Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Yr her 

Rwy’n byw ynghanol prydferthwch Seland Newydd (Christchurch ar Ynys y De) ers 10 mlynedd bellach. Fel cyn redwr marathon 75 mlwydd oed, roeddwn yn chwilio am her newydd. Roedd taith gerdded ar fy mhen fy hun, ond nid ras, yn ymddangos yn syniad da. Penderfynais ar Lwybr Arfordir Cymru gan fod gen i gysylltiad cryf â’r Cymry ac wedi bod yn briod â merch o Ffynnon Taf am 49 o flynyddoedd. A dyna daith oedd hi: yn cynnig harddwch naturiol digyffwrdd a chyferbyniadau anhygoel drwy’r wyth ardal. Cymerais 72 diwrnod i gwblhau’r daith gan wneud tua 12 milltir y diwrnod a chodais £1,400 i’r RNLI ym Mhrydain a thua$3,000 doler i’r Gwasanaeth Hofrennydd Achub Awyr yn Seland Newydd.

Munudau cofiadwy

Gadewais Queensferry ger Caer gyda 109 o fapiau Arolwg Ordnans (yr 870 milltir llawn) mor gyffrous. Roeddwn yn edrych ymlaen yn fawr at ailymweld â lleoliadau anhygoel yng Nghymru lle treuliais nifer o wyliau hapus gyda’m diweddar wraig Mary, yn cerdded ar hyd clogwyni ysblennydd, ar lan traethau rhamantus ac ar bromenadau glan môr. Roedd cerdded trwy’r coetiroedd hynafol yn bleser pur. Roedd carpedi o glychau’r gog a blodau gwyllt eraill yn doreithiog ymhob man! Ymhlith fy hoff atgofion mae bod mewn llefydd pellennig yn gwylio parau o eifr yn rhuthro at ei gilydd yn chwareus a chlecio’u cyrn a miloedd o ŵyn bach yn prancio o amgylch y defaid - pleserau bach syml! Cefais olygfa anhygoel ger Whitesands - dros gant o geffylau, eu hanner yn ebolion, yn pori mewn dôl helaeth. Fe’m syfrdanwyd gan harddwch llwyr wrth aros i orffwys ym Mwnt a gwylio’r dolffiniaid! Gwelais y bad achub newydd gwerth £2.7 miliwn ar y môr yn St Justinians - da iawn y ddynes a gyfrannodd y rhodd arbennig honno! Profais y llawenydd anarferol o gysgu ar wely haul ar landin Gwely a Brecwast Felingog yn Solfach gan nad oedd lle mewn unrhyw lety y noson honno (oherwydd priodas leol!) Pleser annisgwyl oedd cyfarfod Rod Morgan ar Draeth Niwgwl a oedd yn hyfforddi ar gyfer taith elusen Walk on Wales. Cyn filwr yn y Gwarchodlu Cymreig oedd ef a oedd hefyd yn wynebu her y llwybr arfordir cyfan. Cefais gymaint o fwynhad yn cyfarfod pobl garedig a chynnes a estynnodd law cyfeillgarwch ym mhob man y bûm. Sut mae curo hyn?!

Yr isafbwyntiau

Fi oedd ar fai am ychydig o ddiwrnodau anodd, dim byd i wneud â’r tirwedd serth a chreigiog, ond gormod o alcohol gyda phobl yn rhy garedig yn prynu diodydd i mi mewn tafarndai - byddai wedi bod yn anghwrtais gwrthod! Cefais ambell i ddiwrnod gwlyb a gwyntog iawn pan na welais i’r un enaid byw drwy’r dydd. Teimlwn yn unig ac yn fregus allan yno’n ymlwybro ar hyd y llwybr. Yna reit ar y diwedd, wedi cyrraedd y 500 milltir, penderfynais ddathlu drwy neidio i’r awyr, troelli a glanio’n lletchwith a olygodd fod fy mhen-glin yn brifo am wythnosau. Gwirion neu beth!

Y diwedd

Cefais gefnogaeth arbennig gan ffrindiau a pherthnasau ar hyd y daith, a hyd yn oed derbyniad siampên a chacen annisgwyl yn y terfyn yng Nghas-gwent! Mwynheais (bron) bob munud o’r daith arwrol hon. Siwrne anhygoel yn wir.

Diolch o galon i ti Gymru!

Peter Alan, y cerddwr ‘gwallgof’.