Mike Langley

Mike yw’r person cyntaf dros drigain oed i gerdded Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa cefn wrth gefn (mae hynny’n fwy na 1000 o filltiroedd). Dyma hanes ei anturiaethau

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Yr Her

Rwy’n byw yn y Fenni, yn agos at fynyddoedd Pen-y-Fâl a’r Ysgyryd Fawr ac wedi bod yn cerdded pellteroedd hir ers nifer o flynyddoedd. Roedd Llwybr Arfordir Cymru yn atyniad mawr i mi, gan fy mod eisoes wedi cwblhau Ffordd y Cambrian ac wedi cerdded drwy ganol Cymru, ymddangosai fel y lle naturiol i’m hymdaith nesaf! Penderfynwyd cymryd y cyfle i gysylltu â Chlawdd Offa a gwneud cylchdaith o’r wlad dros beint neu ddau pan oed fy nghyd-gerddwyr, Zoe Wathen, Steve Webb a minnau yng Nghaerdydd ar gyfer agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru ar Fai y 5ed 2012. Gan fy mod wedi ymddeol, euthum allan i wynebu hon, fy nhaith gerdded hiraf eto, a bod y cyntaf o’r rhai ‘dros eu trigain’ i gerdded 1047 o filltiroedd o amgylch Cymru!

Yr Uchafbwyntiau

Wedi cychwyn o Brestatyn ym mis Gorffennaf a chymryd naw diwrnod gwlyb a mwdlyd i gerdded Clawdd Offa, roedd Steve a minnau’n falch o gwrdd â Zoe a ffrindiau eraill yng Nghas-gwent braf a heulog. Diolch byth, arhosodd yr haf gyda ni am wythnos. Roedd hi’n ddiddorol cerdded trwy’r ardaloedd trefol i gyd yn ogystal ag yn y wlad. Er na fyddai’n hardd i rai, wedi bod yn y diwydiant adeiladu fy hun roedd peirianneg y gwahanol bontydd a’r atomfeydd yn fy nghyfareddu. Roedd mynd trwy’r Mwmbwls a Bro Gŵyr yn ogoneddus. Ond, wrth ddechrau ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, buan iawn y newidiodd y llwybr; roedd y tir yn arw a’r tirwedd yn ddramatig a chyfarfuom a llawer o bobl gefnogol a oedd yn awyddus i glywed beth roeddem yn ei wneud ac yn ein hannog i gadw i fynd. Roedd nifer ohonynt wedi gwneud y llwybr dros sawl blwyddyn ac yn edmygu’r ffaith fy mod i yn ei gerdded ar un tro, yn fy oed i! Roedd yna ddiwrnodau pan oedd ein gêr yn socian, oherwydd y tywydd drwg. Rwy’n cofio un diwrnod, esgus hedfan lawr y rhiw fel Superman gyda’m bag cysgu wedi’i strapio ar fy sach deithio i sychu. Roedd eiliadau bach fel hyn, er yn wirion i rai efallai, yn hwyl ac yn help i gadw’n ysbryd pan oedd y diwrnodau’n galed (ac yn helpu i sychu pethau allan hefyd!) Aethom i mewn i nifer o eglwysi, gan fy md yn mwynhau gweld y nodweddion pensaernïol. Cawsom groeso ym mhob un o’r eglwysi ond mae un eglwys fechan yn sefyll allan yn arbennig, yn Llanbadrig, ger Cemaes ar Ynys Môn. Wrth gwrdd â warden ysbrydoledig, Dorothea Bullock, cawsom ein hunain wedi ymgolli yn hanes yr eglwys a chysylltiadau ei theulu hi â’r ardal. Roedd ei brwdfrydedd yn gymaint o hwb, fe adawsom yr eglwys yn cerdded ar awyr y diwrnod hwnnw!

Yr Isafbwyntiau

Nid oedd llawer o isafbwyntiau i mi ond gan mai hwn oedd yr haf gwlypaf yng Nghymru ers blynyddoedd, cawsom sawl moment fwdlyd. Wrth ddod i lawr camfa, fe laniais mewn mwd, gan adael fy esgid ar ôl - er mawr ddifyrrwch i’m ffrindiau! Adeg arall, yn cerdded ar y traeth am 4km, roedd y gwyntoedd uchel, y glaw a’r tywod yn chwipio yn mynd â’m gwynt yn llwyr. Nid diwrnod mwyaf pleserus y daith ond wedi cyrraedd caffi cynnes a chyfeillgar yn Rhosneigr, cawsom gyfle i sychu a chynhesu unwaith eto ac mae’n werth dweud fod y tonnau mawrion yn drawiadol yn y tywydd hwnnw!

Mae’n debyg i’r isafbwynt i mi ddigwydd ar y diwrnod olaf. Roeddwn yn cerdded ar hyd ymyl glaswellt ar ochr prif ffordd, er mwyn rhoi gorffwys i’m traed o wyneb caled y palmant am dipyn. Roeddwn yn gwisgo fy het haul ac mae ganddi gantel lydan, a welais i ddim o’r arwydd ffordd o’m blaen! Afraid dweud i mi gerdded i mewn iddo, pen yn gyntaf! Treuliwyd y munudau nesaf gyda’m ffrindiau yn rhoi cymorth cyntaf i anaf arwynebol ond gwaedlyd ar fy nhalcen! Pawb yn tynnu coes gan ddweud mai dim ond y fi allai gerdded am 1,037 o filltiroedd yn ddianaf ac yna rhywbeth fel hyn yn digwydd gyda dim ond deg milltir i fynd! Dwi’n meddwl mai fy het ffyddlon arbedodd fy nhalcen gan y gallai fod wedi bod yn llawer gwaeth!

Bydd llawer o atgofion bythgofiadwy yn aros gyda mi wedi cwblhau’r her hon. Er i mi ddweud na fyddwn yn gwneud her enfawr eto ar ôl hon, mae’r profiad wedi fy nghymell at anturiaethau pellach; ac rwyf ar hyn o bryd yn cynllunio i gerdded pob un o’r copaon dros 600 metr yng Nghymru, gan ragweld y bydd hyn yn cymryd deuddeg wythnos. Rwy’n siŵr y bydd ysbryd Llwybr Arfordir Cymru yn aros gyda mi wrth i mi ddechrau ar yr antur newydd hon. Pan ddaw’r arfordir i’r golwg, bydd yn sicr yn dwyn yn ôl atgofion hapus un hen begor, y ‘dros drigain ‘ cyntaf i dreulio pum deg dau o ddiwrnodau yn cerdded o amgylch Cymru, gan gynnwys y llwybr arfordirol newydd gwych hwn!

Twitter: @mikethegrump