Filkin’s Drift

Taith gerdded epig 870 milltir gan fand cerddoriaeth werin o amgylch Llwybr Arfordir Cymru

Filkins Drift

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Enw

Filkin’s Drift (Chris Roberts  Seth Bye) a Freddie Hodkin.

Yn y llun: Freddie (chwith), Chris (canol) and Seth (dde)

Ein Hysbrydoliaeth

Y syniad y tu ôl i’r prosiect hwn oedd rhoi cynnig radical ar fynd ar daith yn gynaliadwy. Fel 2 gerddor llawn amser (a chynorthwyydd!) sy’n caru byd natur a’r awyr agored, ac sydd wedi bod eisiau gwneud taith gerdded hir ers amser maith ond sy’n methu yn realistig â chymryd cyfnodau hir o amser i ffwrdd, cynigiwyd y gallai’r ddau beth o bosib gael eu cyfuno.

Daeth yr ateb o hen draddodiad barddol Cymru, sef yr arfer ganrifoedd yn ôl o rannu celfyddyd drwy grwydro o le i le. Felly, gyda ffidil, gitâr, CDs, gliniadur a phopeth arall wedi’u clymu at ein cefnau, fe gamon ni allan i gychwyn ar raglen o 50 sioe mewn 59 diwrnod, gan gasglu straeon ac alawon yn ddeunydd i’r dyfodol, cydweithio â phobl greadigol ar hyd a lled y wlad, a dod â cherddoriaeth i lefydd y byddai cerddorion sy’n teithio prin yn eu cyrraedd, os o gwbl.

Y pwynt olaf hwn hefyd oedd y rheswm i ni benderfynu codi arian i’r elusen Live Music Now ar hyd y daith, sy’n dod â cherddoriaeth fyw ar ffurf cyngherddau, gweithdai a phrosiectau i bobl sydd o bosib yn cael trafferth cael mynediad ati mewn lleoliadau traddodiadol, er enghraifft pobl mewn ysbytai, ysgolion addysg arbennig, cartrefi gofal a thebyg. Gellir gwneud cyfraniadau ar tudalen Just Giving https://
www.justgiving.com/page/cerdd-ed

Dyddiad dechrau: 3 Medi 2023, Caer
Dyddiad gorffen: 31 Hydref 2023, Cas-gwent

Uchafbwyntiau

Cawson ni gymaint o amseroedd anhygoel ar ein taith. Do fe gawson ni olygfeydd a thirweddau anhygoel, fel Mynydd Twr a Morfa Dyffryn, ond fe gawson ni hefyd gyfle i deithio ar reilffordd fechan breifat yng ngardd rhywun un bore rhwng brecwast a chychwyn ar ein taith am y diwrnod.

Roedd yn cynrychioli popeth a oedd yn wych am y daith, yn cynnwys y gerddoriaeth, yn dod ar ôl y gig anhygoel ar y cyd ag Eve Goodman y noson flaenorol; y bobl, ar ôl cael llety, ein bwydo a’n diddanu gan ddau westeiwr cyfeillgar y noson honno; a’r antur anhygoel ym myd natur y gwnaethom ei rhannu gyda’n gilydd, wrth i ni chwerthin yn ddi-baid yr holl ffordd o amgylch yr ardd ddelfrydol hon yn llawn pryfed a blodau, yn gwneud rhywbeth na fydden ni byth wedi wneud pe baen ni heb ddewis y llwybr hwn.

Iselbwyntiau

Bore’r ail ddiwrnod, ar y ffordd o’n llety i fan cychwyn y diwrnod hwnnw, fe wnaethon ni golli bocs o gannoedd o gopïau o’n EP newydd ‘Rembard’s Retreat’ ar ôl iddo lithro oddi ar do’r car ar yr A55 a’i chwalu’n rhacs gan SUV oedd yn dod tuag aton ni! Gwyliwch y bennod ar ein sianel Youtube

Pwynt isel arall oedd cael ein dal mewn storm wrth ddringo i ben yr Eifl ar ddiwrnod 17. Roedd ein cyfaill newydd, oedd wedi cychwyn gyda ni y bore hwnnw, wedi gwneud y penderfyniad doeth o droi’n ôl ychydig cyn i’r gwaethaf o’r storm daro, ond gyda gig i’w gyrraedd y noson honno doedd gyda ni ddim dewis ond bwrw ymlaen! Roedden ni’n gwneud cyfartaledd o 15 milltir y dydd, felly doedd dim llawer o amser wrth gefn gyda ni.

Ein Heiliadau o Ysbrydoliaeth

Mae’n anodd rhoi ein bys ar hyn, gan i ni ddysgu cymaint o bethau anhygoel ar hyd y daith. Ar sawl achlysur fe gawsom ein croesawu i gartrefi pobl a gweld y ffyrdd anhygoel maen nhw’n byw eu bywydau mewn ffyrdd syml a hyfryd o gynaliadwy, er enghraifft drwy dyfu eu bwyd eu hunain neu ddod o hyd i ffyrdd eraill o deithio ar wahân i gerbydau pan maen nhw’n byw yn llythrennol ar y llwybr, yn bell o unrhyw ffordd.

Fe wnaethon ni ddysgu, er gwaethaf yr argyfwng hinsawdd, bod modd gweld bywyd gwyllt rhyfeddol o hyd pan fyddwch chi’n treulio trwy’r dydd bob dydd yn yr awyr agored: brain coesgoch, gwiwerod coch, dolffiniaid Risso a morloi i enwi ond rhai - roedd y cyfoeth naturiol yn anhygoel, ond mae, wrth
gwrs, yn ei chael yn anodd wrth i’r byd newid.

Yn olaf, a bron heb sylwi, fe ddaeth yn amlwg ein bod fel pobl yn gallu cyflawni mwy nag y gwnaethon ni erioed feddwl oedd yn bosib; fel mae’n digwydd, gallwn ni gerdded 870 milltir, herio normau sefydledig y diwydiant cerddoriaeth (e.e. ble rydyn ni’n cynnal gigs).

Ac mewn gwirionedd gallwn ni ymdopi ar haelioni rhyfeddol a gwaith caled pobl ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, gan gynnwys y rhai sy’n byw yno, sy’n rhedeg lleoliadau a chapeli a mannau cymunedol yno ac sy’n cynnal y llwybr sy’n caniatáu i bobl brofi rhai o’r tirweddau, golygfeydd a threftadaeth arfordirol gorau ar wyneb y Ddaear.

Mwy o wybodaeth am Filkin’s Drift

Gwefan https://filkinsmusic.com
Facebook https://facebook.com/filkinsmusic
Instagram https://www.instagram.com/filkinsmusic
YouTube https://www.youtube.com/@filkinsmusic