Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Eich ysbrydoliaeth: Wedi ymddeol heb unrhyw gyfyngiadau amser

Dyddiad dechrau: 7 Mai 2016

Dyddiad gorffen: 25 Mehefin (a gorffen Llwybr Clawdd Offa ar 4 Gorffennaf).

Uchafbwyntiau

Cyfarfod cymaint o bobl ddidwyll oedd â diddordeb yn y daith, yn ogystal â haelioni pobl Cymru. Cefais gwpwl o nosweithiau am ddim mewn 2 faes pebyll oherwydd beth roeddwn i’n ei wneud.

Hefyd, y ffaith ’mod i wedi cario bag ar fy nghefn yr holl ffordd ac wedi treulio pob noson yn fy mhabell gan gwblhau Llwybr Arfordir Cymru mewn 50 niwrnod a Llwybr Clawdd Offa mewn 10 arall. Felly cyfanswm o 60 diwrnod heb unrhyw hoe – 20 diwrnod yn gynt na’r amserlen!

Isafbwyntiau

Y ffaith bod fy esgidiau cerdded lledr drud wedi gwisgo ac i mi orfod prynu pâr rhad i orffen llwybr yr arfordir ac i gerdded Clawdd Offa. Gan fod y tywydd yn wael roedd fy nhraed i’n wlyb am bron i bythefnos.

Dim ond un diwrnod gwael ges i ble ro’n i’n meddwl pam ar y ddaear ro’n i’n gwneud y fath beth. Ro’n i ar fy mhen fy hun felly roedd yn anodd ysgogi fy hun ond ro’n i’n gwybod bod yn rhaid i mi orffen. Roedd fy nghariad yn gefn mawr i mi, ac yn fy ffonio’n rheolaidd ac yn rhoi gwybodaeth i fi am ragolygon y tywydd. Roedd hi hefyd yn rhoi gwybodaeth i mi am ble allwn i ddod o hyd i fwyd a meysydd pebyll.  

Ennyd o oleuni

Mae gen i gymaint o atgofion ac fe gefais gymaint o brofiadau wrth gerdded. Roedd dwy fenyw mewn siop ym Mhorthcawl yn edrych yn rhyfedd arna i a doedd gen i ddim syniad pam tan i mi dynnu’r bag oddi ar fy nghefn i roi’r bwyd ynddo a gweld fy nillad isaf a phâr o sanau yno’n sychu. Dim rhyfedd eu bod nhw’n edrych yn od!

Mi wnes i drio cyfnewid yr esgidiau oedd wedi gwisgo gyda bachgen o’r fyddin ond roedd ei esgidiau e’n dod i fyny’n rhy uchel ar fy nghoesau ac yn boenus iawn. Felly yn y diwedd bu’n rhaid i mi brynu pâr rhad ar y cyfle cyntaf posibl, a hynny yng Nghaerfyrddin. Petawn i wedi cadw’r hen bâr, o leia’ byddai ’nhraed i wedi bod yn sych!

Fe wthiais fy hun ddwywaith a gwneud 27 milltir ar ddau achlysur gwahanol. Y tro cyntaf, er mwyn gweld Lloegr yn colli yn erbyn Gwlad yr Iâ a’r ail dro er mwyn gweld Cymru v Gwlad Belg yn Ewro 2016. Ond ar ôl cyrraedd, doedd gan y dafarn yng Nghymru ddim teledu – am siom!

Llun (uwch) Sir Fflint/Caer mân ddechrau/gorffen (Gogledd)

Mae digon o arwyddion clir ar y llwybr a dim ond unwaith wnes i fynd y ffordd anghywir a gorfod cerdded ychydig o filltiroedd ychwanegol. Mi wnes i lwyddo i arbed ambell i filltir hefyd wrth rydio afon yn ymyl traeth Coney yn gwisgo esgid wnes i ffeindio ac un flip flop oedd wedi dod i mewn i’r traeth gyda’r môr. Roeddwn i wedi ceisio croesi heb ddim byd ar fy nhraed ond roedd y cerrig yn rhy boenus, yn enwedig gan fod gen i bothelli’n barod. Fe dorrodd y flip flop hanner ffordd ar draws ond yn ffodus iawn mi ddes o hyd i hen fŵt (un droed dde oedd hi ond fe wnes i lwyddo i’w gosod ar fy nhroed chwith!) a llwyddo i groesi. Roeddwn i wedi arbed cryn dipyn o filltiroedd ac wedi diddanu nifer o bobl oedd yn gwylio yn Aberogwr!

Llun (uwch): Sir Fflint gyda cherflun milwr

Llun: Pont Grog Casnewydd

Er mwyn arbed ychydig o filltiroedd mi dalais £3 am docyn i gerdded ar draws pont grog Casnewydd. Ar ôl dringo tua 280 gris i’r top, roeddwn i’n dechrau ailfeddwl. Ond roeddwn i wedi talu £3, felly mi gerddais ar draws heb edrych i lawr o gwbl gan chwibanu alaw Gwŷr Harlech i fi fy hun! Arbed ychydig o filltiroedd a gorchfygu fy ofn o uchder ar yr un pryd!

Roedd y golygfeydd yn odidog o’r dechrau i’r diwedd, hyd yn oed yn yr ardaloedd mwy diwydiannol. Un lle arbennig sydd yn aros yn y cof yw eglwys gadeiriol wych Tyddewi. Bwyteais fy swper un noson yn edrych i lawr arni.

Ar y cyfan, roedd yn antur hollol ryfeddol a byddwn yn awgrymu i unrhyw gerddwr sy’n hoff o gerdded pellteroedd mawr ei bod hi’n werth cerdded yr holl lwybr mewn un tro os oes modd.

Hynny yw, dw i’n ei argymell cyn belled â bod dim ots gennych chi gael buches o fustych yn rhedeg ar eich ôl chi a cholli 2 stôn a hanner o bwysau!    

 

Llun (uwch): Pabell yn Stackpole, Sir Benfro 

(Lluniau: Ron Spark)