap.