Jane Hafren

Hynt a Helynt Jane ar Lwybr yr Arfordir

Rhannu

Yr Her

Dechrau cerdded Llwybr Arfordir Cymru yn y flwyddyn y cafodd ei agor, a’i gerdded i gyd a Chlawdd Offa, ar benwythnosau’n bennaf, a mwynhau pob munud.

Sir Benfro a Gŵyr Gogoneddus a Dyweddïad

Mae o leiaf 90% o Lwybr Arfordir Cymru yn anhygoel o brydferth. 

Roedd fy rhannau gorau i yn Sir Benfro yn cynnwys y traeth pitw bach ym Mhwllgwaelod. Cyrhaeddais ar ddiwedd diwrnod poeth iawn yr haf diwethaf a disgwyl tra bod Stu, fy narpar (a thîm wrth gefn gwych o un) yn gorffen nofio, yna gwylio haul diwedd y prynhawn yn suddo tua’r môr.

 

Roedd Bae Sant Ffraid yn hyfryd – Niwgwl, Tyddewi, Porth Mawr ac awr ginio yn edrych dros Fae Caerfai. Roedd gwersylla rhwng yr Aber Bach ac Aberllydan ar faes bychan yn rhagorol. Cawsom ein gwobrwyo â’r machlud gorau ar y daith gyfan.  Mae Penrhyn Gŵyr yn fendigedig.

Yn Abermaw cawsom aduniad teuluol, pryd yr ymunodd teuluoedd fy mrawd a’m brawd-yng-nghyfraith â minnau a Stu am ddau ddiwrnod o gerdded. Trodd un noson yn barti dyweddïo annisgwyl i ni. Atgofion melys.

Cawsom ein cyfareddu gan brydferthwch Ynys Môn a hefyd Pen Llŷn rhwng Morfa Nefyn a Threfor dros glogwyni uchel, heibio traethau gwag bendigedig.

Diwydiant, Tarmac a Phenllanw

Nid yw Casnewydd, Port Talbot a Dwyrain Caerdydd yn rhannau hardd iawn o’r Llwybr. Mae’r Rhyl yn erchyll.

 

 

Roedd yna ran o lan ogleddol Aberdaugleddau nad oeddwn yn ei hoffi o gwbl. Nid y diwydiant, y llongau, neu’r piblinellau olew, ond cerdded wrth eu hochr yn hwyr un prynhawn ar hyd coridor rhwng y gweithfeydd olew a fferm wynt. Lle unig, anial a brawychus.

Yna roedd fy mhrofiad trwch blewyn gyda phenllanw a thywyllwch ar hyd traeth 4 milltir Porth Neigwl…

Y cerdded gwaethaf ar y Llwybr yw’r ‘prom’ 70 milltir ar hyd Arfordir Gogledd Cymru gyda dim ond aber hyfryd Conwy a’r Gogarth mawreddog yn torri arno. Mae’n anffodus mai ffordd a rheilffordd sydd bob ochr i’r traethau tywod llydan hyn. Mae’r tarmac yn ei gwneud yn anodd i’r traed, ond mae’r milltiroedd yn diflannu’n sydyn.

Galar a Chysur

Rwyf yn codi arian i elusen ganser fach, Odyssey, er cof am fy annwyl chwaer, Ali. Maent yn helpu pobl sydd â diagnosis terfynol i fwy bywydau hirach, hapusach a llawnach. Roedd Ali wedi cwblhau reid feics 225 milltir drwy Gymru gyda grŵp o Odyssey ym mis Medi 2013, wythnos bositif iawn yn ystod ei misoedd olaf.

Daeth isafbwynt fy amser ar y llwybr wedi ei hangladd hi. Roedd hi wedi cael diagnosis o ganser terfynol yn ystod Pasg 2013 a bu farw 10 mis yn ddiweddarach, yn 49 oed ym mis Chwefror 2014.

Es i syth yn ôl i lwybr Sir Benfro ar fy mhen fy hun. Roeddwn eisiau bod ar fy mhen fy hun. Roedd hi’n help i gerdded yn ystod y dyddiau byrion. Roedd y llwybr yn fy nghynnal a’m tawelu, wrth i mi ffeindio fy ffordd dros bentiroedd a chlogwyni, wrth ymyl traethau braf a thrwy goetir llwydlas. Roedd yn help, ond roedd nosweithiau hir y gaeaf yn llethol. Cefais ddigon ar ôl tri diwrnod.

Codi arian

Mae’r gwaith y mae Odyssey’n ei wneud gyda chleifion canser a’u teuluoedd mor werth chweil. Fy nharged codi arian i yw £5000.00 ac rwyf 76% yn hyd yma. Darllenwch fwy ar fy tudalen Just Giving

Roedd Ali wedi cwblhau reid feics 225 milltir drwy Gymru ym mis Medi 2013, wythnos gadarnhaol iawn yn ei misoedd olaf.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Jane Hafren gan:

E-bost: jane@thewalkoflifecoach.com

Safle we: www.thewalkoflifecoach.com

Dilynwch fi yma: www.facebook.com/jane.hafren neu ar: www.facebook.com/JaneHafrenTheWalkOfLifeCoach

Ôl-nodyn: Dwi’n priodi mewn wythnos â dyn nad oeddwn wedi’i gyfarfod pan ddechreuais fy nhaith gerdded. Rwy’n ysgrifennu llyfr am fy nhaith ar Lwybr yr Arfordir/Clawdd Offa.